Plaid Diddymu'r Cynulliad eisiau 'troi'r llanw ar ddatganoli'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
seneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y blaid y byddai diddymu'r Senedd yn cael gwared ar "haen gyfan o wleidyddion"

Mae Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio eu cynlluniau polisi ar gyfer etholiad fis nesaf.

Maen nhw'n cynnwys diddymu'r Senedd, rhoi pwerau dros dreth yn ôl i San Steffan ac uno gwasanaeth iechyd Cymru a Lloegr.

Dywedodd yr arweinydd Richard Suchorzewski ei bod yn amser "atal Cymru rhag cerdded yn ei chwsg tuag at annibyniaeth".

Mae gan y blaid ddau aelod yn Senedd Cymru ar hyn o bryd - dau a gafodd eu hethol dros UKIP yn 2016 ond sydd bellach wedi newid plaid.

Ond dydy un o'r rheiny ddim yn sefyll yn enw Plaid Diddymu'r Cynulliad ar 6 Mai - yn hytrach mae'n ymgeisydd annibynnol.

'Dim mwy o dargedau iaith Gymraeg'

"Yn ein datganiad polisi rydyn ni'n rhoi blas o sut y byddwn yn mynd ati i gynrychioli'r rheiny sy'n amheus o ddatganoli yng Nghynulliad Cymru [Y Senedd]," meddai Mr Suchorzewski.

"Dim mwy o bwerau, dim mwy o wleidyddion, dim mwy o dargedau iaith Gymraeg.

"Mae'n amser i'r llanw droi yn erbyn datganoli er mwyn atal Cymru rhag cerdded yn ei gwsg tuag at annibyniaeth."

Mae'r blaid yn disgrifio'r datganiad polisi fel "ein map i achub Cymru a'r undeb wrth ddadwneud datganoli".

Dywedodd mai ei nod ydy "diddymu Cynulliad Cymru [Y Senedd] a dod â llywodraethiant ddatganoledig yng Nghymru i ben".

"Fe ddylen ni fod yn Deyrnas Unedig unwaith eto, gydag un Llywodraeth y DU," meddai'r blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Suchorzewski fod y blaid eisiau "achub Cymru a'r undeb wrth ddadwneud datganoli"

Dywedodd y blaid mai prif ganlyniadau hyn fyddai:

  • Cael gwared ar "haen gyfan o wleidyddion - 60 eisoes ym Mae Caerdydd ond bydd hynny'n 90 yn fuan, gan arbed y £65m+ sydd ei angen i'w cefnogi";

  • Rhoi pwerau dros dreth yn ôl i San Steffan "fel na allwn gael ein gorfodi i dalu mwy o dreth yng Nghymru, sydd wedi'i gwneud gymaint yn dlotach gan ddatganoli";

  • Cael un Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Cymru a Lloegr "fel y gall cleifion yng Nghymru gael eu trin yn gyfartal i Loegr";

  • Rhoi caniatâd i academïau ac ysgolion rhydd agor yng Nghymru [fel yn Lloegr] fel y bydd "dewis gwell o ysgolion, gan gynnwys pa bynciau sy'n cael eu dysgu a'r iaith sy'n cael ei ddefnyddio";

  • Cael gwared ar y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a gofyn i'r sector cyhoeddus "gyfathrebu yn Gymraeg pan fo cais i wneud hynny, yn hytrach na gyrru popeth yn ddwyieithog".