Dadorchuddio portread newydd o Robert Owen yn y Drenewydd
- Cyhoeddwyd
Mae portread newydd o'r diwygiwr cymdeithasol a'r dyngarwr Robert Owen wedi'i ddadorchuddio yn y Drenewydd, Powys union 250 o flynyddoedd ers iddo gael ei eni.
Fe'i ganed yn y dref ar 14 Mai 1771, yn fab i gyfrwywr a gwerthwr nwyddau haearn.
Bu'n byw yn y Drenewydd hyd nes ei fod yn 10 oed, pan adawodd i weithio fel prentis i ddilledydd yn Stamford yn Swydd Lincoln.
Oddi yno aeth ymlaen i weithio i ddilledydd ym Manceinion, cyn newid i redeg melin gotwm - a oedd yn cyflogi 500 o bobl - pan oedd dim ond yn 21 oed.
Yn 1799 fe brynodd felin gotwm fawr yn Lanark Newydd ger Glasgow lle aeth ati i wella amodau gwaith, tai a sefyllfa gymdeithasol ei weithwyr, gan ddarparu gwell cartrefi iddyn nhw a gofal meddygol am ddim.
Hefyd, fe ostyngodd hyd y diwrnod gwaith a sefydlu'r ysgol fabanod gyntaf ym Mhrydain.
Dychwelodd i'r Drenewydd ar ddiwedd ei oes. Bu farw yn y dref ym mis Tachwedd 1858 a chladdwyd ef ar dir hen eglwys y plwyf.
Mae Owen yn cael ei ystyried yn 'dad y mudiad cydweithredol'.
Ar y pryd, fe fyddai'r mwyafrif o gyflogwyr yn talu eu gweithwyr mewn tocynnau nad oedd o unrhyw werth y tu allan i 'siopau tryc' perchennog y felin, lle roedd nwyddau israddol yn cael eu gwerthu am brisiau uchel.
Sefydlodd Owen siopau a oedd yn gwerthu cynnyrch bron am bris eu cost. Byddent yn prynu nwyddau mewn swmp ac yn trosglwyddo'r arbedion i'r cwsmeriaid, gan sefydlu'r egwyddorion ar gyfer siopau cydweithredol.
Disgyblaeth trwy anogaeth
Yn ôl Dewi Hughes, hanesydd a llyfrgellydd Amgueddfa Robert Owen, roedd ei fagwraeth yn y Drenewydd yn allweddol wrth ffurfio ei syniadau:
"Mae'n dref hyd heddiw sydd a synnwyr o gymuned, ac roedd o wedi cael y syniad yma o gymunedaeth a mynd a hynny efo fo yn gyntaf i Fanceinion ac wedyn i Lanark Newydd lle ddaru o wneud yr arbrawf enfawr yna o adeiladu pentref i fod yn gydweithredol.
"Un o'r pethau pwysicaf wnaeth e oedd trefnu addysg i blant heb ddefnyddio trais, ond yn hytrach sicrhau disgyblaeth i blant trwy anogaeth, cefnogaeth ac atgyfnerthiad - syniadau 'da ni dal yn meddwl amdanyn nhw heddiw."
Denodd ei waith yn Lanark Newydd - yn enwedig sefydlu'r ysgol - sylw gan lysgenhadon tramor a byddai diwygwyr cymdeithasol eraill yn ymweld, gan ennill enw da i Owen yn rhyngwladol.
Bydd y portread newydd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Robert Owen yn y Drenewydd.
Dywedodd Rex Shayler, cadeirydd yr amgueddfa: "Cefais fy syfrdanu (pan welais y portread am y tro cyntaf). Allwn i ddim ei gredu. Roeddwn i'n meddwl 'dyma fersiwn Robert Owen o'r Mona Lisa. Mae'r llygaid yn eich taro - ac maen nhw'n tueddu i'ch dilyn chi o gwmpas yr ystafell."
Mae Owen yn cael ei bortreadu yn y llun yn ddyn yn ei 30au hwyr, pan oedd ar ei anterth yn ôl Mr Shayler: "Roedd ganddo'r melinau yn Lanark Newydd, roedd newydd adael Manceinion ac roedd bob amser yn anelu at sicrhau bywyd gwell i'r plant a'r gweithwyr.
"Dyna oedd hanfod Robert Owen - 'os ydych yn gweithio i fi, byddaf yn talu'n dda i chi, byddaf yn gofalu amdanoch chi.'
"Dywedodd fod gweithiwr iach yn weithiwr hapus, ac yn fwy cynhyrchiol."
Mae'r portread wedi'i wneud gan arlunydd o'r Drenewydd, Brian Jones. Mae e wedi cynnwys eglwys y Santes Fair a'r afon yn y cefndir.
Dywedodd Mr Jones: "Fe gymerodd lawer o wythnosau i gynhyrchu'r llun ond mae'n ymddangos bod pawb yn falch gyda'r portread gorffenedig.
"Ro'n i eisiau dod ag ef adref. Felly, yn lle dim ond portread syml ohono'n gwenu gyda chefndir plaen, ro'n i eisiau dod ag Eglwys Santes Fair i mewn, ac Afon Hafren a'r bryniau o amgylch y dref. Felly mae e nôl adref yn y portread. "
Yn ôl Dewi Hughes mae'r llun yn cyfleu cymeriad Robert Owen yn ardderchog - "Mae e wedi dal egni a deallusrwydd y dyn, ond hefyd ei angerdd e o blaid gwneud y byd yn well."
Mae amgueddfa Robert Owen ar gau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid a bu'n rhaid gohirio digwyddiadau a gynlluniwyd i ddathlu'r 250 mlwyddiant ers ei eni, ond mae gobaith y bydd rhai dathliadau yn gallu cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019