Lle i enaid gael llonydd: Siân James
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Siân James yn mwynhau cerdded yn ôl troed rhai o'i chyndeidiau er mwyn cael cyfle i lonyddu'r meddwl.
Eisteddai fy nghartref yng nghysgod Boncyn Gardden - bryn a edrychai lawr ar bentref Llanerfyl a'r dyffryn toreithiog islaw.
Ar frig y boncyn hwnnw mae bryngaer, ac i fanno yr âf pan fydd angen ymarfer fy nghorff a chysuro'r enaid.
Ymlwybrai'r llwybr serth o du ôl y tŷ ar hyd ochr y bryn, ac i'r dde o hwnnw treiglai nant fach fyrlymus a darddai o'r mynydd uwchlaw. Llifai heibio hen adfail o'r enw Castell lle bu fy nghyn-deidiau'n byw ar ôl ffoi o Fflandrys sawl canrif ynghynt, oherwydd eu crêd.
Gwehyddwyr oeddan nhw'n wreiddiol mae'n debyg a symudon nhw ar draws y cwm o Castell i ffermdy'r Gardden ac ymgartrefu yno rhywdro yn ystod y ddeunawfed ganrif. Mae'n debyg i Gardden gael ei hadeiladu o gerrig wal y fryngaer ei hun.
Ar ôl cyrraedd ben y boncyn, yn cuddio ymysg y rhedyn mae'r fynedfa - y drws bac fel petai - a thwmpath o laswellt a fu yn wal warchodol o gerrig a phren nôl yn y gorffennol pell, yn ymestyn yn berffaith grwn ar frig y bryn.
Mae'r olygfa sydd yn fy aros er gwaetha'r tuchan a'r chwysu, yn syfrdanol. Tua'r chwith mae tiroedd gwyllt Cwm Nant yr Eira a ffermydd y Sychtyn a Moelddolwen yn glir i'w gweld yn nhonnau'r tirwedd sy'n ymestyn tuag at Lanbryn-mair a Thalerddig.
Yna ynghanol y llun sydd o'm mlaen mae Dyffryn Banw, ac ar y gorwel tu hwnt iddo, copaon yr Aran a Chader Idris. I'r dde mae mynydd Moelbentyrch fel rhyw warchodwr bach dewr, a thu hwnt i hwnnw, tiroedd tonnog y ffin yn ymestyn tuag at Sir Amwythig a Lloegr.
Mae'n llonydd yno weithiau, yn enwedig ar ddiwrnod braf o haf, a chân a chwmnïaeth yr ehedydd bach uwchben yn falm i'r enaid.
Ond rhan amla' mae'n 'sgythrog, a'r gwynt o ba bynnag cyfeiriad y daw, ynghyd â harddwch yr olygfa, yn gymorth mawr i atgyfnerthu'r meddwl ac i roi rhyw fath o bersbectif ar ofidiau'r dydd.
Hefyd o ddiddordeb: