'Cryfhau' system barcio yn ardal Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Maes ParcioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd meysydd parcio Eryri eu cau yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn "cryfhau" eu cynlluniau parcio a theithio o eleni ymlaen yn sgil pryderon am nifer yr ymwelwyr i'r ardal.

Y llynedd roedd parcio anghyfreithlon ar y ffordd ger Pen-y-Pass - y maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa - yn digwydd yn gyson drwy gydol y misoedd prysuraf.

Wrth i'r pandemig coronafeirws gyfyngu ar allu pobl i deithio dramor, mae ardaloedd fel Eryri wedi profi'n gynyddol boblogaidd i ymwelwyr ledled Cymru a'r DU.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd prif weithredwr Awdurdod y Parc y byddai system newydd yn dod i rym o gyfnod y Pasg o amgylch ardal Yr Wyddfa.

"Byddwn ni'n cryfhau ein cynlluniau parcio a theithio yn benodol yn ardal Pen-y-Pass," meddai Emyr Williams.

"Fe fydd yn rhaid i ymwelwyr archebu lle parcio o flaen llaw tra'n ymweld â Pen-y-Pass a defnyddio'r system parcio a chludo."

Cadarnhaodd y bydd y newidiadau mewn grym rhwng mis Ebrill a Thachwedd bob blwyddyn o hyn ymlaen.

Disgrifiad,

Cannoedd o geir wedi parcio ar ochr y ffordd ger Pen-y-Pass ym mis Gorffennaf y llynedd

Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth Cymru a swyddogion iechyd gwrdd yn ddiweddarach ddydd Iau i drafod llacio'r cyfyngiadau teithio.

Eisoes mae gweinidogion wedi dweud pe bai lefelau Covid yn parhau yn sefydlog, yna fe allai rhannau o'r diwydiant twristiaeth ailagor o ddydd Sadwrn.

Yng Nghymru mae'r rheolau teithio eisoes wedi eu llacio o 'arhoswch gartref' i 'arhoswch yn lleol'.

Pe bai rheolau teithio yn cael eu llacio ymhellach, mae'n bosib byddai caniatâd i fynd ar wyliau i unrhyw le yng Nghymru.

Rhybudd i gynllunio 'mlaen llaw

Mae Mr Williams yn rhagweld "blwyddyn galed, brysur" i Awdurdod y Parc eleni.

Pwysleisiodd bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw ac i bobl beidio teithio heb archebu llefydd aros ymlaen llaw.

Dywedodd fod y Parc wedi cyflogi pum warden ychwanegol ac un swyddog cyfryngau cymdeithasol er mwyn lledaenu'r neges am y system newydd ac i roi "cyngor i bobl ar sut i ymddwyn yng nghefn gwlad".

"'Da ni'n dysgu o llynedd," meddai.

"Mae gwerthfawrogiad o awyr iach wedi cynyddu [yn sgil y pandemig]... ond y cwestiwn ydy bod y cydbwysedd rhwng yr economi ac anghenion amgylcheddol a chymunedol yn cael eu cadw."