Drakeford: Cynllun Covid Lloegr yn hynod optimistig
- Cyhoeddwyd
Mae amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer llacio cyfyngiadau'n Lloegr "ar ben optimistaidd iawn y sbectrwm", yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio nad yw Cymru'n debygol o ddychwelyd i normalrwydd o gwbl eleni.
Ond mae Boris Johnson wedi amlinellu amserlen ar gyfer codi'r holl gyfyngiadau cyfreithiol yn Lloegr erbyn 21 Mehefin.
"Rydw i eisiau bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru, yn hytrach na dim ond ceisio paentio'r llun mwyaf optimistaidd y galla'i," meddai Mr Drakeford.
"Rwy'n credu bod rhai o'r awgrymiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud fel pe baent ar ben optimistaidd iawn y sbectrwm ac nid yn ystyried yn llawn y cyngor yr ydym yn ei gael am y risgiau a fydd gyda ni am weddill y flwyddyn."
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf dywedodd Mr Drakeford fod delio â'r feirws yn dasg "hir-dymor" ond "rwy'n sicr yn gobeithio erbyn yr haf y bydd bywyd yn llawer agosach at normal nag y bu dros y gaeaf.
"Ond a ydw i'n credu bod hynny'n golygu y bydd popeth drosodd, na fydd unrhyw beryglon, dim risgiau i bobl, ysbytai yn hollol rhydd o coronafeirws? Nid dyna'r cyngor dwi'n ei gael gan ein prif swyddog meddygol."
Dywedodd nad oedd yn disgwyl gweld y feirws "wedi mynd yn llwyr" fyth.
Ond ychwanegodd fod Cymru, o ganlyniad i gyfyngiadau a brechiadau, yn dod yn agosach nag erioed at "bwynt lle mae coronafeirws yn gyflwr yr ydym yn ei reoli ac - yn hollbwysig - yn ei reoli mewn ffordd nad oes peryg y bydd y cyfan yn ffrwydro eto ac yn ein rhoi yn ôl yn y sefyllfa rydyn ni wedi ei weld dros y 12 mis diwethaf".
"Dyna'r pwynt rydw i eisiau ei gyrraedd," meddai.
Ailadroddodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei alwad am fap allan o'r cyfnod clo. Dywedodd: "Mae gan yr Alban fap. Mae gan Loegr fap. Does gan Gymru ddim."
"Rydyn ni wedi cymryd camau breision yn ystod y misoedd diwethaf i reoli'r feirws a gyda'n rhaglen frechu eithriadol.
"Mae hyn yn gwneud i'r dychweliad hwnnw i normalrwydd edrych yn bosibl ac ar ôl blwyddyn, mae angen ychydig o optimistiaeth ofalus a rhywfaint o obaith ar bob un ohonom."
Mwy wedi marw yn yr ail don
Wrth edrych yn ôl ar y ffordd y mae ei lywodraeth wedi delio â'r argyfwng, dywedodd y Prif Weinidog mai'r rheswm dros yr ymchwydd mewn marwolaethau'n cysylltiedig â Covid yng Nghymru yn ystod yr ail don oedd bod "delio â'r feirws yn amodau'r gaeaf hyd yn oed yn fwy heriol nag yr oedden ni wedi ei ddisgwyl".
Mae mwyafrif helaeth y marwolaethau sy'n gysylltiedig â coronafeirws wedi digwydd ers mis Medi ac roedd cyfradd marwolaethau Covid Cymru ar gyfer y pandemig hyd at ddiwedd mis Ionawr yn uwch na chyfartaledd y DU, ond yn is na'r gyfradd yn Lloegr.
Dywedodd Mark Drakeford fod Cymru wedi cael "amser caled" dros y gaeaf ond "mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r holl ffordd i achub cymaint o fywydau ag y gallwn, gan wneud penderfyniadau anodd er mwyn gwneud hynny".
Wrth i ddangosyddion Covid ddod yn fwyfwy difrifol, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 20 Rhagfyr ei fod yn cyflwyno cyfnod clo am y trydydd tro.
Fe arweiniodd hynny at giwiau hir y tu allan i siopau teganau wrth i bobl geisio cael anrhegion ar gyfer y Nadolig cyn i siopau orfod cau.
Gwrthododd Mr Drakeford feirniadaeth ei fod wedi gweithredu'n rhy araf ym mis Rhagfyr - mis pan, ar adegau, roedd gan Gymru rai o'r cyfraddau Covid uchaf yn y byd.
"Rwy'n credu bod hynny i fod yn ddoeth wedi'r digwyddiad. Ar y pryd roedd y pwysau i gyda arnom ni i beidio â gwneud yr hyn a wnaethom."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae'r Prif Weinidog yn siarad am y budd o allu edrych yn ôl. Yn wir, mae llawer i'w ddysgu o'r flwyddyn ddiwethaf.
"Ond ni allwn edrych tuag yn ôl yn unig - mae'n rhaid inni edrych ymlaen at Gymru nad yw'n ddibynnol ar fympwyon San Steffan - Cymru a fyddai'n cael gafael ar ei phrofion a'i hoffer diogelwch personol ei hun, a Chymru a fyddai'n amddiffyn pob sector o'i heconomi."
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, bod angen cychwyn ymchwiliad cyhoeddus "yn syth" wedi'r etholiad "i fynd i'r afael â chamgymeriadau a diffyg parodrwydd".
"Rhaid taw'r flaenoriaeth nawr yw osgoi unrhyw don newydd o heintiau a sicrhau bod pawb yn cael eu brechu mor gyflym a diogel â phosib," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021