Carcharu gwerthwr ceffylau o Fro Morgannwg am greulondeb
- Cyhoeddwyd
Mae gwerthwr ceffylau wedi ei garcharu a'i wahardd rhag cadw anifeiliaid am oes ar ôl i lys ei gael yn euog o achosi poen diangen i anifeiliaid.
Cafodd Tom Price, 56 oed o Dresimwn, Bro Morgannwg, ddedfryd o chwe mis o garchar gan Ynadon Merthyr Tudful.
Clywodd y llys fod yr awdurdodau wedi gorfod rhoi 240 o geffylau mewn gofal ar ôl dod o hyd iddynt mewn amgylchiadau truenus.
Daeth swyddogion lles anifeiliaid hefyd o hyd i ddefaid mewn cyflwr truenus yn Sŵn y Môr, ger Y Wig ym Mro Morgannwg yn Awst 2019.
Er ei bod yn ganol haf doedd y defaid heb eu cneifio, yn dioddef gyda chynrhon â chlwyfau cysylltiedig a bu'n rhaid eu difa.
Yn Ionawr 2020 daeth swyddogion o hyd i'r ceffylau mewn amgylchiadau truenus ar dri safle yn Sŵn Y Môr, Tresimwn a Choety, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd yr anifeiliaid yn ddwfn mewn mwd a heb fwyd na dŵr glan.
Cafod Price ei gyhuddo o achosi poen diangen i wyth o geffylau - rhai ohonynt yn sylweddol dan bwysau, tra bod gan eraill friwiau hir-dymor wedi eu hachosi gan siacedi nad oedd yn addas.
Clywodd y llys fod gan Price hanes o gael ei erlyn am gam-drin, a'i fod wedi ei wahardd yn y gorffennol am bum mlynedd rhag cadw anifeiliaid.
Roedd tri o gynghorau sir, Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont wedi dod a'r achos yn ei erbyn.
Fe'i cafwyd yn euog o 32 cyhuddiad o achosi dioddefaint diangen i geffylau a defaid.
Roedd ei bartner, Luanne Bishop, eisoes wedi pleidio'n euog i 31 o gyhuddiadau tebyg.
Fe gafodd Bishop ddedfryd o 12 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis, a'i gwahardd rhag cadw anifeiliaid am oes, ar wahân i nifer penodol o anifeiliaid anwes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019