Llofruddiaeth Casnewydd: Dedfrydau o garchar i dri dyn

  • Cyhoeddwyd
Euan Peters, Perrie Dunwell a Conlan DunnionFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,

O'r dde i'r chwith: Euan Peters, Perrie Dunwell a Conlan Dunnion

Mae dyn sy'n cael ei nabod fel "y gorfodwr" a dau ddyn arall wedi cael eu carcharu am ladd dyn 22 oed yn ystod lladrad yn ei gartref.

Bu farw Shafiul Islam wythnos ar ôl cael ei daro droeon gyda photel seidr yn ystod yr ymosodiad yn ardal Shaftsbury Casnewydd ar 14 Tachwedd 2019.

Cafodd Euan Peters, 42 oed ac o Gaerdydd, ddedfryd o garchar am oes wedi i Lys y Goron Casnewydd ei gael yn euog wythnos diwethaf o lofruddiaeth.

Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 31 o flynyddoedd dan glo.

Cafodd y llys ddau ddyn o Gasnewydd yn euog o ddynladdiad. Cafodd Perrie Dunwell, 33, ei garcharu am 13 mlynedd o garchar, a Conlan Dunnion, 23, am naw mlynedd a hanner.

Cafwyd y tri hefyd yn euog o gynllwynio i ladrata.

Mae gan Peters record droseddol helaeth yn dyddio'n ôl i 1993.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shafiul Islam yn ymhel â chyffuriau adeg yr ymosodiad, yn ôl yr heddlu

Clywodd y gwrandawiad dedfrydu bod Peters "wedi cael ei recriwtio fel gorfodwr".

Tarodd Mr Islam ar ei ben ddwywaith gyda'r botel nes iddi dorri, cyn slaesio'i wyneb. Dioddefodd Mr Islam anaf i'r ymennydd.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi cael ei roi mewn gofal pan yn 13 oed, ond roedd yn dal yn agos i'w fam.

Cafodd ei ddisgrifio fel person "swil a charedig o ran natur... doniol... a byddai wastad yn siriol ac yn gwenu".

'Peryglus'

Roedd troseddau blaenorol Peters yn cynnwys bod ym meddiant arfau a chyllyll, ymosod, lladrata a cheisio lladrata.

Cafodd "ddedfryd amhenodol" o garchar yn 2006 "er diogelwch y cyhoedd" yn Llys y Goron Caerdydd am amrywiaeth o droseddau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn Tewkesbury Walk yn ardal Shaftsbury Casnewydd

Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford bod hynny'n golygu "bod y barnwr wedi dod i'r casgliad eich bod yn beryglus".

Ychwanegodd: "Mae'n amlwg eich bod yn dal yn beryglus."

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Nick Wilkie o Heddlu Gwent bod Mr Islam wedi "talu'r pris uchaf" ar ôl dod yn rhan o fasnachu cyffuriau anghyfreithlon.

Ychwanegodd: "Roedd hwn yn ymosodiad dychrynllyd a bwriadol ar ddyn ifanc, yn ei gartref ei hun, yn hwyr gyda'r nos."