Llacio rheolau Covid: Heddlu'n barod i wasgaru torfeydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n addo i fynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau poblogaidd dros y penwythnos wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws lacio gan ganiatáu mwy o gyfleoedd i gymdeithasu.
Mae gorchmynion gwasgaru mewn grym ym Mae Caerdydd, Abertawe, Aberogwr ac Ynys Y Barri sy'n rhoi'r hawl i Heddlu De Cymru wasgaru torfeydd.
Bydd yna gamau gweithredu hefyd yn Ninbych-y-Pysgod, yn Sir Benfro wedi i Heddlu Dyfed-Powys fynegi pryderon ynghylch "ymddygiad gwrthgymdeithasol posib".
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn trefnu patrolau ychwanegol wrth ragweld prysurdeb yn y rhanbarth dros y penwythnos.
O ddydd Sadwrn, mae chwe pherson o chwe aelwyd wahanol yn cael cwrdd yn yr awyr agored dan y newidiadau diweddaraf i'r rheolau Covid.
Dywedodd Heddlu De Cymru taw dyma'r tro cyntaf iddyn nhw osod gorchymyn gwasgaru yn Aberogwr a hynny yn sgil achosion diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Dydyn ni ddim yna i fonitro niferoedd ymwelwyr ac atal pobl sy'n dod yma i fwynhau gan ddilyn y gyfraith," medd y llu. "Rydym yna i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
"Mae gyda ni oll gyfrifoldeb i wneud dewisiadau doeth pan rydym yn mynd allan, gan gadw pellter cymdeithasol ac osgoi risg ddiangen i ni'n hunain ac eraill."
Mae'r gorchymyn gwasgaru yn ardal cod post SA1 yn Abertawe yn sgil negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi dod i sylw Heddlu'r De ynghylch digwyddiad torfol posib ar draeth leol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio'i ymgyrch flynyddol i sicrhau bod Dinbych-y-Pysgod "yn parhau i fod yn gyrchfan ddiogel a phoblogaidd drwy'r gwanwyn a'r haf".
Dywedodd y Prif Arolygydd Louise Harries bod yr ymgyrch yn ymateb i bryderon trigolion lleol yn sgil dilyn nifer o achosion diweddar.
Bydd swyddogion y llu hefyd yn patrolio "ardaloedd sydd wedi eu nodi fel safleoedd posib rêfs anghyfreithlon", ac yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth os oes arwyddion bod un yn cael ei gynnal.
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog gyrwyr "i gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd "yn dilyn nifer o wrthdrawiadau difrifol yn ddiweddar.
Beth yw gorchymyn gwasgaru?
Gorchymyn sydd mewn grym mewn ardal benodol am hyd at 48 awr dan adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Hawl i'r heddlu a swyddogion cefnogaeth cymunedol orfodi pobl i adael man penodol a pheidio â dychwelyd am gyfnod o amser
Y nod yw atal anhrefn ac achosion o aflonyddu, codi braw neu achosi gofid i aelodau'r cyhoedd yn yr ardal dan sylw.
Gall pobl sy'n anwybyddu'r gorchymyn gael dirwy neu hyd at dri mis o garchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2021