Rhybudd i ysgolion osgoi 'ceisio dal i fyny â phopeth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant ysgolion cynradd wedi dychwelyd i'r ysgol yn ddiweddar ar ôl dysgu o bell ers y Nadolig

Dylid osgoi ceisio cael plant i "ddal i fyny gyda phopeth" wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r stafell ddosbarth wedi'r cyfnod clo, yn ôl ymchwilwyr.

Dydy effaith dysgu o bell ar addysg disgyblion yn ystod y pandemig ddim eto'n glir.

Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd mae profiadau wedi amrywio ond mae plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod wedi methu â gwneud cynnydd.

Mae'r gwrthbleidiau'n dweud nad oes digon o fanylion am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adfer y sefyllfa.

Mae plant ysgolion cynradd a rhai disgyblion uwchradd wedi dychwelyd i'r ysgol ar ôl dysgu o bell ers y Nadolig, ond ni fydd pob disgybl yn ôl yn y dosbarth yn llawn amser tan 12 Ebrill.

Yn ogystal â'r wythnosau allan o'r ysgol y tymor yma, bu'n rhaid i ddisgyblion ddysgu o bell hefyd o fis Mawrth i fis Gorffennaf y llynedd.

Hyd yn oed pan oedd ysgolion ar agor yn llawn, bu'n rhaid i nifer o ddisgyblion dreulio cyfnodau'n hunan-ynysu pan oedd achosion positif o Covid-19 yn eu grwpiau cyswllt.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine Foster na ddylai ysgolion "disgwyl iddyn nhw wneud dwy flynedd mewn un"

Mae Catherine Foster, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud bod ymchwil rhyngwladol yn awgrymu bod plant wedi syrthio ar ei hôl hi o ran cyrhaeddiad addysgol a bod y sefyllfa "hyd yn oed yn waeth i blant o gefndiroedd mwy difreintiedig".

Ychwanegodd bod eu hymchwil yn awgrymu y gallai cymhelliant fod yn broblem i rai disgyblion sydd wedi cael trafferth yn gwneud eu gwaith o adref pan fyddan nhw'n dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, ond bydd profiadau'n wahanol, meddai.

"Mae pawb wedi colli rhywbeth - mae'n amrywio llawer," meddai.

"Ond os oes ffocws ar ddal i fyny a cheisio dal i fyny gyda phopeth rydych chi wedi'i golli, ynghyd â'r gwaith y mae'n rhaid i chi ei wneud eleni - dydy hyn ddim yn mynd i helpu."

Byddai'n well canolbwyntio ar lenwi'r bylchau penodol fydd yn eu helpu i symud ymlaen i'r cam nesaf "yn hytrach na cheisio taflu popeth atyn nhw a disgwyl iddyn nhw wneud dwy flynedd mewn un", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cyn y pandemig roedd Gethin Bickerton yn actor yn teithio o amgylch ysgolion Cymru

Yn Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd - mae Gethin Bickerton wedi cael ei gyflogi fel cynorthwyydd addysg ers hydref 2020 - un o gannoedd o staff ychwanegol sydd wedi eu cyflogi drwy'r cynllun Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau Llywodraeth Cymru.

Cyn y pandemig roedd yn actor yn teithio o amgylch ysgolion yn helpu plant i ddysgu am enwogion o hanes Cymru.

Nawr mae'n defnyddio'r sgiliau hynny i chwarae rôl gyda phlant i wella cyfathrebu a helpu grwpiau bach gyda'u darllen.

Mae Mr Bickerton yn gweithio gyda phlant ifanc yn y cyfnod sylfaen lle mae gwella llythrennedd yn flaenoriaeth.

"Mae am gael nhw 'nôl mewn i'r arfer o siarad Cymraeg a hefyd y sgiliau cymdeithasu maen nhw wedi methu allan arnyn nhw dros y cyfnod clo," meddai

"Y nod yw cael nhw mewn i ryw fath o amserlen diwrnod hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gethin Bicketon mai "cael nhw 'nôl mewn i'r arfer o siarad Cymraeg" ydy'r flaenoriaeth

Er bod y pennaeth Meilir Tomos yn dweud bod rhai teuluoedd wedi cael trafferth gwneud gwaith ysgol o adref, dydy'r rheini o gefndiroedd difreintiedig ddim wedi cwympo 'nôl cymaint ag y gallen nhw fod wedi.

"Mae nifer o'r plant yna wedi bod yn dod i'r ysgol yn gyson ers mis Ionawr efo ni felly ychydig iawn o'r plant sydd o gefndiroedd difreintiedig sydd wedi bod adref yn ystod y cyfnod y clo," meddai.

"Mi ydyn ni wedi bod yn gwahodd bron i 50 o blant yn ddyddiol, felly 'da ni ddim wedi gweld gap mor fawr o achos hynna, felly 'da ni'n hynod o falch bo' ni wedi gallu cael y plant o'r teuluoedd mwy difreintiedig sydd gynnon ni i mewn."

Ond mae yna waith i'w wneud wrth ymateb i wythnosau allan o'r stafell ddosbarth, meddai.

"Dwi'n meddwl mae'n mynd i gymryd misoedd. Dwi'n meddwl 'da chi'n edrych ar o gwmpas chwe mis i flwyddyn o fod tu ôl.

"Drwy i ni roi lot mwy o ymyraethau mewn lle dwi yn meddwl mae'n bosib adfer y sefyllfa ond mae'n mynd i gymryd amser."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meilir Tomos bod ysgolion wedi colli gwerth 6-12 mis o addysg

Yr haf diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £29m i ariannu 900 o staff addysgu ychwanegol, ac yna £72m arall yn gynharach y mis yma.

Dywedodd y llywodraeth ei bod wedi llwyddo i fynd yn bellach na'r targed recriwtio a hyd yma bod cyfanswm sy'n cyfateb i 2,000 o staff llawn amser ychwanegol wedi'u cyflogi.

Mae ffigurau newydd gan y llywodraeth yn nodi bod 472 o gynorthwywyr addysg llawn amser newydd a 248 o athrawon llawn amser newydd wedi eu penodi, yn ogystal â channoedd o benodiadau rhan-amser a staff presennol yn cymryd oriau ychwanegol.

Dywedodd llefarydd y byddai gwerthusiad o'r broses recriwtio drwy'r cynllun Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn cael ei gomisiynu eleni.

"Mae data cychwynnol yn awgrymu bod y cyllid wedi cefnogi recriwtio staff newydd, yn hytrach na staff sy'n bodoli'n barod," meddai.

'Sut mae'n cael ei wario?'

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi dweud nad oes digon o fanylion yn rhan o gynlluniau'r llywodraeth a'i bod wedi methu â darparu gweledigaeth hir dymor.

Dywedodd Suzy Davies AS, llefarydd addysg y Ceidwadwyr, bod angen mwy o fanylion am sut mae'r buddsoddiad yn cael ei wario.

Heb fanylion, meddai, "does neb yn sicr sut fydd e'n cael ei wario ac a fydd yn cael ei wario'n effeithiol".

Dywedodd Siân Gwenllian AS o Blaid Cymru bod angen cynllun adfer a lles cenedlaethol.

"Be' dwi'n weld yw bod 'na gyhoeddiadau'n cael eu gwneud am ryw arian yn cael ei roi mewn i'r system ond dim cynllun i gefnogi sut mae'r arian yna'n mynd i gael ei wario a beth fydd effaith yr arian yna yn y pendraw ar y disgyblion yn yr ysgolion," meddai.