Ryan Giggs ddim wrth y llyw am dair gêm arall i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd rheolwr y tîm cenedlaethol wrth y llyw am dair gêm nesaf Cymru.

Dywedodd y Gymdeithas mewn datganiad eu bod nhw a Giggs wedi dod i'r penderfyniad ar y cyd.

Bydd Robert Page yng ngofal y tîm am y gemau yn erbyn Gwlad Belg, Mecsico a'r Weriniaeth Siec gyda chefnogaeth Albert Stuivenberg fel y digwyddodd yn y gemau ym mis Tachwedd y llynedd.

Ym mis Tachwedd, roedd adroddiadau papur newydd yn dweud ei fod wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad.

Ar y pryd, dywedodd ei gynrychiolwyr fod Giggs yn gwadu pob honiad o ymosodiad a wnaed yn ei erbyn.

Fis diwethaf cafodd cyfnod mechnïaeth Ryan Giggs, mewn cysylltiad â honiad o ymosod, ei ymestyn.

Cwpan y Byd

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch y gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2022 ar 24 Mawrth trwy deithio i wynebu Gwlad Belg.

Dridiau yn ddiweddarach, fe fyddan nhw'n croesawu Mecsico i Gaerdydd ar gyfer gêm gyfeillgar cyn i'r Weriniaeth Siec gyrraedd am gêm ragbrofol arall ar 30 Mawrth.

Mae disgwyl i Robert Page gyhoeddi'r garfan ar gyfer yr holl gemau ddydd Llun, 15 Mawrth.