Y Gleision i ail frandio fel Rygbi Caerdydd o'r tymor nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd Gleision Caerdydd yn gollwng y gair Gleision o'u henw o'r tymor nesaf ymlaen, gan ail-frandio fel Rygbi Caerdydd.
Mae'r clwb wedi lansio logo newydd, ac fe fyddan nhw'n dychwelyd i chwarae mewn crysau glas a du.
Bydd y clwb arall yn y brifddinas, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, yn parhau dan yr enw Clwb Rygbi Caerdydd, neu Cardiff RFC.
"Rydyn ni'n gweld y newid hwn fel cam allweddol yn natblygiad rygbi ar y lefel uchaf yng Nghaerdydd," meddai prif weithredwr y clwb, Richard Holland.
Yr enw Gleision Caerdydd oedd yr unig un i beidio newid ers i'r rhanbarthau gael eu creu 18 mlynedd yn ôl.
Mae'r Dreigiau, Scarlets a'r Gweilch eisoes wedi newid eu henwau, gan dynnu'r lleoliadau, tra bod pumed rhanbarth - Y Rhyfelwyr Celtaidd - wedi chwarae un tymor yn unig cyn chwalu.
Ond cefnu ar y llysenw mae'r Gleision - gan gadw'r lleoliad.
Mae'r newid enw yn annhebygol o fod yn boblogaidd yn y rhannau o'r rhanbarth sydd y tu allan i Gaerdydd, fel y cymoedd.
Ond dywedodd y clwb bod y penderfyniad wedi'i wneud ar ôl ystyried o ble daw'r cefnogwyr presennol, adborth gan gefnogwyr a thrafodaethau gyda grwpiau cefnogwyr, noddwyr a phartneriaid eraill fel Undeb Rygbi Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021