Cymru i herio'r Weriniaeth Siec mewn gêm bwysig
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn herio'r Weriniaeth Siec yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth mewn gêm bwysig yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Fe gollodd Gymru eu gêm gyntaf yn y grŵp rhagbrofol yn erbyn Gwlad Belg, tra bod yr ymwelwyr nos Fawrth wedi cael dechreuad calonogol iawn i'w hymgyrch nhw.
Ar ôl rhoi crasfa o 6-2 i Estonia yn eu gêm agoriadol oddi cartref, fe lwyddodd y Sieciaid i hawlio pwynt allweddol yn erbyn y Belgiaid yn Prague.
Gyda nifer yn rhagweld mai Gwlad Belg fyddai'n gorffen ar frig y grŵp, roedd hi'n ganlyniad sydd nawr yn rhoi pwysau ychwanegol ar Gymru i gael canlyniad positif nos Fawrth.
Dim ond un wlad sydd yn cael mynd drwodd i Qatar yn awtomatig, gyda phwy bynnag sy'n gorffen yn ail yn y grŵp yn hawlio'u lle yn y gemau ail-gyfle.
Ond dydy digwyddiadau oddi ar y cae heb fod o fudd i baratoadau Cymru chwaith.
Ddydd Llun, cafodd tri chwaraewr - Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo - eu rhyddhau o'r garfan am eu bod wedi "torri protocol".
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn chwilio am brif weithredwr newydd yn sgil ymadawiad Jonathan Ford.
Hyn oll wrth i Robert Page orfod cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro yn absenoldeb Ryan Giggs - mae cyfnod mechnïaeth Giggs wedi ei ymestyn ar ôl iddo wadu cyhuddiad o ymosod ar ei bartner ym mis Tachwedd.
Mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey a'r amddiffynwyr Ben Davies a Tom Lockyer eisoes wedi gorfod gadael y garfan oherwydd anafiadau, ac ni fydd Cymru chwaith yn gallu galw ar brofiad Joe Allen ynghanol y cae.
Bu'n rhaid i Allen adael y cae o fewn munudau erbyn Gwlad Belg nos Fercher - ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers 2019.
Ond ar y cae, mae perfformiadau diweddar wedi rhoi rheswm dros fod yn obeithiol.
Er i Gymru golli yng Ngwlad Belg, roedd y perfformiad yn un parchus ac roedd gôl Harry Wilson yn uchafbwynt amlwg.
Nos Sadwrn, cafwyd buddugoliaeth nodedig mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico, sy'n nawfed ar restr detholion y byd FIFA.
Ac fe fydd James Lawrence yn ei ôl wedi iddo fethu'r gêm yn erbyn Mecsico oherwydd rheolau'n ymwneud â Covid yn Yr Almaen, lle mae'n chwarae ei bêl-droed domestig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021