Cwest: Safonau cartref gofal yn 'gwbl annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Brithdir care home
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cartref gofal bellach dan reolaeth cwmni arall

Mae cwest i farwolaethau chwech o bobl wedi clywed fod safonau cartref gofal yn y de yn "gwbl annigonol", a bod staff ddim wedi trin trigolion fel bodau dynol.

Mae'r crwner Geraint Williams wedi crynhoi ei gasgliadau i farwolaethau cyn-drigolion Cartref Nyrsio Brithdir yn Nhredegar Newydd, Sir Caerffili rhwng 2003 a 2005.

Dywedodd nad oedd sylw digonol wedi cael ei roi i'r trigolion ac yn "syml yr oll oedd yn digwydd oedd eu cadw a'u bwydo a rhoi dŵr iddynt" ac weithiau, meddai, "doedd y bwyd a'r dŵr ddim hyd yn oed yn ddigonol".

Fe wnaeth y cwest ymchwilio i farwolaethau Stanley James, 83, June Hamer, 71, William Hickman, 71, Stanley Bradford, 76, Edith Evans, 85, ac Evelyn Jones, 87.

'Brad i'r eithaf'

Ymgyrch Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn cyfres o gartrefi gofal yn y de ddwyrain rhwng 2005 a 2009.

Yn ogystal â diffyg gofal sylfaenol, clywodd y cwest bod preswylwyr Brithdir wedi datblygu doluriau pwysau, a bod dillad, gwallt a dannedd rhai yn fudr.

Wrth gyflwyno ei gasgliadau, ychwanegodd y crwner bod y ffaith bod nifer o aelodau staff heb dderbyn hyfforddiant wedi cyfrannu at y gofal gwael.

Clywodd y cwest bod gofalwyr a nyrsys fel arfer yn dysgu trwy gysgodi aelodau staff eraill, ac fe gyfaddefodd rhai i beidio dderbyn unrhyw fath o gyflwyniad swyddogol i'w swydd ym Mrithdir cyn dechrau.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Stanley Bradford, June Hamer, Evelyn Jones ac Edith Evans yn drigiolion yn y cartref gofal

Ychwanegodd Mr Williams fod teuluoedd wedi cael eu twyllo yn fwriadol am gyflwr eu hanwyliaid, a bod polisi bwriadol i beidio datgelu unrhyw broblemau i'r teuluoedd, yn ei farn ef.

"Roedd hyn yn frad i'r eithaf o'r ymddiriedaeth roedd teuluoedd wedi ei roi yn Brithdir," meddai Mr Williams.

Dywedodd fod cofnodion, gan gynnwys cynlluniau gofal a siartiau bwydo "mewn rhai achosion yn amlwg wedi eu ffugio".

'Cyfrannu at y marwolaethau'

Ymhlith y gweithgareddau gwaethaf, meddai, oedd sut oedd parch at drigolion yn cael ei anwybyddu.

Soniodd am enghreifftiau o glytiau rhai yn cael eu newid yng ngolwg gweddill y trigolion.

Yn ei ddatganiad roedd rheolwr y cartref, Peter Smith wedi dweud wrth y cwest nad oedd yn credu y byddai'r trigolion wedi sylwi oherwydd eu bod yn dioddef o ddementia.

Yn ôl Geraint Williams roedd y trefniadau wedi "cyfrannu yn sylweddol" at farwolaeth y chwech.

Ychwanegodd Mr Williams "ei fod yn fater o edifar o'r mwyaf fod cymaint o flynyddoedd wedi mynd heibio, gyda theuluoedd wedi ei hamddifadu o gyfiawnder".

Fe wnaeth sylwadau unigol am y marwolaethu.

Stanley Bradford

Roedd y crwner yn derbyn fod tystiolaeth merch Stanley Bradford yn gwbl gredadwy a'i fod yn cytuno fod staff y cartref wedi "anghofio" am ei thad.

Roedd yn derbyn fod y dystiolaeth yn dangos fod safon y gofal yn hynod ddiffygiol ac yn "ffactor sylweddol yn ei farwolaeth".

Oherwydd y diffyg gofal a dderbyniodd, cafodd ei olwg ei ddisgrifio fel un yn debyg i garcharor rhyfel.

Clywodd y cwest i Mr Bradford fod yn yr ysbyty am ddwy noson ar un adeg, er gwaetha'r ffaith bod aelod o staff Brithdir wedi nodi iddo fod yn y cartref ar yr un pryd.

Dywedodd y crwner bod staff wedi dweud celwyddau er mwyn rhoi'r argraff ei fod yn derbyn y gofal iawn.

Tra yn yr ysbyty, fe ddywedodd teulu Mr Bradford ei fod yn ymddangos yn hapusach. Ond pan wnaethon nhw sôn y byddai'n dychwelyd i Brithdir, fe ofynnodd "pam nad ydych chi'n caru fi rhagor?".

Dywedodd y crwner bod hyn yn dangos bod Mr Bradford "yn ddyn oedd yn ymwybodol o'r gofal esgeulus" yn y cartref gofal.

June Hamer

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth June Hamer golli tair ston tra yn y cartref gofal

Dywedodd y crwner fod June Hamer wedi dioddef "marwolaeth boenus ac anghyfforddus".

Clywodd y llys fod safon ei gofal yn wael ofnadwy, a'i bod yn aml wedi ei gadael mewn dillad gwlyb.

Roedd gofal hylendid yn cael ei anwybyddu, a doedd dim yn cael ei wneud i atal briwiau rhag datblygu.

Cred Geraint Williams fod un o'r briwiau oedd wedi ei heintio wedi bod yn rhannol gyfrifol am ei marwolaeth.

Edith Evans

Yn achos Edith Evans, dywedodd y Crwner fod "methiannau  yn ei gofal ar bob lefel" wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Symudodd i'r cartref yn 1997, a bu farw yn 2005 ar ôl datyblygu sepsis.

Clywodd y cwest bod Mrs Evans wedi ei bwydo drwy diwb yn uniongyrchol i'w stumog, a bod ei theulu wedi codi pryderopn gyda'r cartref gofal ynglŷn â'r ffaith bod angen glanhau'r tiwb.

Pan gludwyd Mrs Evans i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, roedd ganddi olwg "aflan, gyda'i gwallt yn flêr, a'i dillad yn fudr, ac wedi bod yn y cyflwr hwn ers cryn amser".

Roedd ei thiwb bwydo stumog wedi'i heintio gyda MRSA.

Nododd staff yr ysbyty eu bod nhw "mewn sioc" ynglŷn â safon y gofal.

Dywedodd nyrs yn yr ysbyty iddi ffonio'r cartref gofal a siarad â'r uwch nyrs a rheolwr, Phil McCaffrey, a ddisgrifiodd fel dyn "anghwrtais" ac "anghydweithredol".

Dywedodd hi iddyn nhw drafod tiwb Mrs Evans. Clywodd y cwest bod Mr McCaffrey ac aelodau eraill o staff y cartref gofal yn anymwybodol o unrhyw broblemau.

Dywedodd y Crwner ei fod yn ei chael yn "annirnadwy" nad oedden nhw'n ymwybodol o'r mater hwn.

Stanley James

Dywed y crwner i Stanley James ddatblygu nifer o friwiau gwasgedd - pressure sores - yn ystod ei gyfnod yn y cartref.

Clywodd y llys gan yr arbenigwr yr Athro Hodkinson nad oedd modd dweud a wnaeth Mr James farw o ganlyniad i wlserau.

Roedd y crwner, felly, yn derbyn y casgliad a roddwyd ar y pryd o achos ei farwolaeth ond ychwanegodd: "Fe wnaeth y diffyg gofal arwain at friwiau gwasgedd.

"Nid oedd Mr James cael ei drin yn unol â'i gynllun gofal."

Wrth gyfeirio at gyn-nyrs yn y cartref - Daphne Richards - dywedodd fod safon ei gofal hi i Mr James yn "eithriadol o wael".

William Hickman

Yn ôl y crwner roedd croen William Hickman wedi ei niweidio ar ôl dioddef 17 mlynedd o ddolur gan friwiau gwasgu tra ei fod yng nghartref Brithdir.

Yn yr ysbyty cofnodwyd fod un o'r briwiau yn 9cm x 5cm o faint, a'i fod mewn "cyflwr corfforol difrifol".

Dywedodd y crwner bod yna fethiannau difrifol yn ei ofal oedd wedi arwain yn uniongyrchol at ei farwolaeth.

Evelyn Jones

Yn achos Evelyn Jones dywedodd y crwner fod y manylion yn dangos "camdriniaeth sefydliadol".

Dywedodd fod yna friw gwasgu 50cm ar ei chefn, briw gafodd ei ddisgrifio gan ddoctoriaid fel y "gwaethaf roeddynt wedi ei weld".

"Mae'n glir fod y methiant yna'n uniongyrchol gyfrifol am farwolaeth Mrs Jones... ac roedd yna anwybyddu cywilyddus."

Cyhuddo perchennog

Yn dilyn Ymgyrch Jasmine - ymchwiliad yr heddlu i farwolaethau mewn chwech o gartrefi gofal yn y de - cafodd cyfarwyddwr cwmni Puretruce Health Care, Dr Prana Das ei erlyn

Roedd yn wynebu cyhuddiadau o dwyll ac esgeulustod, ond cafodd yr achos ei ohirio ar ôl iddo ddioddef anafiadau i'r ymennydd yn dilyn ymosodiad yn ei gartref yn 2012.

Bu farw yn Ionawr 2020.

'Esgeulustod wedi cyfrannu'

Wrth grynhoi, dywedodd y crwner bod Dr Das yn "ymosodol i bawb oedd yn ei wrthwynebu", ac mai ei "unig gonsyrn oedd gwneud elw o'i fusnesau".

Ychwanegodd bod Paul Black, prif weithredwr y cwmni, yn "dyst annibynadwy ac anonest" oedd yn chwarae rhan wrth "dwyllo'r awdurdodau".

Roedd yr asiantaethau yna, yn cynnwys y bwrdd iechyd, Cyngor Sir Caerffili ac Arolygiaeth Gofal Cymru, yn "canolbwyntio'r ormodol ar systemau a phrosesau", meddai.

Dywedodd y crwner nad oedd modd dod i gasgliad o farwolaeth anghyfreithlon i'r un o'r chwech oherwydd bod llawer o staff wedi gofalu amdanynt, ac nad oedd yr holl dystiolaeth ar gael.

Cofnododd "achosion naturiol" fel achos marwolaeth Stanley James, a rheithfarnau naratif i'r holl ddioddefwyr eraill, gan nodi bod "esgeulustod wedi cyfrannu" at eu marwolaethau.