Etholiad 2021: 'Gwnelo llacio cyfyngiadau dim â'r ymgyrchu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Llafur Mark Drakeford yn dweud bod dim cysylltiad rhwng penderfyniad i lacio rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws yn gynt ag ymgyrch etholiadol Senedd Cymru.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei gyhuddo o "chwarae gwleidyddiaeth" trwy lacio cyfyngiadau am yr eildro yn ystod y cyfnod ymgyrchu.
Ond mynnodd Mr Drakeford ar raglen Ask The Leader BBC Cymru: "Does wnelo fe ddim ag ymgyrchu etholiadol.
"Mae'r cyfan i wneud â'r cyngor sydd gyda ni ynghylch sefyllfa bresennol y feirws."
Dywedodd Mr Drakeford bod y penderfyniad i adael chwe pherson o chwe aelwyd gwrdd yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn, ac mewn mannau tu allan bwytai a thafarndai o ddydd Llun 26 Ebrill, ar sail arweiniad ymgynghorwyr meddygol a gwyddonol Llywodraeth Cymru.
"Cyfraddau coronafeirws Cymru yw'r rhai isaf yn y DU, y cyfraddau brechu yw'r rhai gorau yn y DU," meddai. "Mae hynny'n creu cyd-destun ble roedden ni'n gallu adfer mwy o ryddid i bobl yn gyflymach nag yr oedden ni wedi rhagweld."
Senedd 2021: Beth yw addewidion y Blaid Lafur
Dywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd yn gwneud datganiad pellach ynghylch y sector lletygarwch yng nghynhadledd adolygiad coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener.
Ond ni wnaeth ymhelaethu a fydd Cymru'n dilyn yr un trywydd â Lloegr gan ganiatáu i dafarndai a bwytai ailagor dan do ar 17 Mai.
Dywedodd: "Bydd y penderfyniad yna ochr arall yr etholiad. Ond ddydd Gwener fe wnaf amlinellu beth fyddai llywodraeth Lafur yn ei wneud yn y tair wythnos wedi'r etholiad, fel rydym yn gyson wedi rhoi arwydd o flaen llaw i letygarwch dan do, i weddill y diwydiant twristiaeth, a phethau eraill ynghylch beth rydym ym meddwl y byddai'n cyd-destun iechyd cyhoeddus yn ei ganiatáu nawr."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
BLOG VAUGHAN RODERICK: Faint o obaith sydd gan y pleidiau llai?
PODLEDIAD: Llond bol o bleidleisio?
Dywedodd Mr Drakeford y byddai llywodraeth Lafur "yn cadw opsiynau ar agor" ynghylch cyfraddau treth incwm.
Mae wedi dweud yn y gorffennol na fyddai llywodraeth Lafur yn codi cyfraddau nes "o leiaf" bo effaith economaidd y pandemig wedi pasio.
Pan ofynnwyd pryd fyddai'n ystyried codi'r dreth, awgrymodd efallai byddai'n ei gostwng: "Rydym yn cadw'r opsiwn ar agor pan rydym yn mynd heibio'r cyfnod presennol.
"Wnawn ni edrych i weld pan fo'r adferiad ar waith beth yw'r amgylchiadau. Wnaethon ni ddim codi'r dreth incwm yn y pum mlynedd diwethaf".
Mae etholiadau Senedd Cymru ddydd Iau Mai 6.