Chwe Gwlad: Cymru i herio'r Eidal wrth anelu am Gamp Lawn

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Michael Steele
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mewnwr Gareth Davies yn ôl yn nhîm Cymru i herio'r Eidal

Bydd Cymru'n gobeithio cymryd cam arall yn agosach at y Gamp Lawn pan fyddan nhw'n herio'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ddiweddarach.

Llwyddodd Cymru i sicrhau'r Goron Driphlyg gyda'r fuddugoliaeth dros Loegr bythefnos yn ôl, a bellach dim ond yr Eidalwyr a Ffrainc sy'n sefyll rhwng tîm Wayne Pivac a'r bencampwriaeth.

Dyma'r pumed tro i Gymru gipio'r Goron Driphlyg, ac ymhob achos yn y gorffennol maen nhw wedi mynd ymlaen i sicrhau'r Gamp Lawn hefyd.

Er nad yw'r Eidal wedi ennill gêm yn y bencampwriaeth ers 2015, mae 'na rai arwyddion calonogol i'r Azzuri yn eu perfformiadau diweddar.

'Brwydr yn erbyn Yr Eidal'

Wrth ysgrifennu yn ei golofn i'r BBC, dywedodd olwr Cymru Liam Williams bod y garfan yn gwybod bod Yr Eidal yn dîm cryf wrth chwarae gartref, ac na fydd y chwaraewyr yn cymryd buddugoliaeth yn ganiataol.

"Mae'r hanner cyntaf bob tro yn frwydr yn erbyn Yr Eidal," meddai.

"Maen nhw'n un o'r timau mae'n rhaid i chi weithio'n galed a blino nhw. Bydden ni'n hyderus yn ein ffitrwydd yn yr ail hanner a gobeithio gallu manteisio.

"Dim ond wedyn bydd ein meddyliau'n troi at Ffrainc."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r capten Alun Wyn Jones hefyd yn wyliadwrus o fygythiad Yr Eidal, "sy'n hanesyddol yn gwella drwy'r gystadleuaeth", meddai.

"Dy'n ni wedi gweld pa mor beryglus maen nhw'n gallu bod gyda'r bartneriaeth naw a deg. Mae eu blaenwyr nhw wedi achosi problemau i rai timau, ac mae'n hawdd iawn baglu pan mae pawb o'r tu allan yn sôn am beth allwch chi ei wneud."

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Varney wedi ennill pum cap i'r Eidal

Mae 'na ddau newid i'r tîm oedd yn fuddugol yn Twickenham, gyda Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr yn lle Kieran Hardy - gafodd ei anafu'n erbyn Lloegr a fydd yn methu'r ddwy gêm nesaf.

Mae Cory Hill hefyd wedi ei ddewis yn yr ail reng ar ôl dod i'r cae fel eilydd a sgorio cais yn erbyn y Saeson.

Adam Beard sy'n cael ei orffwys ar gyfer y daith i Rhufain, gyda Lloyd Williams a Jake Ball, all ennill ei 50fed cap, wedi eu galw i'r garfan.

I'r Eidal mae'r mewnwr Stephen Varney, gafodd ei eni yn Sir Benfro, yn ôl yn dilyn anaf.

Mae'r asgellwr Mattia Bellini, y propiau Danilo Fischetti a Giosue Zilocchi, a'r ail reng Niccolo Cannone hefyd wedi eu dewis.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru â "jobyn i'w wneud" ddydd Sadwrn cyn meddwl am herio Ffrainc, medd Wayne Pivac

Ffrainc - yr unig dîm arall sydd heb golli hyd yma - ydy gwrthwynebwyr olaf Cymru yn y gystadleuaeth, ac fe fyddan nhw'n herio Lloegr am 16:45 yn Twickenham.

Ond mae hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud bod gan ei dîm "jobyn i'w wneud" cyn meddwl am y gêm olaf, a'r flaenoriaeth ydy'r canlyniad yn Rhufain.

"Peidiwch â disgwyl i ni fod yn taflu'r bêl dros y lle. Mae 'na jobyn i'w wneud, ac mae'n rhaid i ni fod ar y blaen cyn gweld y chwarae cyffrous yna."

Er hynny, y Cymry ydy'r ffefrynnau clir cyn y gêm, gyda gobaith o ymestyn y rhediad o 15 buddugoliaeth dros yr Eidalwyr a chymryd cam mawr tuag at y Gamp Lawn.

Cymru

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Leon Brown, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

Yr Eidal

Jacopo Trulla, Mattia Bellini, Juan Ignacio Brex, Carlo Canna, Montanna Ioane, Paolo Garbisi, Stephen Varney; Danilo Fischetti, Luca Bigi (capt), Giosue Zilocchi, Niccolo Cannone, David Sisi, Sebastian Negri, Johan Meyer, Michele Lamaro.

Eilyddion: Oliviero Fabiani, Andrea Lovotti, Marco Riccioni, Marco Lazzaroni, Maxime Mbanda, Marcello Violi, Federico Mori, Edoardo Padovani.

Cic gyntaf am 14:15.