Plaid Cymru am i ofal fod 'am ddim yn ôl yr angen'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n gobeithio creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol 'di-dor' os ydyn nhw'n ennill yr etholiad.
Dywed y blaid y byddan nhw'n ffurfio comisiwn i ddod o hyd i ffyrdd i ariannu'r broses.
Maen nhw am i ofal fod "am ddim yn ôl yr angen".
Mae'r blaid hefyd wedi addo isafswm cyflog o £10 i bob gweithiwr gofal.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod Covid-19 wedi "taflu goleuni" ar y gwaith caled a'r heriau o ddarparu gofal cartref, gofal nyrsio yn ogystal ag ansawdd bywyd preswylwyr mewn cartrefi gofal.
Dywedodd Mr Price fod ei fam yn gofalu am ei dad sydd â dementia a'i fod wedi "gweld gyda'i lygaid ei hun" y frwydr yr oedd llawer o deuluoedd yn ei hwynebu.
"Byddai gofal cymdeithasol am ddim yn wirioneddol drawsnewidiol," meddai.
Dywedodd y byddai'r comisiwn yn adrodd yn ôl o fewn blwyddyn ac y byddai'n ystyried yr opsiwn a ffafrir gan Blaid Cymru o ddefnyddio trethiant cyffredinol ac ardoll gofal cymdeithasol - a amlinellwyd gan yr economegydd Gerald Holtham yn 2018.
Dywedodd yr Athro Holtham y gellid defnyddio cynnydd o rhwng 1-3% yn y dreth incwm i ariannu gofal cymdeithasol i'r henoed yng Nghymru.
Dywedodd y byddai angen i'r dreth amrywio yn dibynnu ar oedran ac incwm er mwyn sicrhau tegwch ac i ddechrau gallai olygu y byddai pobl yn eu pumdegau yn talu pedair gwaith yn fwy na'r rhai yn eu hugeiniau.
"Byddai Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hintegreiddio'n ddi-dor ar lefel leol, gan ddod â llywodraeth leol a byrddau iechyd at ei gilydd mewn Partneriaethau Gofal Rhanbarthol newydd," meddai Mr Price.
"Dylai prosesau asesu gofal ganolbwyntio ar nodi angen gofal personol, yn hytrach na'r diffiniadau mympwyol o ofal 'iechyd' neu 'gymdeithasol'."
Dywedodd Mr Price y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn cynyddu nifer y nyrsys ardal.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Beth mae'r pleidiau eraill yn ei ddweud?
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddan nhw hefyd yn gweithio tuag at greu un Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ac integreiddio gofal iechyd.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn bwriadu gweithredu newidiadau eang i gomisiynu, gan roi mwy o bŵer i gomisiynwyr lleol, ac i bobl ddod o hyd gwasanaethau eu hunain i ddarganfod y gofal sy'n diwallu eu hanghenion orau.
"Yn y tymor byr byddwn yn parhau i sbarduno'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau ar y cyd gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw hefyd yn cyflwyno comisiwn i ystyried atebion ariannu cynaliadwy hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol ac isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.
Ni fyddan nhw'n cyflwyno treth gofal cymdeithasol ond byddan nhw'n penodi prif swyddog gofal cymdeithasol i Gymru.
Dywedodd llefarydd: "Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynyddu'r terfyn cyfalaf i £100,000 i'r rhai sy'n defnyddio gofal preswyl er mwyn sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes i gostau gofal ac yn sefydlu cronfa arloesi gofal gwerth £15m i hyrwyddo cydweithio rhwng y GIG ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol."
Yn ôl Llafur Cymru byddan nhw'n talu cyflog byw go iawn i weithwyr gofal, ond bod angen ateb led-Brydeinig i ofal cymdeithasol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae cynllun credadwy Llafur Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol yn golygu y gallwn ddarparu'r Cyflog Byw Go Iawn i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yn y tymor newydd a helpu pobl i gadw mwy o'u harian cyn iddynt dalu am ofal gyda'r cynnig mwyaf hael yn y DU.
"Rydyn ni eisiau datrysiad cynaliadwy hirdymor yn y DU fel bod gofal am ddim i bawb pan fo angen. Mae gofal cymdeithasol wedi'i gysylltu'n gynhenid â system fudd-daliadau'r DU, ac fel y dywedodd Mark Drakeford, os bydd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn methu â chyflwyno cynllun wedi'i ariannu'n llawn o fewn senedd bresennol y DU, byddwn yn ymgynghori ar ateb i Gymru'n unig i ddiwallu ein hanghenion gofal hirdymor."
Sut ydyn ni'n talu am ofal cymdeithasol nawr?
Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau ariannol i benderfynu faint i'w godi am ofal cymdeithasol.
Mae gan bawb yr hawl i gael eu hanghenion wedi eu hasesu.
Unwaith y bydd asesiad wedi'i wneud, gallwch naill ai dderbyn gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor neu ddewis eich gwasanaethau eich hun, y telir amdanynt drwy daliadau uniongyrchol, i chi neu berthynas, gan y cyngor.
Gofal dibreswyl
Os ydych yn derbyn gofal yn eich cartref eich hun, y mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu yw £100 yr wythnos.
Os nad oes gennych lefel uchel o incwm gwario ac nad oes gennych gynilon a buddsoddiadau dros £24,000 (heb gynnwys gwerth eich cartref) gallwch dalu llai.
Wrth benderfynu ar daliadau, rhaid i gynghorau ganiatáu i chi gadw digon i dalu eich costau byw bob dydd.
Gofal preswyl (cartrefi gofal neu nyrsio)
Mae pobl ag asedau o fwy na £50,000 (gan gynnwys gwerth eich cartref os nad oes neb yn byw yno) yn talu cost lawn gofal mewn cartref.
Ond os nad oes gennych gymaint â hynny o arian yna gallwch gael cymorth ariannol yn dibynnu ar eich incwm.
Gall pobl sydd angen elfen o ofal nyrsio ar gyfer "angen iechyd" gael cyfraniad gan y GIG tuag at eu costau.
Gall unigolion eraill sydd ag anghenion gofal iechyd sylfaenol cymhleth, yn hytrach na gofynion preswyl, fod yn gymwys i'w holl ffioedd gael eu talu gan y GIG o dan gynllun o'r enw Gofal Iechyd Parhaus.
Rhaid i gynghorau sicrhau bod gennych o leiaf £33 yr wythnos i'w wario ar eitemau personol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021