Ffigyrau marwolaethau covid Cymru yn parhau'n isel
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig gyda Covid-19 ei chofnodi yn 18 o'r 22 sir yng Nghymru yn yr wythnos hyd 14 Mai.
Roedd dwy o'r marwolaethau mewn ysbytai yn ardal Abertawe, dwy yn sir Pen-y-bont ar Ogwr (un yn y cartref a'r llall mewn ysbyty), preswylydd mewn cartref gofal yn Rhondda Cynon Taf ac un farwolaeth yn Sir Y Fflint.
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol - yr ONS - fod pump o farwolaethau wedi eu cofnodi yn yr wythnos flaenorol ac mai'r ffigyrau cyfnod diweddar yw'r rhai isaf ers dechrau mis Medi.
Roedd marwolaethau Covid yn gysylltiedig a 0.9% o'r holl farwolaethau.
Mae hynny'n 88% yn llai na'r nifer o farwolaethau Covid gafodd eu cofnodi ddau fis yn ôl.
Mae'r ONS hefyd yn cyfri cyfartaledd marwolaethau, a'u cymharu gyda chyfartaledd dros gyfnod o bum mlynedd.
Maen nhw'n cofnodi fod yna 28 yn rhagor o farwolaethau wedi bod o'i gymharu â'r cyfartaledd dros bum mlynedd, sef (4.6%) yn uwch na'r cyfartaledd.
Ers cyfnod y pandmeig, mae yna 44,826 o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Nghymru, gyda 7,878 (17.6%) yn crybwyll Covid ar y dystysgrif farwolaeth.
Mae hynny'n 5,529 o farwolaethau yn fwy na'r cyfartaledd dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae ffigyrau wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cofnodi marwolaethau yn y cartref yn ogystal â rhai mewn ysbytai a chartrefi gofal.
Maen nhw'n cael eu gweld fel modd o roi darlun mwy llawn o'r sefyllfa o'i gymharu â ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) sydd ond yn adrodd y marwolaethau sy'n cael eu cofnodi gan fyrddau iechyd.
Mae ffigyrau ICC yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai a rhai cartrefi gofal, ac ond yn cyfrif pobl sydd wedi profi'n bositif ar gyfer Covid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021