Cymru'n gwahardd ysmygu ar dir ysbytai ac ysgolion

  • Cyhoeddwyd
A man with a mask around his neck smokingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl yn torri'r gyfraith os yn ysmygu ar dir ysbyty o ddydd Llun ymlaen

Bydd pobl sy'n ysmygu ar dir ysbytai, ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu £100 o ddirwy o ddydd Llun ymlaen.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi hefyd bod yn rhaid i fannau awyr agored lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant yng Nghymru fod yn ddi-fwg.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan ei bod yn "ddiwrnod o falchder i Gymru" ac y byddai "o fudd i iechyd cenedlaethau'r dyfodol".

Ond mae ymgyrchwyr dros hawliau ysmygwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o geisio "rheoli bywydau pobl".

Y tro diwethaf i ddeddfwriaeth allweddol gael ei chyflwyno ar hawliau ysmygu oedd yn 2015 pan nodwyd ei bod yn anghyfreithlon bellach i ysmygu mewn ceir yng nghwmni plant yng Nghymru a Lloegr.

Cafodd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caëedig ei wahardd yn 2007, dolen allanol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y ddeddf yn cael ei chyflwyno i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy geisio annog pobl i beidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf a thrwy gefnogi'r rhai sydd am roi'r gorau iddi.

Mewn ymdrech i orfodi'r ddeddfwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o'r gofynion di-fwg, mae system seinyddion gyda botwm y gellir ei bwyso wedi cael ei gosod wrth fynedfeydd Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd newydd ei hadeiladu yng Nghwmbrân, ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Mae system tebyg wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol mewn ysbytai ym myrddau iechyd Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro.

Bydd swyddogion gorfodi di-fwg, sy'n cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd, hefyd yn bresennol ar dir ysbytai, gan siarad ag unrhyw ysmygwyr a gofyn iddyn nhw ddiffodd eu sigarét.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn gobeithio y bydd y gwaharddiad yn cael yr un effaith â deddfwriaeth 2007

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan: "Rydyn ni'n hynod o falch o ddod â'r ddeddf hon i rym heddiw, gan wneud tir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae a lleoliadau awyr agored gofal plant yn ddi-fwg yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi gweld effaith y gwaharddiad ar ysmygu dan do ac yn gobeithio y bydd y gwaharddiad hwn yr un mor llwyddiannus.

"Bydd y ddeddfwriaeth hon o fudd i iechyd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, gan y bydd llai o blant yn dod i gysylltiad ag ysmygu ac felly'r gobaith yw y bydd llai ohonyn nhw'n dechrau ysmygu eu hunain.

"Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i drechu effeithiau niweidiol ysmygu."

Ond dywed Forest - y sefydliad sy'n ymgyrchu am yr hawl i bobl fwynhau tybaco bod y gyfraith yn "ddianghenraid ac yn anghywir".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwahardd ysmygu mewn ysbytai yn "ddianghnerhaid ac yn anghywir", medd sefydliad Forest

Dywed cyfarwyddwr Forest, Simon Clark, nad oes tystiolaeth yn awgrymu y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cyflawni yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am iddi wneud.

"Mae gwahardd ysmygu mewn ysbytai yn anghyfiawn," medd Mr Clark, "gan fod hynny yn targedu ysmygwyr o dan bwysau ac sydd angen cysur sigarét."

"Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr," ychwanegodd, "yn synhwyrol a ddim yn ysmygu lle mae plant bach yn bresennol. Does dim angen cael gwleidyddion i ddweud wrthyn nhw sut mae ymddwyn."

Mae arolwg diweddar gan ASH (Action on Smoking and Health) yn awgrymu bod 33,000 o bobl yng Nghymru wedi stopio ysmygu ers dechrau'r pandemig.