Etholiad Senedd 2021: Barn pobl Yr Wyddgrug ar addysg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
taith etholiad Garry Owen

Wrth i etholiad Senedd Cymru ddod yn nes mae taith Garry Owen, gohebydd arbennig Radio Cymru, yn dod i ben.

Mae e wedi bod yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr, Eglwyswrw yn Sir Benfro, Cwm Nedd, Eryri a ddydd Mawrth olaf Ebrill mae e yn Yr Wyddgrug.

Y pwnc sydd dan sylw yr wythnos hon yw addysg a dyma farn trigolion un o brif drefi y gogledd ddwyrain.

Barn rhai o ddisgyblion blwyddyn 12, Ysgol Maes Garmon

"Rwy'n edrych am blaid sy'n meddwl am les pob disgybl ac yn edrych tu fas i Gaerdydd a'r de."

"Mae addysg yn bwysig iawn - er enghraifft pris a chost prifysgol ynghyd â galluogi pobl llai ffodus i gael gyrfa dda".

"Mae lot o anrhefn yn ddiweddar gyda coronafeirws ac mae addysg wedi newid. Ni angen eglurder o ran petha fel profion ac asesu."

"Mae angen i bleidiau a gwleidyddion ddangos diddordeb mewn pobl ifanc a be yw eu hanghenion achos mae anghenion pobl ifanc yn wahanol i bobl hŷn."

"Byddai yn cael llawer o wybodaeth am be mae y pleidiau yn ddweud am bethe fel addysg ar y we ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond a bod yn onest byddai yn cael gwybodaeth hefyd trwy siarad a thrafod hefo ffrindia a theulu."

Gareth Williams - gweithio yn y sector addysg

"Mae addysg yn bwysig yn yr etholiad. Gyda sôn am y continiwm iaith a chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg mae angen ystyried yn fwy y plant sy'n cael addysg trwy gyfrwng y Saesneg.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n dalcen caled yn Sir y Fflint o ran y Gymraeg,' medd Gareth Jones

"Mae angen i'r Gymraeg, nid o reidrwydd fel pwnc, ond fel iaith a sgil gyfathrebu, ddatblygu a gweithio yn well tu mewn i furiau ysgolion cyfrwng Saesneg.

"Mae angen cefnogaeth i gynorthwyo y di-Gymraeg yn lleol. Mae nhw yn Gymry heb yr iaith. Dyma lle mae'r talcen caled fan hyn yn sir y Fflint ger y ffin."

Francesca Sciarillo - cyn-enillydd Medal y Dysgwyr yr Urdd

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr etholiad - mae yn bwysig ac yn effeithio ni gyd.

Disgrifiad o’r llun,

'Hoffwn weld gwleidyddion yn rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu Cymraeg'

"Addysg sy ar frig y rhestr gyda fi. Rwy'n meddwl mewn ardal fel hon ma' lot o bobl sy ddim yn siarad Cymraeg - mae yr ysgolion yn gweithio yn galed ond mae llawer o waith i'w wneud.

"Hoffwn i weld gwleidyddion yn rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu Cymraeg mewn ysgolion ail iaith, cyfrwng Saesneg. Bydda hynny yn gneud byd o wahaniaeth mewn ardal fel sir y Fflint."

Pynciau cysylltiedig