Pôl yn gofyn barn am yr ymdriniaeth o Covid
- Cyhoeddwyd
Mae pôl piniwn yn awgrymu bod y cyhoedd yng Nghymru yn fwy tebygol o gredu bod Llywodraeth Cymru wedi delio â haint coronafeirws yn well na gweinidogion y DU.
Cafodd arolwg blynyddol BBC Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ei gynnal gan ICM Unlimited.
Mae'n awgrymu bod saith o bob 10 (70%) o bobl Cymru yn credu bod y llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi delio â'r pandemig naill ai'n dda iawn neu'n gymharol dda.
Mae dau o bob pump (41%) yn credu bod yr un peth yn wir am Lywodraeth San Steffan.
Dywed Gregor Jackson o ICM bod yr un patrwm i'w weld mewn gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan y BBC yn Yr Alban ym mis Tachwedd gyda mwy yn dweud bod perfformiad y llywodraeth yng Nghaeredin yn well na pherfformiad Llywodraeth San Steffan.
Ychwanegodd: "Cefnogaeth gref i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu yn hytrach na San Steffan sydd i gyfrif bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng yn yr arolwg."
Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd, cynghorau a busnesau "fel un Tîm Cymru, er mwyn achub bywydau a bywoliaethau".
Dywed Llywodraeth San Steffan eu bod wedi bod yn delio â'r pandemig fel un Deyrnas Unedig gan gydweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig.
Mae'r pôl yn awgrymu hefyd bod y mwyafrif o bobl Cymru yn teimlo nad yw'r pandemig wedi cael effaith ar eu hincwm.
Dywedodd 55% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg nad oedd y pandemig wedi cael effaith gwell na gwaeth arnyn nhw.
Ond dywedodd 32% eu bod yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu cyllid personol - dim ond 12% ddywedodd bod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar eu harian personol.
Dywed ICM bod y canfyddiadau yn cyd-fynd yn fras a data y DU yn ystod Tachwedd y llynedd.
Mae'r pôl piniwn yn nodi hefyd fod pobl yn credu y dylai'r gwasanaeth iechyd fod yn flaenoriaeth wedi'r pandemig.
Dywedodd 39% mai dyna'r maes y bydden nhw'n ei ddewis gyntaf o ran buddsoddi ynddo.
Ar ôl y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn credu y dylid buddsoddi yn yr economi a swyddi (32%) ac yna mewn addysg ac ysgolion (16%).
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n wedi canolbwyntio gydol y pandemig ar gadw Cymru'n ddiogel.
"Ry'n wedi cyflwyno mesurau penodol gan gydweithio'n agos gyda'r GIG yng Nghymru, llywodraeth leol, busnesau ac eraill - ry'n wedi gweithio fel un Tîm Cymru, i arbed bywydau a bywoliaethau.
"Ry'n yn gwybod bod y llynedd wedi bod yn her enfawr i gymaint. Ry'n yn diolch i bobl Cymru am bob aberth ac ymdrech yn ystod y cyfnodau clo sydd wedi bod yn gwbl allweddol i ostwng cyfradd yr achosion ac yn gymorth yn yr ymdrech i achub bywydau."
'Cefnogi dros 500,000 o swyddi yng Nghymru'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan: "O'r dechrau ry'n wedi bod yn delio â'r pandemig fel un Deyrnas Unedig gan gydweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig a dilyn y cyngor gwyddonol gorau.
"Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymateb yn gyflym a sicrhau un o'r pecynnau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y byd - gan gefnogi dros 500,000 o swyddi yng Nghymru a darparu £6bn i Lywodraeth Cymru i ddelio â'r pandemig.
"Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu dros 50 o ganolfannau profi yng Nghymru, wedi darparu cyfarpar PPE ychwanegol, wedi sicrhau profion torfol yn ôl yr angen a chefnogaeth Lluoedd Arfog y DU.
"Yn ogystal mae wedi sicrhau a dosbarthu cannoedd o filoedd o frechlynnau i Gymru ac mae llwyddiant y cynllun brechu yn golygu bod dychwelyd i fywyd normal gam yn nes.
"Wrth i ni gefnu ar y pandemig fe wnawn roi blaenoriaeth i swyddi, twf a buddsoddiad a pharhau i sicrhau bod cenhedloedd a rhanbarthau y DU yn gyfartal."
Fe wnaeth ICM Unlimited gyfweld â sampl gynrychiadol o 1,001 o bobl dros 16 oed ar y ffôn rhwng 28 Ionawr a 21 Chwefror. Cafodd cyfweliadau eu cynnal ar draws Cymru. Mae ICM yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn dilyn ei reolau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021