Beth yw'r broses o drin anaf rygbi difrifol?
- Cyhoeddwyd
Pan fo chwaraewr rygbi ar y safon uchaf yn cael anaf difrifol mae'r siwrne nôl i ffitrwydd yn gallu bod yn un hir ac anodd. Ond o gwmpas y chwaraewr yna mae tîm o arbenigwyr sydd â'r dasg o gynllunio sut mae'n goroesi'r anaf.
Gruff Parsons yw Prif Ffisiotherapydd Gleision Caerdydd, ac mae wedi delio gyda nifer o wahanol anafiadau a heriau dros ei amser gyda'r rhanbarth.
"Mae yna bedwar physio llawn-amser gyda ni yn y Gleision, ac un sports therapist hefyd. Mae yna ddoctoriaid sy'n dod atom ni cwpl o ddiwrnodau'r wythnos," meddai Gruff.
"Mae gennym ni sawl rôl gwahanol o fewn y tîm ac mae'r dyletswyddau yn newid. Mae dau o'r physios yn gweithio gyda'r chwaraewyr sydd wedi ei hanafu am amser hir, sy'n golygu cyfnod hirach na tair wythnos. Ac mae dau yn gweithio gyda'r chwaraewyr sydd wedi eu hanafu am lai na tair wythnos.
"Fel arfer 'da ni'n rhannu'r dyletswyddau diwrnodau gêm, fel bod pawb ddim yn gorfod bod yna bob wythnos - mae pawb yn mwynhau gwneud y gemau, ac fydda i'n gwneud bob yn ail wythnos fel arfer."
Gofal meddygol
Mae'r tîm meddygol ar ochr y cae sy'n gofalu am y garfan ar ddiwrnod gêm yn eitha' cynhwysfawr.
"Ar ddiwrnod gêm mae yna ddau physio, un doctor i'r tîm, ac un yn y twnnel sydd yn immediate care doctor ac sy'n ddoctor profiadol iawn," meddai Gruff.
"Mae yna ddoctor cyfergyd yn y stafell feddygol, mae yna ddoctor orthopedig yn yr eisteddle, ac mae'r ysbyty'n cael gwybod bob tro mae yna gêm rhag ofn bod 'na ddigwyddiad mawr.
"Dyma yw'r safon sy'n ddisgwyliedig ar gyfer y Pro14, sy'n dangos o faint o ymdrech yw e a faint o ofal sydd angen. Ond i gemau Cymru mae yna radiolegydd yna, deintydd, ac eraill, ond mae'r chwaraewyr mewn gofal arbennig o dda ar unrhyw lefel proffesiynol.
"Mae gwahaniaeth mawr rhwng rhoi triniaeth ar y cae ac yn y stafell driniaeth. Yn y stafell driniaeth mae'n systematic iawn, gan ddechrau gyda'r subjective history a mynd drwy hanes yr anaf, sut ddechreuodd y boen a beth oedd e'n gwneud ar y pryd, oedd e di chwyddo, pa mor boenus ydy o allan o 10, ydy'r poen yn diflannu weithiau...
"Wedi gwneud hynny mae gennych syniad reit dda o beth sy'n mynd 'mlaen. Yna mae 'na archwiliad o'r anaf, sut mae'r cymalau'n symud, a gweld beth yw'r strwythur sydd 'di anafu - ligaments neu cyhyr. Yna mae rhaid edrych ar sut mae'n gweithredu - ydy'r chwaraewr yn gallu gwneud squat ag ati. Yn anffodus mae rhai yna'n gorfod mynd ymlaen i weld llawfeddyg orthopedig."
Mae Gruff yn cydnabod bod amodau gemau mawr, yn y stadiwm cenedlaethol er enghraifft, yn gallu bod yn heriol:
"Mae gwneud e o flaen 70,000 o bobl ac ar y teledu o fewn munud yn anodd, ac mae'r chwaraewr eisiau aros ar y cae wrth gwrs, ac mae rhaid gwneud penderfyniad os ydi e'n aros ar y cae neu beidio.
"Fel arfer mae rhwng 20%-25% o chwaraewyr y garfan wedi eu hanafu ar unrhyw bryd, ac mae gan garfan proffesiynol 45-50 chwaraewr. Os ydyn ni'n gallu cael y tîm cyntaf yn agos i gryfder llawn mae'n adlewyrchu'n dda ar y tîm meddygol a'r bois strength and conditioning. "
Ar 24 Tachwedd 2018 fe gafodd blaenasgellwr y Gleision anaf difrifol i'w ben-glin tra'n cynrychioli Cymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica.
"Gyda Ellis Jenkins roedd y siwrne yn un cymhleth iawn, gyda adegau o fod yn hynod o uchel ac isel," meddai Gruff.
Ymdrech tîm
"I rhywun fel Ellis, mae'n bwysig bod fel cydlynydd, achos dim ond un agwedd yw'r physio. Oedden ni'n gweithio gyda hyfforddwyr strength and conditioning, bobl yn edrych ar ôl y diet, seicolegydd, ac yn y blaen, ac wrth gwrs yr ochr rygbi ar gyfer yr ochr dechnegol. Mae rhaid trin y rehab fel bod o'n dod o bob ongl, achos be sy'n bwysig ydi cael rhywun i berfformio, nid dim ond i chwarae.
"Mae'n rhwydd cael rhywun i chwarae, a bod nhw ddim yn symud yn dda a ddim yn perfformio. Felly mae'n rhaid adolygu'n rheolaidd sut mae'r chwaraewr yn dod nôl o anaf, ac mae pob manylyn yn bwysig.
"Mae cyfres o arbrofion mae rhaid i'r chwaraewr allu gwneud cyn mynd nôl i redeg, a cyn iddyn nhw fynd nôl i chwarae mae rhaid iddyn nhw gyrraedd criteria arbennig lle mae rhaid iddyn nhw basio gymaint o arbrofion - cryfder, hopian, cyflymder.
"Mae'n rhaid iddyn nhw fod o fewn canran i'r ffigyrau delfrydol, felly pan maen nhw'n mynd nôl i chwarae mae i gyd wedi ei seilio ar dystiolaeth a data.
"Ond be dwi methu helpu gyda yw'r taclo a cryfder dros y bêl yn y ryc ac ati - dyna lle dwi'n cydweithio efo bobl fel T. Rhys Thomas, y cyn-chwaraewr rhyngwladol, sydd yn rhan o'r tîm hyfforddi yma gyda'r Gleision i weithio ar sgiliau rygbi.
"Y rhan olaf o cael nhw nôl fewn yw'r cynllun i atal niwed hir-dymor, ac be sy'n bosib gwneud i fod yn proactif fel bod yr anaf ddim yn dod nôl.
"Ond weithiau chi'n gallu gwneud gymaint a chi'n gallu, ond ma rhai anafiadau yn rhy ddifrifol - am bod gofynion y gêm mor uchel."
Anffawd Rhun Williams
Chwaraewr arall sydd wedi bod ar daith anodd gydag anafiadau yw Rhun Williams.
Roedd y cefnwr o Lanrug ger Caernarfon yn chwarae i Gleision Caerdydd, ond roedd rhaid iddo ymddeol o rygbi ag yntau ond yn 22 oed.
"O'n i'n gweithio gyda Rhun am sbel, ac mae e mor bwysig bod chi'n dod 'mlaen gyda'r chwaraewyr 'ma, ac dwi'n ffodus fy mod i," meddai Gruff.
"Mae'n bwysig bod chi'n gwybod pryd i siarad, pryd i gadw'n dawel achos mae dyddiau lle mae'r chwaraewyr yn isel o ran ysbryd oherwydd rhyw set-back, neu pryd mae angen mynd am goffi neu pryd o fwyd, a jest gwario amser i ffwrdd o'r clwb.
"Mae'n siwrne hir iawn, ac rwyt ti'n dod yn rhyw confidant i nhw - dwi'n gwario pum neu chwe awr gyda'r chwaraewyr, sy'n fwy o amser 'na be dwi'n wario gyda ngwraig i.
"Dwi dal yn ffrindiau da gyda Rhun, ac yn y dechrau oedd e wedi cael anaf mor gas i'w ysgwydd doedd e methu codi ei fraich.
"Roedd e'n brofiad mor arbennig i weithio gyda Rhun, a jest cael o nôl i allu symud ei fraich a chwarae golff a gwneud pethau dydd i dydd.
"Mae'r gofal ar ôl i yrfa ddod i ben mor bwysig, ac mae'r Gleision yn wych yn yr ystyr yna."
Ellis yn dychwelyd i chwarae
"Pan o'n i'n gweld Ellis Jenkins nôl yn chwarae, ac yn serennu yn y gemau, roeddwn i'n falch iawn. Ond mae'n ymdrech tîm i gael nhw nôl o anaf, gyda llawer o wahanol bobl yn rhan ohono.
"Yn ei gêm gyntaf nôl, pan welais i Ellis dros y bêl yn y ryc ac yn cyflawni ei jackal cyntaf, o'n i'n teimlo'n emosiynol, achos o'n i wedi mynd drwy gymaint efo fo.
"Dwi 'di bod drwy lot gyda fe a dwi'n meddwl fydden ni'n ffrindiau oes, a dwi jest yn edrych ymlaen i weld e'n datblygu a gobeithio ffeindio ei ffordd nôl fewn i grys coch Cymru rhyw ddydd."
Hefyd o ddiddordeb: