Dau yn euog o ymosod ar blismyn mewn parti Prifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Modlen Alun (dde) a Harri Williams (canol) yn cyrraedd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Modlen Alun (dde) a Harri Williams (canol) yn cyrraedd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener

Mae dau berson ifanc o Ddyffryn Conwy wedi cyfaddef ymosod ar blismyn oedd wedi eu galw i atal parti mewn neuadd breswyl ym Mhrifysgol Bangor yn ystod y cyfnod clo.

Roedd Modlen Alun a Harri Williams yn y neuadd ar Ffordd Ffriddoedd ar 11 Ebrill, pan gafodd yr heddlu eu galw.

Yn Llys Ynadon Caernarfon, fe blediodd Modlen Alun, 18, o Ysbyty Ifan, yn euog i ymosod ar ddau blismon a gwrthod gadael i blismon arall wneud ei waith.

Fe wnaeth John Harri Williams, 20, o Landdoged, gyfaddef ymosod ar un plismon, gwrthod gadael i blismon arall wneud ei waith a bod yn feddw mewn man cyhoeddus.

'Allan o reolaeth'

Cafodd datganiadau swyddogion heddlu eu darllen i'r llys yn disgrifio sut roedd hyd at 15 o bobl yng nghegin un o'r fflatiau oedd yn dal wyth o breswylwyr ar Ffordd Ffriddoedd.

Fe ofynnodd y plismyn i bobl adael o dan reolau Covid, ond bu'n rhaid i swyddogion ddychwelyd ar ôl 03:00.

Bryd hynny y dechreuodd rhai wthio yn erbyn yr heddlu a gwrthod gadael.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i neuaddau ar Ffordd Ffriddoedd

Fe ddisgrifiodd un swyddog ymddygiad John Harri Williams fel "bygythiol" ac fe ddywedodd swyddog arall bod Modlen Alun yn ymddwyn "allan o reolaeth".

Wrth i'r ymrafael barhau, fe ddioddefodd yr heddlu anafiadau'n cynnwys cleisiau a chrafiadau.

Ar ran Harri Williams a Modlen Alun, dywedodd eu cyfreithiwr Gareth Parry fod y ddau yn ymddiheuro am eu hymddygiad ac wedi cymryd cyfrifoldeb llwyr y bore wedyn am yr hyn ddigwyddodd ac yn teimlo cywilydd.

Pwysleisiodd nad oedd eu hymddygiad yn adlewyrchu eu personoliaethau arferol.

Cafodd Modlen Alun ei dedfrydu i 120 o oriau o waith cymunedol a'i gorchymyn i dalu iawndal a chostau o £380.

Cafodd John Harri Williams ei ddedfrydu hefyd i 120 o oriau o waith cymunedol a'i orchymyn i dalu iawndal a chostau o £280.