Blwyddyn gohebydd: 'Da ni gyd yn rhan o’r stori'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Venue Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elen Wyn ei hysbrydoli gan ymdrech y timau brechu yn Venue Cymru

Flwyddyn ers y cyfnod clo cyntaf, dyma gofnod Elen Wyn o'i blwyddyn yn gohebu ar gyfer BBC Cymru yng nghymunedau'r gogledd.

"Be' sy'n unigryw am y flwyddyn ddiwetha' 'ma ydy ein bod ni gyd yn rhan o'r stori.

Mae'r gymuned lle dwi'n byw yma yn Nyffryn Clwyd yn rhan o'r stori, fel pob ardal a chymuned arall, a braint oedd cael cyfarfod â chymaint o bobl dros ogledd Cymru oedd mor barod i rannu eu profiadau. 

Efo'r car yn swyddfa a'r meicroffon hir, o bellter - pleser oedd cyfarfod gymaint oedd yn helpu ei gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Jones yn obeithiol y bydd pethau'n gwella wrth i'r cyfyngiadau lacio

A gweithwyr allweddol fel Jane Jones, prif gogydd Ysgol Twm o'r Nant yn Ninbych, yn cadw petha' i fynd dan amgylchiadau anodd.

"Mae plant bregus, weithia dyma'r unig bryd o fwyd gawn nhw," meddai.

"Ac mae'n rhaid i ni gadw hynny i fynd, achos heb fwyd, does 'na neb yn gallu canolbwyntio - mae o fel domino effect, mae petha' yn mynd o chwith.

"Mae o wedi bod yn anodd, ond mae pethau'n dod yn well... gobeithio."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Chloe Adams ei bod hi eisiau gyrfa yn nyrsio ar ôl gwirfoddoli yn Ysbyty Gwynedd

Yng nghanol yr argyfwng mi roedd 'na ddyddiau llawen hefyd, fel taid a nain o Lanrwst yn cyfarfod eu hŵyr bach, mis oed am y tro cyntaf, mam i dri o Rhuthun yn cael gwybod bod ei chanser wedi mynd, ac ymweld â Venue Cymru i'r ganolfan frechiadau anferth yno.

Mi gollodd Chloe Adams o Lanfairfechan ei gwaith mewn gwesty. Aeth i wirfoddoli yn Ysbyty Gwynedd, a phenderfynu wedyn i newid ei gyrfa - i nyrsio.

"O'n i jest yn hoffi bod yn yr ysbyty, ac o fanna wedyn o'n i isio mynd mewn i nyrsio," meddai.

"Efo popeth sydd yn mynd ymlaen, o'n i jest isio helpu. Mae'r pandemig wedi newid fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd trawsblaniad Mali Elwy ei ganslo ddwywaith cyn iddi ei gael o'r diwedd ym mis Rhagfyr

Ac mi gafodd y feirws effaith mawr ar un teulu ym Mro Aled. Cafodd trawsblaniad Mali Elwy ei ganslo ddwywaith.

Ond, ar ôl yr aros, mi gafodd aren gan ei brawd Morgan.

"Mae hi'n bedwar mis bron iawn ers y trawsblaniad ac mae Morgan yn gwneud yn ffantastig, a dwi'n teimlo'n well na dwi 'di 'neud mewn blynyddoedd.

"Mae 'na lot wedi digwydd mewn blwyddyn, ond gafon ni ddiwedd da i'r flwyddyn ddiwetha'."

I goroni'r cyfan i'r teulu, fe lwyddodd Morgan i ennill Cân i Gymru.

Efallai bod ambell enfys yn colli lliw, ond yn Ninbych fel mewn ardaloedd eraill, mae gobaith yn blaguro."