Angen 'sgwrs genedlaethol' am hiliaeth a sut i'w daclo
- Cyhoeddwyd
Mae angen "sgwrs genedlaethol" i fynd i'r afael â hiliaeth, yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.
Fe gafodd graffiti hiliol a swastika eu paentio ar wal pencadlys y cyngor yn Aberystwyth yn ddiweddar, ac yn ôl Helgard Krause mae "gwaith i'w wneud" i daclo hiliaeth.
Mae Ms Krause yn dweud iddi deimlo ei fod yn eitha personol pan welodd hi'r graffiti a swastika gan bod ganddi deimladau cryf am symboliaeth y swastika.
Ar ôl y profiad mae'n dweud bod gwersi i'w dysgu.
Problem ymhob man
"Mae'n bwysig i bobl gydnabod nad oes unrhyw le yng Nghymru lle nad yw hwn yn digwydd," meddai.
Ar ôl yr ymosodiad ar swyddfa'r cyngor dywedodd fod pobl wedi gofyn iddi os oedd hi yn "shocked" fod hyn yn digwydd yn Aberystwyth.
"Dwedes i bo fi ddim yn shocked achos mae angen derbyn, yn anffodus, bod hyn yn bodoli unrhyw le," meddai.
"Mae hyn yn bwysig achos mae rhai cymunedau, efallai, yn credu bod hyn ddim yn wir am eu cymuned nhw.
"Ond mae rhaid i bawb berchen y broblem yma - unrhyw le yng Nghymru neu ym Mhrydain neu'r byd - a rhaid penderfynu be sy'n ymarferol i'w wneud ynglŷn â'r peth. Mae'n bwysig i drafod a hefyd i weld be ry'n ni'n gallu gwneud."
Eisoes mae'r Cyngor Llyfrau wedi dechrau cyflwyno newidiadau i helpu i ddelio â'r broblem, ond mae Ms Krause yn dweud bod rhaid i bawb wneud mwy i gysylltu gyda phobol o gefndiroedd amrywiol.
"Pan ni'n hysbysebu swyddi 'ni bron byth yn cael ymgeiswyr o gefndiroedd gwahanol. Mae rhaid gneud mwy felly i fagu hyder pobol o gefndiroedd gwahanol. Mae ffordd bell i fynd a lot o waith i'w wneud."
Mae Melanie Owen - sydd o dras Cymreig a Charîbiaidd - yn byw yn Aberystwyth, ac mae'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth.
Mae hi'n cefnogi'r alwad am sgwrs genedlaethol ac yn dweud fod amynedd pobol yn "dechre rhedeg allan yn gloi".
Yn ôl Ms Owen, mae llofruddiaeth George Floyd wedi gwneud gwahaniaeth.
"Does dim esgus nawr," meddai.
"Mae rhaid gofyn cwestiyne sydd yn rili anghyfforddus i Gymry Cymraeg. Pam bo ni ar ei hôl hi fel Cymry Cymraeg yn y trafodaethau yma?"
I Helgard Krause mae addysg yn allweddol ac mae'n croesawu newidiadau yn y cwricwlwm, ac yn hyderus y bydd hyn yn helpu.
Mae'n deall bod pobol sydd wedi aros yn hir i weld y newidiadau'n digwydd, yn rhwystredig, ond mae "newid agwedd pobol yn anodd achos mae'n gymysgedd o ofn ac anwybodaeth," meddai.
"Mae hwn yn anodd i daclo dros nos."
Mae angen "siarad, gwrando a dysgu", ac angen pobol o gefndiroedd amrywiol i arwain y drafodaeth yna, meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020