Etholiad Senedd 2021: Barn pobl Eryri ar dwristiaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
taith etholiad Garry Owen

Wrth i etholiad Senedd Cymru ddod yn nes mae Garry Owen, gohebydd arbennig Radio Cymru, ar daith etholiadol o gwmpas Cymru.

Ei fwriad yw ymweld â mannau sy'n dechrau â'r llythrennau sy'n ffurfio'r gair SENEDD - mae eisoes wedi bod yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr, Eglwyswrw yn Sir Benfro a chwm Nedd.

Yr wythnos hon mae'n holi barn pobl ardal Eryri, gan ganolbwyntio ar bwnc sy'n cyfrannu'n fawr at yr economi yno - twristiaeth.

Fe ddecheuodd y daith yr wythnos hon gan holi Geraint a Delyth Rowlands - perchnogion fferm a maes carafanau Vanner ar safle Abaty Cymer, Llanelltud.

"Mae angen cefnogaeth i'r sector twristiaeth yn gyffredinol," ym marn Mr Rowlands.

"Mae'r sector yn cefnogi'r gymuned yn ehangach, ond ma' rhaid cael y balans yn iawn.

"Mae'n rhaid i'r gymuned wybod eu bod yn cael gwerth o dwristiaeth - mae'n anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint a Delyth Rowlands yn pryderu mai'r diwydiant twristiaeth yw'r unig opsiwn i nifer o bobl yn yr ardal

Er hynny, ychwanegodd Mr Rowlands bod angen mwy o ddiwydiannau na thwristiaeth yn unig yn yr ardal.

"Mae'n rhaid edrych yn sicr ar fusnes tai haf. Mae angen tai a gwaith i bobl leol. Mae angen strwythur pendant er mwyn cael y balans yn iawn," meddai.

"Does gennym ni ddim cyflogaeth a gwaith sy'n talu yn iawn heblaw am y diwydiant twristiaeth - dyna yw'r gwendid.

"Mae angen edrych ar ôl twristiaeth, ond mae'n rhaid hefyd i'r gymuned leol wybod fod y diwydiant twristiaeth ddim yn cymryd drosodd."

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o'r bobl a holwyd gan Garry Owen yn pryderu fod Eryri yn or-ddibynnol ar dwristiaeth

Ond mae pryder gan Mrs Rowlands y bydd nifer yr ymwelwyr yn mynd "allan o reolaeth" dros yr haf wrth i bryderon barhau am deithio dramor.

"Ry'n ni yn cael mwy o ymholiadau eleni gan bobl o Gymru a Phrydain oherwydd pryder pobl am deithio tramor a'r ansicrwydd ynghlwm â hynny," meddai.

"Mae'n bwysig bo' ni ddim yn cael ein boddi - mae cael y cydbwysedd yn bwysig.

"Fy ofn i yw y galle hynny fynd allan o reolaeth a ma' hynny yn fygythiad gwirioneddol."

"Mae angen rheolaeth eitha' cadarn rŵan. Mae angen i Wynedd, y Parc Cenedlaethol a phawb fod yn glir - oes ma' ishe twristiaeth, ond hefyd mae angen ei reoli."

'Heb waith s'dim gobaith'

Ym marn Dylan Rowlands, perchennog siop gwerthu gwin Dylanwad yn Nolgellau, mae angen buddsoddi mewn busnesau er mwyn cymryd y baich oddi ar y diwydiant twristiaeth.

"Mae pobl busnes fel fi yn chwilio am dipyn o help. Mae angen help i ragor o fusnesau da i sefydlu yn y dre' 'ma," meddai.

"'Da ni angen swyddi a chyflogau da. Mae busnesau da yn y diwydiant twristiaeth sy'n gwneud elw da, a 'da ni isio hybu nhw i gynnig swyddi da, a swyddi tymor hir.

"Yr ofn ydy, os na ddaw help, fe allan ni golli y cyfleon newydd mewn meysydd fel yr ochr gwyrdd er enghraifft.

"Mae pethe y gallwn ni neud yng Nghymru, a phosibilrwydd o greu busnesau newydd nawr - heb y gwaith s'dim gobaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Rowlands yn galw am fwy o gefnogaeth i sefydlu busnesau newydd yn yr ardal

Un arall oedd yn rhannu'r farn bod yr ardal yn or-ddibynnol ar dwristiaeth oedd Tomi Vaughan - myfyriwr cyfrifeg, ond mae ei deulu yn ffermio ac yn berchen ar faes carafanau yn Nhywyn.

"Gyda'r broblem Covid mae wedi bod yn anodd iawn i ni fel busnes," meddai.

"Mae'n brysur nawr a dan ni yn dibynnu cymaint ar y sector twristiaeth yn yr ardal hon - nid jest yn Nhywyn ond ym Meirionnydd i gyd.

"Dwi'n lwcus iawn fel person ifanc oherwydd ma'r fferm gyda ni a'r busnes gwyliau, ond dydy llawer o fy ffrindiau ddim mor lwcus.

"S'dim byd ganddyn nhw - nunlle i weithio yn Nhywyn. S'dim llawer o opsiynau swyddi a bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i rywle arall i weithio, sydd yn drist iawn achos ma' angen cadw pobl yn yr ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Tomi Vaughan ydy bod pobl yn gorfod gadael yr ardal i ganfod gwaith

Yn ei farn ef mae'n rhaid canolbwyntio ar gynlluniau ynni gwyrdd er mwyn cymryd y pwysau oddi ar y diwydiannau ymwelwyr ac amaeth.

"Da ni'n dibynnu gormod ar dwristiaeth ac amaeth am yr economi yn yr ardal hon. Mae angen edrych ar bethau eraill," meddai.

"Mae gyda ni lwyth o adnodau naturiol yng Nghymru ac mae'n bwysig defnyddio nhw'r gorau da ni'n gallu a buddsoddi mewn cynlluniau fel rhai hydro.

"Mae pethau fel tyrbeini gwynt yn rhywbeth allan ni ddatblygu - mae mor bwysig defnyddio'r rhain i gyd i'r gorau da ni'n gallu."