'Tymor diwethaf y Senedd y gwaethaf erioed' medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o'r Senedd wedi dweud mai'r tymor diwethaf oedd y gwaethaf erioed, a'i fod yn "falch" o ffarwelio a symud ymlaen at y dyfodol.
Dywedodd Alun Davies, a gynyddodd ei fwyafrif ym Mlaenau Gwent wrth gael ei ethol am y pedwerydd tro, mai'r tymor diwethaf oedd y "gwaetha' dwi wedi gwasanaethu ynddo fe".
Mae Mr Davies wedi cynrychioli Blaenau Gwent ers 2011, a chyn hynny roedd yn cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd hefyd bod y tymor o bum mlynedd yn rhy hir a dylid ystyried ei ostwng i bedair, ond ychwanegodd bod ganddo obeithion am y tymor newydd.
'Falch iawn' ei fod ar ben
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar ddechrau'r tymor newydd, dywedodd: "Mae pob tymor yn wahanol. Dwi'n credu bod lot fawr ohonon ni - os cai ddweud - wedi cael llond bol o'r hen Senedd.
"O'dd y Senedd sydd newydd bennu y Senedd gwaetha' dwi wedi gwasanaethu ynddo fe.
"O'n i'n falch iawn ei fod wedi dod i ben."
Ychwanegodd mai "rhai o'r ffigyrau oedd wedi eu hethol oedd yn gyfrifol am hynny", heb ddweud yn union pwy.
"Gyda'r bobl oedd ddim yn cyfrannu, roedd 'na bwysau ychwanegol ar eraill.
"Hefyd, roedd yr awyrgylch yno ddim yn un pleasant, ble o'ch chi'n gallu trafod ac anghytuno gyda pobl yn y siambr ond wedyn yn gallu cerdded mas gyda'i gilydd wedi hynny.
"Doedd hynny ddim yn digwydd yn ystod y pum mlynedd diwetha'... Dwi'n meddwl bod pum mlynedd yn rhy hir. Byddwn i'n licio dychwelyd i bedair mlynedd rhwng etholiadau," ychwanegodd.
Ddydd Mercher mae 19 o aelodau newydd yn dechrau ar eu gwaith o gynrychioli etholaethau a rhanbarthau am y tro cyntaf - gydag Altaf Hussain o'r Ceidwadwyr yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2016.
"Dwi'n optimistig iawn ar gyfer y senedd yma fel mae'n digwydd," ychwanegodd Mr Davies.
"Mae gyda ni aelodau newydd ym mhob plaid sy'n gallu cyfrannu a dwi'n credu fydd yn gryf, er bod ni'n anghytuno. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pobl newydd."
Wrth siarad am ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar y gwaith fe rybuddiodd bod aelodau'n wynebu pwysau cynyddol ac yn cael eu sarhau'n amlach dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n galw am gyflwyno rheoleiddio llymach o lwyfannau digidol fel Facebook a Twitter.
Yn ystod y tymor diwethaf fe gafodd Mr Davies AS ei wahardd gan ei blaid am bum wythnos wedi i Gomisiwn y Senedd ddod i'r casgliad ei fod ef a phedwar unigolyn arall wedi yfed alcohol yn y Senedd ar 8 Rhagfyr.
Ychydig ddiwrnodau cyn hynny roedd y gwaharddiad ar weini alcohol mewn tafarndai ac adeiladau trwyddedig wedi dod i rym yng Nghymru.
Ymddiheurodd yn dilyn y digwyddiad ond fe wadodd iddo dorri rheolau Covid-19.
Mae Mr Davies yn un o'r rhai sydd wedi dangos diddordeb yn rôl y dirprwy lywydd - penodiad a fydd yn cael ei gyhoeddi brynhawn Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021