Laura McAllister yn anelu am y brig yn FIFA
- Cyhoeddwyd
FIFA yw prif bŵer y byd pêl-droed, a'r cyngor sy'n gyfrifol am gymryd y penderfyniadau pwysicaf.
Ar ddydd Mawrth, bydd cyn-gapten Cymru Laura McAllister yn ceisio cael ei hethol fel cynrychiolydd benywaidd UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, ar Gyngor FIFA
Mae McAllister, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, yn gobeithio bod y person cyntaf o Gymru - a'r ddynes gyntaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig - i gael ei hethol i'r cyngor.
Mae'n swydd hynod ddylanwadol, ac mae McAllister yn gobeithio bod ganddi'r profiad gwleidyddol - yn ogystal â'r cefndir pêl-droed - i lwyddo.
"Fi yw'r ymgeisydd pêl-droed gyda fy nghefndir fel chwaraewr a rhywun sydd wedi cael cysylltiad mawr efo pêl-droed yng Nghymru ac ar draws Ewrop," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Ond hefyd, dwi eisiau dweud wrth y cymdeithasau bêl-droed fy mod i'n gallu siarad ar eu rhan nhw, dim ots os taw nhw yw yr Almaen, Ffrainc neu Gibraltar neu San Marino.
"Dwi'n deall y gêm a dwi'n hollol gefnogol o unrhyw wlad sy'n chwarae pêl-droed."
Positif a gofalgar
Yn wahanol i'w gwrthwynebydd hi yn yr etholiad, y deiliad o'r Eidal, Evelina Christillin, a chynghorwyr eraill FIFA, mae McAllister ei hun yn gyn-chwaraewr.
Mae hi wedi bod yn allweddol yn natblygiad pêl-droed merched yng Nghymru ac, yn y 1990au cynnar, hi oedd un o'r lleisiau mwyaf blaenllaw i berswadio Cymdeithas Bêl-Droed Cymru i gydnabod yr angen am dîm pêl-droed rhyngwladol i ferched yng Nghymru.
Ar ôl hynny, chwaraeodd McAllister ym mhob gêm Cymru rhwng 1994 a 2001, a roedd hi o gymorth i do newydd o chwaraewyr, gan gynnwys Kath Morgan.
"Roedd hi fel chwaer mawr, yn rhoi lot o gyngor," meddai Morgan, a aeth yn ei blaen i ennill 50 cap dros Gymru - y ddynes gyntaf i wneud hynny.
"On i'n hollol raw o ran pêl-droed, yn chwarae efo bechgyn tan o'n i'n 17 a falle dim ond wedi chwarae un gêm go iawn yn fy mywyd, felly oedd dim syniad gen i.
"Roedd Laura yn llais positif iawn, yn rhoi hyder i fi ac yn ofalgar.
"Roedd Laura yng nghanol yr amddiffyn a roeddwn i'n gefnwr da, a roeddwn i'n teimlo'n hollol gyfforddus yn chwarae efo hi."
'Y gallu i gyfathrebu'
Tra'n chwarae pêl-droed rhyngwladol, roedd McAllister hefyd wrthi'n datblygu gyrfa wleidyddol.
Ar ôl graddio o brifysgol LSE (London School of Economics) yn Llundain, ac yn 22 mlwydd oed yn unig, penderfynodd McAllister sefyll fel ymgeisydd i Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1987, yn ei thref enedigol, Pen-y-bont.
"Wel, baswn i'n dweud bod ei chymeriad hi ddim wedi newid ar hyd y blynyddoedd, sydd yn beth pwysig iawn dwi'n meddwl," meddai arweinydd y Blaid ym 1987, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
"Roedd ganddi'r gallu i gyfathrebu a'r gallu i ennill dadl, ond heb ddadlau efo pobl, ac mae hynny'n ddawn arbennig sydd ganddi hi.
"Oherwydd bod ei diddordebau hi mor eang, os oedd pobl methu cytuno â hi ar wleidyddiaeth, roedd yna rhywbeth i gytuno efo hi ar chwaraeon neu rhyw faterion eraill.
"Roedd ganddi hi'r gallu i gyfathrebu efo pob math o bobl. Mae hi wedi llwyddo i gyfuno chwaraeon a gwleidyddiaeth efo gyrfa academaidd hollol ddisglair."
Roedd McAllister yn aflwyddiannus yn yr etholiad yna ond, ar ôl cwblhau doethuriaeth mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fe aeth hi ymlaen i weithio i brifysgolion Lerpwl a Chaerdydd, ac mae hi nawr yn Athro mewn gwleidyddiaeth ac yn sylwebydd gwleidyddol adnabyddus.
Mae McAllister hefyd wedi gweithio mewn nifer o swyddi llywodraethu chwaraeon. Roedd hi'n gadeirydd Chwaraeon Cymru am chwe mlynedd, ac mae wedi bod yn ddirprwy gadeirydd pwyllgor merched UEFA ers 2017.
"Mae popeth mae Laura wedi gwneud, mae hi wedi dangos ei dawn i gynrychioli a peidio gadael y bobl sydd wedi ymddiried ynddi hi i lawr," meddai'r Arglwydd Elis-Thomas.
"Mae hwnna yn gryfder arbennig."
Yn gynharach y mis Ebrill, fe lansiodd Laura McAllister ei maniffesto ar gyfer ei hymgyrch - ac roedd hynny'n gam anghyffredin mewn etholiadau FIFA.
Mae'r maniffesto yn amlygu ei phrofiad ym myd pêl-droed, a sut bod hynny'n cyd-fynd â'i sgiliau proffesiynol.
A bydd McAllister yn gobeithio bydd hynny yn ddigon i'w gweld yn creu hanes ar Ebrill 20.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2016
- Cyhoeddwyd30 Mai 2017