Niwed i fyd natur Cymru 'allan o reolaeth' yn sgil toriadau

  • Cyhoeddwyd
bannauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r niwed i fyd natur allan o reolaeth yn sgil toriadau parhaus gan Lywodraeth Cymru, yn ôl elusen gadwraethol RSPB Cymru.

Daw'r sylwadau wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n dangos bodd diffyg gwybodaeth ar gael ar bron i hanner y rhywogaethau a'r cynefinoedd o ddiddordeb yn safleoedd gwarchodedig Cymru.

Mae'r ymchwil yn dangos hefyd, lle mae gwybodaeth yn cael ei gadw, bod tua 60% o'r meysydd hyn mewn cyflwr "anffafriol".

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n buddsoddi £12m yn ychwanegol eleni er mwyn gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig.

'Dim modd goroesi a ffynnu'

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yw'r ardaloedd pwysicaf o safbwynt treftadaeth naturiol Cymru.

Mae'r ardaloedd wedi eu gwarchod er mwyn diogelu'r ystod, yr ansawdd a'r amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol.

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong

Mae'r RSPB Cymru yn esbonio bod safleoedd yn cael eu hystyried yn anffafriol pan nad ydyn nhw'n cael eu rheoli'n effeithiol i ddiogelu eu bywyd gwyllt.

Dywedodd Katie-Jo Luxton, cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, nad oes modd i fywyd gwyllt "oroesi a ffynnu os nad yw'r safleoedd mewn cyflwr da".

"Yn dilyn toriadau cyllideb parhaus gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â chyflawni'r broses o reoli a monitro angenrheidiol ac mae'r niwed i fyd natur allan o reolaeth yn sgil hynny."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym ni'n derbyn yn llwyr fod cyfyngiadau i raddau ein tystiolaeth o gyflwr rhai o rywogaethau a nodweddion arbennig y safleoedd hyn ac rydym yn ymrwymo i fuddsoddi mewn, ac i gefnogi eraill, i wneud gwelliannau."

Mae'r corff bellach yn galw am strategaeth partneriaeth gref i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r adroddiad yn amlygu maint y dasg sydd gan bob un ohonom yng Nghymru i sicrhau bod ein safleoedd gwarchodedig yn cael eu hadfer i alluogi bywyd gwyllt i ffynnu.

"Mae'r dull cydweithredol a gynigir gan Gyfoeth Naturiol Cymru o weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys RSPB Cymru, i ddatblygu rhaglen fonitro arloesol newydd sy'n gost-effeithiol ac yn addas i'r diben yn cael ei groesawu.

"Eleni byddwn yn buddsoddi £12m yn ychwanegol i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig, ac yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu rhaglen aml-flwyddyn a fydd yn cydnabod bod gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn gofyn am system reoli a monitro parhaus."