Teulu Emiliano Sala yn dwyn achos Uchel Llys

  • Cyhoeddwyd
Sala posing with a Cardiff City shirt on 20 JanuaryFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Emiliano Sala had just signed with Cardiff City before the crash

Mae teulu'r pêl-droediwr o'r Ariannin, Emiliano Sala, yn dwyn achos llys yn dilyn ei farwolaeth mewn damwain awyren ddwy flynedd yn ôl.

Roedd clwb pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewr 28 oed o glwb Nantes am £15m, ond bu farw pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i'r môr ger ynys Guernsey ar 21 Ionawr 2019.

Dywed cyfreithwyr ar ran ei deulu eu bod wedi dechrau'r achos sifil yn yr Uchel Lys er mwyn "diogelu eu hawliau cyfreithiol" tra'n aros dyfarniad cwest i'w farwolaeth.

Mewn gwrandawiad cyn-cwest yn Bournemouth ddydd Mercher penderfynwyd y byddai cwest llawn i farwolaeth Sala yn cael ei gynnal ar 14 Chwefror 2022.

Cyhoeddwyd hefyd bod yr asiant wnaeth drefnu'r hediad - Willie McKay - yn "berson o ddiddordeb" mewn cysylltiad â'r cwest.

Hefyd yn y categori hwnnw mae perchnogion yr awyren - Southern Aircraft Consultancy - a gweithredwyr yr awyren - Cool Flourish Limited, a chyfarwyddwr y cwmni, Fay Keely.

'Gobeithio am atebion'

Cafwyd hyd i gorff Sala fis wedi'r ddamwain, ond nid yw corff y peilot, David Ibbotson, 59, o Crowle, Swydd Lincoln wedi cael ei ddarganfod.

Honnir mai dyn arall - David Henderson - oedd wedi trefnu'r daith awyren, ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ym mis Hydref ar gyhuddiad o beryglu diogelwch awyren ac o geisio gollwng teithiwr heb ganiatâd dilys nac awdurdod i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweddillion yr awyren Piper Malibu eu canfod ym Môr Udd

Cyn y gwrandawiad ddydd Mercher dywedodd y cyfreithiwr Daniel Machover bod y teulu'n dymuno i'r crwner osod dyddiad y cwest yn fuan wedi achos llys Mr Henderson, sydd i fod i ddechrau ar 18 Hydref.

"Yn y cyfamser, er mwyn diogelu eu hawliau cyfreithiol a rhwymedïau (remedies) yn codi o farwolaeth Emiliano, mae'r teulu wedi dechrau camau sifil yn yr Uchel Lys, ond byddant yn ceisio cael cytundeb i oedi'r camau hynny tra'n aros canlyniad y cwest," meddai.

"Yn hollbwysig, mae'r teulu'n gwybod y bydd y cwest yn rhoi atebion i'r nifer fawr o gwestiynau sydd ganddynt am yr hyn a aeth o'i le yn Ionawr 2019, a pham y cafodd bywyd Emiliano ei dorri'n fyr."

Colli rheolaeth

Mae adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi dod i'r casgliad bod yr awyren Piper Malibu oedd yn cario Emiliano Sala a David Ibbotson wedi dechrau datgymalu tra'n cael ei hedfan yn gyflymach nag y dylai awyren o'r fath, a bod y peilot wedi colli rheolaeth tra'n ceisio osgoi tywydd drwg.

Yn ôl yr adroddiad, roedd lle i gredu bod Mr Ibbotson wedi cael ei wenwyno gan nwy carbon monocsid oedd yn gollwng i gaban yr awyren oherwydd y difrod.

Canfu ymchwilwyr nad oedd Mr Ibbotson wedi cael ei hyfforddi i hedfan yn y nos, ac nad oedd wedi cael ymarfer digonol yn ddiweddar mewn hedfan trwy ddibynnu'n gyfan gwbl ar yr offer technegol i reoli'r awyren.

Ar ben hynny, nid oedd ei drwydded yn caniatáu iddo godi tâl am gynnal hediadau.