Ymestyn cyfnod ymgynghori ar gau ysgol gynradd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Gâr wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gynlluniau i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg tan ddiwedd tymor yr haf.
Ym mis Rhagfyr fe benderfynodd y cyngor sir i ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol am fod yna ormod o lefydd gwag ac am fod cyflwr yr adeiladau yno yn wael.
Y cynllun posib yw cau'r ysgol a symud y disgyblion - 38 ohonyn nhw - i Ysgol Gwenllian, gyda'r bwriad yn y pen draw o godi ysgol Gymraeg newydd yng Nghydweli.
Roedd ymgyrchwyr yn erbyn y cynlluniau wedi dadlau ei bod hi'n annheg cynnal ymgynghoriad ynghanol pandemig.
Ond dywed y cyngor fod ymestyn y cyfnod ymgynghori tan ddydd Gwener, 16 Gorffennaf, yn "sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud".
Dywed y cyngor hefyd eu bod yn dilyn canllawiau anstatudol newydd Llywodraeth Cymru ar arferion gorau o ran ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig.
Yn sgil penderfyniad y cyngor ddydd Llun, mae'r ymgynghoriadau canlynol hefyd wedi'u hymestyn tan 16 Gorffennaf:
Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11;
Cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe;
Cynnig i ad-drefnu ac ailfodelu'r gwasanaethau cymorth ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc;
Cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin.
Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell ei fod yn cefnogi cynnig y Cynghorydd Glynog Davies gan ychwanegu ei fod yn "gynnig doeth a synhwyrol o dan yr amgylchiadau".
"Mae hyn yn rhoi pob cyfle i rieni a staff a phawb arall roi eu barn," meddai.
"Mae'r ymateb a gawsom hyd yn hyn wedi profi bod ein hymgynghoriad wedi bod yn effeithiol iawn, ond byddai hyn yn caniatáu mwy o amser ac yn dangos ein bod yn barod i fod yn hyblyg hefyd," ychwanegodd.
Mae Manon Gravell - cyn-ddisgybl yn Ysgol Mynydd-y-Garreg a merch i'r diweddar Ray Gravell - ymysg y rhai sy'n erbyn y cynlluniau i gau'r ysgol.
Fe chwaraeodd Ray Gravell, cyn-chwaraewr rygbi Cymru, rhan flaenllaw yn yr ymgyrch i gadw'r ysgol ar agor yn 2006 pan oedd yna fygythiad y byddai'n cau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021