Llafur Cymru'n addo hyfforddi 12,000 o staff iechyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn lansio maniffesto Llafur Cymru bore Iau

Mae Llafur Cymru wedi addo hyfforddi 12,000 aelod newydd o staff i'r gwasanaeth iechyd, wrth i'r blaid lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd.

Mae'r blaid hefyd yn addo ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru a sicrhau'r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd y cynlluniau - fydd yn cael eu lansio yn ddiweddarach ddydd Iau - yn "adeiladu Cymru'r dyfodol".

Ychwanegodd bod yr etholiad yn "ddewis i barhau i fuddsoddi yn ein pobl ifanc" neu i "gymryd llwybr gwahanol".

Yn yr etholiad ar 6 Mai bydd Llafur yn ceisio parhau mewn llywodraeth - rhywbeth y mae wedi'i wneud ers dechrau datganoli yn 1999.

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Radio Wales fore Iau y byddai'r blaid yn agor y parc cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ers 1957, er mwyn creu swyddi a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Byddai'r parc yn cynnwys Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Nhw oedd y blaid fwyaf wedi'r etholiad diwethaf, ac maen nhw'n amddiffyn 29 sedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur Cymru yn addo'r "rhaglen adfer fwyaf erioed" ar gyfer y gwasanaeth iechyd

Yn y cyfamser, mae'r maniffesto'n addo i beidio cymryd mwy gan deuluoedd Cymru mewn treth incwm "am o leiaf cyhyd ag y mae effaith economaidd coronafeirws yn parhau".

Mynnodd Mr Drakeford na fydd Llafur yn dod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr os na chaiff yr un blaid fwyafrif ar 6 Mai.

Mae hefyd yn diystyru cefnogi cynnal refferendwm annibyniaeth petai angen cytundeb gyda Phlaid Cymru i Lafur barhau mewn grym.

'Wedi cadw Cymru'n saff'

Amddiffynnodd Mr Drakeford record y llywodraeth Lafur, gan ddweud bod y blaid wedi cadw Cymru'n "saff" yn ystod y pandemig, a gofyn i etholwyr am "gyfle i ni gwblhau'r job".

"Mae hwn wedi bod yn argyfwng economaidd yn ogystal ag un iechyd," meddai. "Rwy'n benderfynol na fydd cenhedlaeth goll o bobl ifanc yma yng Nghymru wrth inni aros am adferiad yr economi."

Fe wnaeth hefyd amddiffyn cynlluniau i beidio ymestyn prydau ysgol am ddim i blant â rhieni ar fudd-daliadau. Teuluoedd sy'n ennill hyd at £7,400 sy'n gymwys ar hyn o bryd.

Dywedodd y bydd mwy o blant yn gymwys "o flwyddyn i flwyddyn" os fydd Llafur yn llywodraethu, ac mai Cymru yw gwlad gyntaf y DU i sicrhau prydau am ddim yn ystod gwyliau ysgol.

Mynnodd bod holl addewidion maniffesto'r blaid yn "gredadwy" a bod modd eu gwireddu. Pan ofynnwyd pam na ddefnyddiodd Llafur eu holl bwerau benthyca tra mewn llywodraeth, atebodd y byddai'r blaid yn "amlhau'r defnydd" ohonynt yn y pum mlynedd nesaf, ond bod darparu gofal cymdeithasol am ddim yn "amhosib".

"Popeth ry'n ni'n ei ddweud, fe allwn ni ei wneud," ychwanegodd. "Pan mae pobl yn gwneud dewisiadau... mae rhwng plaid sy'n gwybod beth yw hi i lywodraethu, sydd â'r profiad... ac os ydyn nhw'n dweud rhywbeth, fe ddigwyddith."

Cafodd y lansiad ei gynnal yng Ngholeg Cambria yn etholaeth Delyn. Sedd Lafur yw hon yn y Senedd ond fe gollon nhw'r etholaeth yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019.

Dywed Llafur Cymru y byddai'n hyfforddi 12,000 o feddygon, nyrsys, seicolegwyr a staff iechyd eraill, ac y byddai'n sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd er mwyn "recriwtio, hyfforddi a chadw staff iechyd yng Nghymru".

Ychwanegodd y byddai'n parhau i ariannu cynllun Bwrsari GIG Cymru er mwyn cefnogi'r rheiny sy'n hyfforddi, ac y byddai hefyd yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Beth yw'r prif addewidion?

Dywedodd y blaid fod chwech "addewid uchelgeisiol" wrth wraidd eu cynlluniau, gan gynnwys:

  • Y "rhaglen adfer fwyaf erioed" ar gyfer y gwasanaeth iechyd ac ysgolion;

  • Addewid o swydd, lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i sefydlu eu busnes eu hunain i bawb o dan 25 oed;

  • Sicrhau'r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal - £9.50 yr awr, sy'n uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol;

  • Gwahardd y defnydd o fwy o blastig untro, a chreu Coedwig Cenedlaethol i Gymru;

  • Cael 100 yn rhagor o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO), gan ddod â'r nifer sy'n cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru i 600;

  • Creu miloedd o swyddi newydd gyda "chwyldro adeiladu tai carbon isel", gan gynnwys 20,000 o dai cymdeithasol y bydd modd eu rhentu.

Mae Llafur Cymru hefyd yn addo "cenhedlaeth newydd o ganolfannau integredig ar gyfer iechyd a gofal" a sefydlu gwasanaethau iechyd meddwl fydd ar gael mewn ysgolion.

Dywedodd y blaid fod yr addewidion yn y maniffesto yn fforddiadwy, ac na fyddai angen cynyddu unrhyw drethi sydd wedi'u datganoli i'w cyflawni.

"Mae'r etholiad yma yn ddewis - mae e am uchelgais," meddai Mr Drakeford.