'Sa i'n hoffi'r tag influencer ond ma' pobl yn gwrando'
- Cyhoeddwyd
Ar 11 Mawrth 2020, gyda phandemig Covid-19 yn dechrau cydio, fe gyhoeddodd disgybl ysgol dabl ar Twitter yn dangos faint o achosion oedd bellach wedi'u cadarnhau yng Nghymru.
Union flwyddyn yn ddiweddarach mae Lloyd Warburton, 17, yn dal i gyhoeddi'r ystadegau - y gwahaniaeth mawr yw bod ei gynulleidfa bellach wedi chwyddo i 22,000 o ddilynwyr.
Yn ei eiriau ei hun dim ond "bachgen yn eistedd ar bwys cyfrifiadur", â mynediad i'r un ffynonellau o wybodaeth â'r rhan fwyaf o bobl, yw'r bachgen o Aberystwyth.
Ond ers hynny mae cydnabyddiaeth o'i waith wedi dod o bob cwr, gan gynnwys canmoliaeth gan ei Aelod o'r Senedd, Elin Jones, a gwobr ar raglen S4C.
'Pobl eisiau pethau syml'
Yn ôl Lloyd, roedd ganddo wastad ddiddordeb mewn ystadegau a phan ddechreuodd y pandemig y llynedd fe benderfynodd y byddai'n rhoi cynnig ar gyflwyno rhywfaint o'r wybodaeth ar ffurf tablau.
Chafodd o ddim llawer o ymateb i ddechrau, ond ar ôl rhyw wythnos "roedd pobl wedi dechrau rhannu nhw mwy a mwy", ac erbyn dechrau'r cyfnod clo cyntaf "roedd pethau bron wedi ffrwydro".
"Roedd tua 2,000 o bobl wedi dilyn yn wythnos cyntaf lockdown," meddai.
"Roeddwn i'n disgwyl ym mis Mawrth byddai'n mynd 'mlaen am ddau neu dri mis, ond na, roeddwn i'n anghywir!"
Wrth i Covid-19 ddod yn rhan ganolog o fywyd pob dydd pobl, roedd mwy a mwy o bobl yn troi at gyfrif Twitter Lloyd i weld beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf.
"Mae pobl eisiau pethau syml ar y we," meddai Lloyd, wrth drafod beth mae'n credu oedd apêl ei ystadegau ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dydy pobl ddim eisiau clicio ar linc i Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedyn mynd drwy'r dangosfwrdd ac wedyn gorfod edrych drwy fapiau a graffiau jyst i weld un peth
"Felly roedd rhoi popeth mewn i un slide mewn fformat syml iawn yn rhywbeth sy'n apelio at bron pawb sy'n defnyddio Twitter.
"Mae faint mae wedi tyfu... yn dangos bod yna le i rywun ifanc sy'n gallu rhoi pethau mewn ffordd syml iawn fel bod pobl jyst yn gallu edrych a rhannu."
Dylanwad ar y we
Gyda'r miloedd o ddilynwyr newydd daeth sylw a phroffil ychwanegol i'w gyfrif hefyd, rhywbeth mae Lloyd yn cyfaddef sydd wedi cymryd amser i ddod i arfer ag o.
"Sa'i really yn hoffi'r tag 'influencer'," meddai.
"Ond mae'r pethau fi'n dweud yn mynd mewn i bennau pobl, ac mae pobl yn gwrando arna'i, a weithiau sa'i yn sylweddoli hynna.
"Dwi'n dweud rhywbeth ac mae lot o bobl yn hoffi fe a fi'n meddwl 'oh, mae lot o bobl yn gwrando arna'i, falle fi'n gallu newid pethau'."
Mae'n ceisio cadw'i fywyd Twitter a'i fywyd go iawn ar wahân, meddai, ac yn mwynhau'r cyfleoedd i fynd am dro pan mae'n gallu er mwyn dianc i ffwrdd o'r sgrin weithiau.
"Fi'n trio peidio siarad amdano fe gyda fy ffrindiau, oherwydd fi'n gwybod falle ar ôl cwpl o wythnosau byddan nhw'n mynd 'shut up Lloyd!'," meddai gyda gwên.
"Ond sa'i wedi newid fel person gyda fy ffrindiau a dwi'n credu bod fy nheulu i'n eitha' balch."
Roedd y balchder yna ar ei amlycaf pan gafodd Lloyd y "fraint enfawr" o wobr gan raglen 'Dathlu Dewrder' ar S4C cyn y Nadolig, am ei waith gyda'i ystadegau a'i wefan.
"Nes i wylio'r sioe ar y noson ac roedd pobl eraill ar y sioe wedi creu masgiau a gweithio mewn ysbytai, ac roedd tamed bach o feddwl gen i bod nhw wedi 'neud lot yn fwy na fi," meddai.
"[Ond] fi'n credu bod faint o sylw mae hwn wedi cael, a'r wobr, yn dangos roedd yna le i fi yn y gymdeithas Gymraeg i roi ystadegau lan ar Twitter a bod pobl yn mynd i edrych arnyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021