'Refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rali annibyniaeth Caerdydd

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn y pum mlynedd nesaf, yn ôl eu harweinydd Adam Price.

Dywedodd Mr Price bod maniffesto ei blaid yn cynnig y "rhaglen fwya' radical mewn unrhyw etholiad Cymreig ers 1945".

Mae cynlluniau'r blaid yn cynnwys creu 60,000 o swyddi gwyrdd, cynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd a darparu gofal cymdeithasol am ddim.

Yn ôl y ddau economegydd sydd wedi gwirio'r addewidion, mae'r gwariant yn "gyraeddadwy" ond nad oedd modd dweud a fyddai'r gwariant ei hun yn gwireddu nod y polisïau.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price bod y polisïau'n rhai "ymarferol, y gellir eu cyflawni ac sydd wedi eu costio'n llawn," gyda'r nod o greu "dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: Cyfle cyntaf i bobl Cymru "gallu pleidleisio i gymryd eu dyfodol eu hunain i'w dwylo eu hunain"

Yn ôl y blaid, mae pum prif faes polisi yn ran o'u cynnig i etholwyr:

  • 'Bargen Werdd Cymru' i greu hyd at 60,000 o swyddi newydd; gwarant swyddi ieuenctid i bobl ifanc 16-24 oed; benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid; creu asiantaeth gyflawni economaidd 'Ffyniant Cymru'.

  • Ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd; buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol; darparu gofal plant am ddim o 24 mis.

  • Torri bil treth y cyngor ar gyfartaledd; cyflwyno taliad wythnosol i blant yn codi i £35 yr wythnos; darparu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.

  • Gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol di-dor sy'n darparu gofal cymdeithasol am ddim yn ôl yr angen; yn hyfforddi ac yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig; gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.

  • Creu 'Cenhadaeth Cymru 2035' i ddatgarboneiddio; sefydlu cwmni datblygu ynni 'Ynni Cymru' gyda'r nod o gynhyrchu 100% o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035; cyflwyno 'Deddf Natur' statudol yn ogystal â thargedau i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

Yn ôl y blaid mae eu haddewidion wedi eu "gwirio'n annibynnol gan ddau o economegwyr blaenllaw Cymru".

Dywed yr economegwyr hynny, yr Athro Brian Morgan a'r Athro Gerry Holtham, bod addewidion gwariant y blaid "yn ymddangos yn gyraeddadwy".

Ond maen nhw yn nodi pryderon ynglŷn â'r "targed benthyca a'r amcangyfrifon o ran arbedion effeithlonrwydd. Ni fydd codi'r symiau a nodwyd o arbedion effeithlonrwydd yn rhwydd, law yn llaw â rhaglen uchelgeisiol o wariant newydd llywodraeth".

Mae'r economegwyr yn dweud nad yw'r arbedion hynny, o 1% y flwyddyn, wedi eu "nodi ag unrhyw fanylder," a'u bod yn "heriol" ond "nid yn amhosib".

Maen nhw hefyd yn dweud bod y rhagdybiaethau o ran y grant a ddaw o San Steffan yn "optimistaidd" ond "nid yn afresymol," a bod rhai addewidion yn y maniffesto yn ddibynnol ar benderfyniadau penodol gan Lywodraeth y DU "na ellir eu cymryd yn ganiatáol."

O ran yr arian fyddai ei angen ar brosiectau cyfalaf, mae'r economegwyr yn rhybuddio y byddai'n rhaid codi mwyafrif yr arian trwy fenthycwyr preifat, fyddai'n fwy costus ac yn cymryd mwy o amser. "Rydyn ni'n amheus a fyddai'r rhaglen fenthyca yn gallu cael ei chwblhau o fewn un tymor Seneddol."

Disgrifiad o’r llun,

Miloedd o bobl yn y drydedd rali ar draws Cymru yn 2019 yn galw am annibyniaeth i Gymru

Un o brif addewidion Plaid Cymru yn yr etholiad hwn yw refferendwm ar annibyniaeth, ond does dim cyfeiriad at y gost ynghlwm â hynny o fewn y ddogfen.

Wrth lansio maniffesto'r blaid, dywedodd Adam Price y byddai Plaid Cymru yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn y tymor Seneddol nesa pe baent mewn grym wedi 6 Mai.

'Potensial anhygoel'

"Am y tro cyntaf mewn etholiad Senedd bydd pobl Cymru yn gallu pleidleisio i gymryd eu dyfodol eu hunain i'w dwylo eu hunain," meddai.

"Credwn mai annibyniaeth yw'r unig ffordd bendant a chynaliadwy o gyflawni cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu dyfodol ein cenedl mewn refferendwm annibyniaeth.

"Nid ni yw'r wlad y dylem fod. Nid ni yw'r wlad y gallwn fod. Ac nid ni yw'r wlad rydyn ni am fod.

"Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Nid yw'r problemau yr ydym wedi'u cael ers cenedlaethau yn anochel.

"Gallwn ddatrys y problemau hyn, gyda'n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd sydd â'r uchelgais i adeiladu Cymru newydd sy'n well na'r hen un.

"Mae'r amser i roi'r freuddwyd Gymreig fawr honno o gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd i bawb ar waith."