Cyffur newydd yn newyddion 'anhygoel' i gleifion MS
- Cyhoeddwyd
Mae cyffur newydd sydd wedi ei gymeradwyo gan bwyllgor NICE yng Nghymru ac yn Lloegr i drin cyflwr parlys ymledol - mulitple sclerosis - wedi ei ddisgrifio fel datblygiad "calonogol" i gleifion.
Mae'r salwch yn effeithio ar ryw 5,600 o bobl yng Nghymru ac mae'n achosi niwed a llid ar yr ymennydd all arwain at flinder sylweddol a phoenau mawr ar draws y corff.
Does dim gwellhad tymor hir i'r cyflwr ond mae ymchwil wedi bod yn digwydd i geisio lleddfu'r sgil effeithiau.
Yn ôl un ddynes sy'n byw â'r cyflwr mae'r datblygiad diweddaraf yn "anhygoel".
'Ffitio mewn i bob bocs'
Fe ddechreuodd Llio Jones, 23 oed o Lanrug yng Ngwynedd, brofi poenau yn ei chefn a cholli teimlad yn ei bysedd yn 2018.
Roedd hi wedi ceisio anwybyddu rhai o'r symptomau am gyfnod ond ar ôl gwyliau yn Sbaen fe ymosododd y cyflwr mewn modd ffyrnig, meddai.
"Mi 'naeth o jest gwaethygu pan es i Sbaen - mi 'naeth y gwres hitio fi," meddai.
"Doeddwn i methu symud yn dda iawn ac roedd rhaid meddwl - mae 'na rywbeth sydd rili ddim yn iawn yn fa'ma i betha' fynd mor ddrwg â hynna.
"Nes i wneud ymchwil efo'r symptomau oedd gen i gynt a hefyd yr heat tolerance, ac fe ddoth MS fyny - o'n i'n ffitio mewn i bob bocs."
Dysgu i fyw gyda'r cyflwr
Wedi iddi ddychwelyd adref fe aeth Llio i weld meddygon ac o fewn dim fe gafodd hi ddiagnosis o MS.
"Es i mewn fel outpatient ac o fewn 24 awr o'n i wedi cael y 100% - dyna ydy o," meddai.
"Mi 'naeth y journey ddechrau ar ôl mynd adra achos roedd yn rhaid adaptio i bob dim."
Dros y misoedd i ddod bu'n rhaid i Llio ddysgu sut i fyw gyda'r cyflwr.
Mae hi'n gorfod cynllunio bob diwrnod yn ofalus er mwyn osgoi gorflino, sy'n golygu nad ydy hi'n gallu cwblhau tasgau syml fel cael bath.
"Dwi'n meddwl yn y bore, reit dwi angen bath - so dwi'n gadael o cyn mynd i'r gwely achos dydw i methu g'neud dim ar ôl hynna," meddai Llio.
Yn ôl y Gymdeithas MS mae'r cyflwr yn gallu arddangos mewn nifer o ffyrdd gwahanol gan gynnwys effeithio ar y golwg, balans, cof, cyhyrau a hefyd teimladau pobl.
Er nad oes gwellhad tymor hir, mae gwyddonwyr yn datblygu cyffuriau newydd yn gyson i helpu cleifion, a'r diweddara' ydy Ofatumumab.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mae'r cyffur bellach wedi ei gymeradwyo ac mae disgwyl iddo fod ar gael dros y misoedd nesaf i gleifion.
Mae'r cyffur wedi profi canlyniadau cadarnhaol wrth leddfu symptomau ac atal symptomau rhag ailymddangos.
'Gobeithio all o helpu pobl'
"Mae'n beth calonogol bod 'na nifer o driniaethau," meddai Dr Rhys Davies, niwrolegydd sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
"Mae'r cemegolion yma yn rhan o'r dull o sut mae'r corff yn atal yr haint.
"Os 'da ni'n defnyddio rhai o'r cyffuriau - y MABS, maen nhw'n medru tawelu ambell agwedd o sut mae'r system imiwnedd yn gweithio."
Tra bydd y cyffur newydd ar gael i nifer yng Nghymru, mae Llio yn dweud nad oes modd iddi hi ei dderbyn oherwydd bod ganddi gyflwr prin arall - MOG - sy'n atal y cyffur newydd rhag gweithio.
Gwaetha'r modd, mae hi'n dweud fod y datblygiad hwn yn "anhygoel".
"Mi fydd o ar gael i gannoedd o bobl sydd hefo fo," meddai.
"Mae'n amazing rili sut maen nhw'n gallu micsio pethau a ffeindio'r pethau sy'n gallu helpu pobl.
"Dwi rili'n gobeithio rŵan all o helpu pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017