Adnabod corff ail bysgotwr cwch y Nicola Faith
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai corff Ross Ballantine, un o'r tri physgotwr a aeth ar goll oddi ar arfordir y gogledd, a gafodd ei ddarganfod yn West Kirby ganol Mawrth.
Mae Mr Ballantine, ynghyd â dau arall, wedi bod ar goll ers i'w cwch, y Nicola Faith, fethu â dychwelyd i harbwr Conwy ar ôl bod yn pysgota ym mis Ionawr.
Cafodd corff Carl McGrath ei adnabod yn swyddogol ddydd Llun.
Cafodd cyrff y ddau ddyn, ac un arall, eu darganfod oddi ar arfordir rhwng Cilgwri (Wirral) a Blackpool.
Nid oes cadarnhad hyd yn hyn pwy yw'r trydydd person.
'Diolch' i'r gymuned
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Gallwn gadarnhau mai'r corff a ddarganfuwyd yn West Kirby yw corff Ross Ballantine, a aeth ar goll ynghyd â dau arall ar gwch pysgota Conwy 'Nicola Faith' ym mis Ionawr.
"Mae'r teulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
"Hoffai'r teulu ddiolch i'r gymuned leol a busnesau am eu cefnogaeth a'u rhoddion aruthrol.
"Mae meddyliau pawb yn Heddlu Gogledd Cymru gyda theuluoedd a ffrindiau'r tri physgotwr."
Cafwyd hyd i rafft achub y cwch oddi ar arfordir Yr Alban ddechrau Mawrth ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau mai rafft y Nicola Faith a ddarganfuwyd.
Dros y penwythnos fe wnaeth y chwilio ddechrau unwaith eto i geisio dod o hyd i weddillion y cwch, gyda theuluoedd y tri oedd ar fwrdd y cwch yn talu am y chwilio yn dilyn ymgyrch codi arian.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021