Gwrth-Semitiaeth: System gwynion Plaid Cymru'n 'wan'

  • Cyhoeddwyd
Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adolygiad yn dweud nad yw system cwynion Plaid Cymru'n ddigon cryf

Nid yw system gwynion Plaid Cymru yn ddigon cryf i ddelio â gwrth-Semitiaeth, yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan.

Mae adolygiad Liz Saville Roberts AS o wrth-Semitiaeth wedi cael ei gyhoeddi.

Mae'r arolwg yn argymell y dylai diffiniad y blaid o wrth-Semitiaeth gael ei ddiweddaru, a'r dull o ddelio â chwynion ei newid.

Dywedodd arweinydd y blaid Adam Price AS ei fod eisiau i argymhellion yr arolwg gael eu gweithredu'n "llawn".

Ond mae corff sy'n cynrychioli'r gymuned Iddewig, Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain, wedi cyhuddo Plaid Cymru o ddewis ymgeisydd Seneddol sydd wedi rhannu deunyddiau gwrth-Semitaidd ar sawl achos.

Comisiynodd Mr Price yr adroddiad yn Hydref 2020 yn dilyn "sawl cwyn am wrth-Semitiaeth a gafodd eu gwneud yn erbyn aelodau a chynrychiolwyr y blaid dros y ddwy flynedd diwethaf," yn ôl yr arolwg.

Roedd yna dystiolaeth gan aelodau'r blaid yn ogystal â grwpiau Iddewig a hawliau dynol.

Fe wnaeth y blaid fabwysiadu 'Datganiad Gwrth-Semitiaeth' ar 29 Chwefror 2020 sy'n cael ei ddiffinio fel "canfyddiad penodol tuag at Iddewon, all gael ei fynegi fel casineb tuag at Iddewon".

Ond mae adolygiad Ms Saville Roberts yn dweud nad yw'r datganiad yma'n cynnwys yn llawn dau gymal o ddiffiniad gwrth-Semitiaeth Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost (IHRA), ac nad oedd datganiad y blaid "wedi ei groesawu'n gyfan gwbl pan gafodd ei fabwysiadu".

Mae'r arolwg yn cynnig y dylai Plaid Cymru fabwysiadu diffiniad yr IHRA o wrth-Semitiaeth yn gyfan gwbl, a diweddaru'r diffiniad fel nad yw ymddygiad neu rethreg gwrth-Semitaidd "yn ddibynnol ar dystiolaeth o ddymuniad i wneud rhywbeth yn fwriadol".

Liz Saville Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts AS nad yw'r system cwynion presennol yn 'ddigonol'

Yn ôl Ms Saville Roberts: "Nid yw system a strwythurau cwynion Plaid Cymru wrth sôn am wrth-Semitiaeth yn ddigonol ac nid ydynt yn rhoi hyder i bobl Iddewig yng Nghymru.

"Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod hynny yn llawn.

"Mae fy awgrymiadau yn darparu seilwaith i greu dull newydd, cryf a chyson ar gyfer cwynion sy'n ymwneud â gwrth-Semitiaeth."

Dywedodd Mr Price: "Bydda' i nawr yn argymell i'n Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol bod yr awgrymiadau'n cael eu gweithredu'n llawn ac heb oedi."

'Ni ddylwn fod yma'

Dywedodd Bwrdd Dirprwyon Iddewig Prydain bod llawer i'w groesawu yn yr adroddiad, ond y gwir brawf fyddai "os yw'r newidiadau yma'n cael eu gweithredu a'r arwyddion mae'r blaid yn eu gyrru o ran ei diwylliant", meddai'r is-lywydd, Amanda Bowman.

Ychwanegodd bod Plaid Cymru'n gofyn i etholwyr gefnogi ymgeisydd sydd wedi rhannu deunydd gwrth-Semitiadd "ar sawl achlysur", sydd wedi achosi "pryder drwy gymunedau Iddewig Cymru a'r DU".

"Yn syml, ni ddylwn ni fod yn y sefyllfa yma", meddai.

Sahar Al-Faifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sahar Al-Faifi yn ymgeisydd ar restr Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru

Llynedd fe wnaeth Plaid Cymru benderfynu peidio cymryd camau pellach yn dilyn ymchwiliad i honiadau o drydariad gwrth-Semitiadd gan Sahar al-Faifi.

Roedd galwadau i'w gwahardd rhag y blaid, ond yn ddiweddarach fe gafodd ei dewis fel ymgeisydd rhanbarthol ar gyfer etholiad y Senedd eleni.

Mae'r BBC wedi gwneud cais am sylw gan Ms Al-Faifi.

Ym mis Mehefin llynedd fe ddywedodd ei bod yn "deall pryderon y gymuned Iddewig", ac y byddai'n "parhau i weithio gydag aelodau Iddewig yng Nghaerdydd tuag at greu cymdeithas fwy diogel ac agored i bawb".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y byddai'r blaid "yn herio rhagfarn a gwahaniaethu pryd a ble bynnag y bydd yn ymddangos".

Pynciau cysylltiedig