Amddiffyn ymgeisydd UKIP wnaeth sylwadau sarhaus

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Stan RobinsonFfynhonnell y llun, YouTube/Voice of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Stan Robinson, ar y dde, yn ymddangos mewn fideo gan grŵp o'r enw 'Voice of Wales'

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru wedi amddiffyn ymgeisydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru wnaeth rannu negeseuon sarhaus am Fwslemiaid ar-lein.

Dywedodd Cyngor Mwslimiaid Cymru bod cyfrif Twitter Stan Robinson yn "gasgliad o gasineb, rhagfarnau, cynllwynion a cham-wybodaeth pryderus iawn".

Dywedodd Neil Hamilton na fyddai'r cyfrif Twitter yn cael unrhyw effaith ar yr etholiad.

Mae Mr Robinson wedi dweud bod yr hawl i fynegi barn yn "hawl Prydeinig cynhenid".

'Iasol ei fod yn ymgeisydd'

Mae Stan Robinson yn drydydd ar restr UKIP o ymgeiswyr ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Ar ei gyfrif Twitter dros y pythefnos diwethaf, mae Mr Robinson wedi rhannu negeseuon dirmygus am Islam a Mwslemiaid.

Mae hefyd wedi ail-drydar negeseuon sydd yn disgrifio mudwyr fel "parasitiaid" ac yn dweud y dylen nhw gael eu "saethu" a'u "harestio" er mwyn "rhwystro'r mewnlifiad".

Ddiwedd Mawrth fe wnaeth llun gael ei ail-drydar o gyfrif Stan Robinson yn dangos cartŵn o'r Proffwyd Muhammad oedd yn awgrymu cam-driniaeth rhywiol o blentyn.

Cafodd Mr Robinson ei feirniadu yn ddiweddar am ei rôl fel un o gyflwynwyr sianel YouTube o'r enw 'Voice of Wales'.

Yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, lle cafodd y sianel ei labelu yn hiliol, fe wnaeth gwefan YouTube ddileu y sianel honno.

Mae cyd-gyflwynydd i Mr Robinson, Dan Morgan, hefyd yn sefyll dros y blaid ar yr un rhestr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru, Dr Abdul Azim Ahmed wrth raglen Newyddion S4C bod "rhaid i UKIP gyfiawnhau pam bod unigolyn o'r fath yn cynrychioli eu plaid".

Dywedodd ei bod hi'n "iasol ei fod [Stan Robinson] yn ymgeisydd ar gyfer y Senedd".

Wrth lansio maniffesto UKIP ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Hamilton ymateb i gwestiwn BBC Cymru am yr ymgeisydd.

"Yn anffodus mae cymdeithas rydd yn golygu y bydd rhai pobl wedi eu tramgwyddo, gallwn ni ddim cael cyfraith sy'n atal rhag dweud rhywbeth os oes risg o dramgwyddo", meddai.

"Felly beth bynnag yw eich barn am gyfrif Twitter Stan Robinson dydy hynny ddim yn cael effaith ar yr etholiad yma, sydd am ffyniant Cymru."

'Ail-drydar drwy gamgymeriad'

Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Mr Robinson mewn datganiad ei fod wedi trydar y cartwnau "i gefnogi athro yn Batley" sydd ynghanol ffrae ar ôl dangos llun i fyfyrwyr o'r Proffwyd Muhammad.

Dywedodd ei fod wedi "ail-drydar y neges yna mewn camgymeriad", ond bellach wedi ei ddileu.

"Alla'i ond ymddiheuro am gamgymeriad onest ar fy rhan i."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i fi bwysleisio fy mod i'n gwrthod pob math o drais.

"Rwy'n deall bod nifer o bobl yn rhwystredig â methiant y llywodraeth o ran ein ffiniau, mae annog trais yn annerbyniol ac yn wrthun."

Enillodd UKIP saith sedd yn yr etholiadau diwethaf yn 2016, ond erbyn diwedd tymor y Senedd, un AS yn unig oedd ganddyn nhw yn weddill.

Pynciau cysylltiedig