Llong hanesyddol y Zebu mewn perygl o suddo yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Llong y ZebuFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau, Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llong Zebu yn gorwedd ar greigiau sy'n rhan o'r morglawdd yng Nghaergybi

Mae llong sydd wedi teithio o amgylch y byd mewn perygl o suddo ym morthladd Caergybi ar ôl dod yn rhydd o'i safle.

Roedd dau o bobl ar fwrdd y llong 100 troedfedd o daldra pan symudodd brynhawn Sadwrn o'r safle yn harbwr newydd Caergybi i forglawdd gerllaw.

Roedd y llong yn y broses o gael ei throi yn amgueddfa a chanolfan addysg wedi blynyddoedd o gario plant o amgylch y byd fel rhan o Operation Raleigh.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi roedd ymgais i dynnu'r llong i ffwrdd o'r morglawdd yn aflwyddiannus, ac erbyn hyn mae'n gwyro tipyn.

"Mae wedi aros yno dros nos," meddai'r asiantaeth, "yn methu â dod oddi yno oherwydd bod y llanw'n mynd allan."

Fe adawodd y Zebu ddociau Albert yn Lerpwl dydd Mawrth Mai 11 ar ei ffordd i Fryste, lle roedd hi'n mynd i gael gwaith atgyweirio pellach.

Beth ydy hanes y Zebu?

Cafodd y Zebu ei hadeiladu yn Sweden yn 1938, er mwyn cludo nwyddau megis pren, papur a mwyn haearn.

Y gred ydy bod y llong wedi cael ei defnyddio yn ystod yr ail ryfel byd i smyglo ffoaduriaid ac arfau o Wlad Pwyl a Denmarc.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2015 fe suddodd y Zebu yn nociau Albert yn Lerpwl

Yn y 70au cafodd ei phrynu gan ddyn o Brydain a'i llogi gan Operation Raleigh, elusen a oedd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o Brydain wirfoddoli dramor.

Rhwng 1984 a 1988 fe gariodd dros 500 o bobl ifanc a bu'n ymweld a 41 o wledydd fel rhan o'i gwaith, cyn dychwelyd i Lerpwl, pryd gafodd ei throi yn ganolfan addysg.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r llong suddo. Yn mis Medi 2015 fe suddodd y llong yn nociau Albert yn Lerpwl, lle oedd hi wedi ei hangori y tu allan i'r Amgueddfa Tate.

Ym mis Ionawr 2017 cafodd y Zebu ei phrynu unwaith eto, a gydag arian o'r Loteri Genedlaethol mae ei sefydliad, Tall Ship Zebu, wedi cynnal gwaith adnewyddu pellach yn y gobaith o'i chael hi yn hwylio yn ôl ar y môr.

Pynciau cysylltiedig