Tri chwaraewr allan o garfan Cymru am 'dorri protocol'
- Cyhoeddwyd
Mae tri aelod o dîm pêl-droed Cymru wedi cael eu rhyddhau o'r garfan am eu bod wedi "torri protocol" Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd y gymdeithas y bydd Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo yn dychwelyd i'w clybiau ddydd Llun.
Does dim gwybodaeth wedi'i roi gan y gymdeithas am natur y "torri protocol".
Ychwanegodd datganiad y gymdeithas na fyddan nhw yn "gwneud unrhyw sylw pellach" ar y mater.
Ymgyrch Cwpan y Byd yn parhau
Bydd Cymru yn herio'r Weriniaeth Siec nos Fawrth mewn gêm bwysig yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Mae'r tîm cenedlaethol eisoes wedi chwarae dwy gêm dros y dyddiau diwethaf - colled yng Ngwlad Belg a buddugoliaeth yn erbyn Mecsico.
Roedd Robson-Kanu, Roberts a Matondo yn rhan o'r tîm fu'n herio Mecsico mewn gêm gyfeillgar nos Sadwrn, a daeth Roberts ymlaen oddi ar y fainc yn y gêm gystadleuol yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher.
Awgrymodd Roberts, sy'n chwarae i Leeds United, ar gyfryngau cymdeithasol bod y mater yn ymwneud â bod allan o'u hystafelloedd gwely yng ngwesty'r tîm yn hwyrach nag y dylen nhw.
"Gutted i fod yn gadael y garfan yn gynnar, ond rheolau yw rheolau ac ni ddylwn i fod wedi bod i fyny yn y gwesty yn hwyrach na'r amser oedd wedi'i osod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021