Cyngor cyn-AS: 'Pwysig siarad â phleidiau eraill'
- Cyhoeddwyd
Wrth gynghori AS newydd dywed y cyn-AS Ceidwadol, Suzy Davies, ei bod hi'n hynod bwysig siarad ag aelodau o bob plaid yn y Senedd neu mi all rywun deimlo'n unigolyddol iawn.
Dywedodd hefyd ei bod hi'n ddoeth gwrthod rhai ceisiadau yn y tymor hir wrth i'r gwaith bentyrru.
"Ydy, mae cael dyddiadur gwag heb gyfarfodydd braidd yn rhyfedd," meddai Ms Davies yn ystod sgwrs yn rhoi cyngor i Heledd Fychan, sydd yn AS am y tro cyntaf wedi iddi ennill sedd ar ran Plaid Cymru yn rhanbarth Canol De Cymru.
Does gan Ms Davies bellach ddim sedd yn y Senedd wedi iddi golli ei lle ar frig rhestr y Ceidwadwyr ym mis Ionawr.
O ganlyniad i'r hyn ddigwyddodd dywed ei bod hi'n bwysig gweithredu adolygiad yr Arglwydd McInnes i drefniadaeth y Blaid Geidwadol yn fuan.
'Rhy rhwydd cael gwared ar bobl fel fi'
"Dwi ddim yn teimlo bod y Blaid Geidwadol wedi cefnu arnaf a doedd y penderfyniad ddim i wneud â fy sylwadau o blaid datganoli," meddai wrth siarad ar raglen Bethan Rhys Roberts.
"Mater lleol oedd yr holl beth. Roedd rhywun arall yn y rhanbarth angen swydd ac mae sedd rhanbarth Gorllewin De Cymru yn un saff."
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn rhy hawdd i gael gwared ar bobl fel fi. Mae adolygiad McInnes yn sicrhau bod trefniadaeth y blaid yn fwy effeithiol a'i bod hi'n blaid fwy modern.
"Roedd hi'n rhy hwyr gweithredu argymhellion McInnes erbyn yr etholiad yma. Mae angen moderneiddio holl system y blaid.
"Ydw dwi wedi ffeindio bod y calendr yn eitha' gwag ac nad yw'r gwaith yn galw ond dyw hynny ddim yn ddrwg i gyd gan bod work life balance wedi bod yn anodd yn ystod y degawd diwethaf. Ond eto mae'n golled sydyn o ffordd o fyw."
Ychwanegodd bod yr hyn a ddigwyddodd ym mis Ionawr wedi ei pharatoi i ddiswyddo staff - a bod hynny yn gymaint anoddach i rywun sydd ond yn cael gwybod ddiwrnod y cyfri ei fod wedi colli ei sedd.
'E-byst, staff a swyddfa'
Stori wahanol yw un Heledd Fychan, a glywodd ddydd Sadwrn wedi'r etholiad ei bod wedi'i hethol.
"Doeddwn i ddim wedi disgwyl mewn ffordd y byddwn yn cael fy ethol. Fi oedd yr aelod olaf o'r 60 i gael fy ethol. Doeddwn i ddim yn mynd i goelio'r canlyniad nes i fi weld o gyda fy llygaid fy hun," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Felly roeddwn yn gorfod ymddiswyddo yn syth bin o swydd roeddwn i yn ei charu a dechrau ar fy ngwaith fel aelod o Senedd Cymru. Mae wedi cymryd amser i fi arfer â'r realiti newydd ond mae'r cyfan yn gyffrous iawn hefyd.
"Ydy mae wedi bod yn rhyfedd - mi wnes i dyngu llw yn fy lolfa gyda fy nheulu o'm cwmpas gan nad oedd modd mynd i mewn. Mi fydda i'n cael swyddfa cyn hir a dwi'n recriwtio staff fydd yn dechrau ymhen rhyw dair wythnos.
"Wedi i fi gael cyfeiriad e-bost roedd hi'n sioc gweld bod dros ddau gant o e-byst yn fy nisgwyl i yn barod. Mae lot o bethau ymarferol ar y dechrau - fel gwybod sut i eirio a holi cwestiwn a be' i wasgu i bleidleisio. Ond mae gen i buddy sef Rhun ap Iorwerth ac mae o'n amyneddgar iawn," ychwanegodd Ms Fychan.
"Dwi'n falch bod Heledd wedi'i hethol," meddai Suzy Davies. "Mi fydd hi'n gaffaeliad wedi tymor digon anodd yn y Senedd.
"Erbyn hyn mae mwy o siarad ymhlith y pleidiau. Pan roeddwn i yn y Cynulliad gyntaf doedd merched ddim yn siarad gymaint â hynny â'i gilydd ond erbyn diwedd fy nghyfnod roedd mwyafrif o'r merched yn siarad gyda'i gilydd mewn ffordd gefnogol.
"Mewn lle mor fach mae hynny'n bwysig neu mi fyddwch yn teimlo fel unigolyn os nad ydych yn cymysgu.
"O ran dyletswyddau, dweud 'ie' falle i ddechrau ond yna dysgu dweud 'na' - does dim digon o oriau yn y dydd i wneud popeth."
O ran y dyfodol dywed Heledd Fychan ei bod yn ymwybodol o'r gwaith sydd angen ei wneud.
"O ran y Blaid fe fydd yn rhaid i ni geisio ennill mwy o seddi a hefyd sicrhau mwy o amrywiaeth o fewn Plaid Cymru ac yn y Senedd," meddai.
"Mae'n fraint cael cynrychioli Canol De Cymru ac wedi cael y tîm at ei gilydd byddaf yn ceisio sicrhau bo fi'n ymgysylltu gydag etholwyr mewn ardal eang.
"Un o'r pethau cyntaf fydda i'n ceisio ei sicrhau yw cael ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd wnaeth daro Rhondda Cynon Taf - dwi wedi bod yn galw am hyn ers Chwefror 2020."
A beth am ddyfodol Suzy Davies?
Dywed nad yw hi'n credu y bydd hi'n dychwelyd i'r Senedd ym Mae Caerdydd ond mae hi'n gobeithio ymgymryd â dyletswyddau gwleidyddol eraill fydd yn "sicrhau dyfodol da i Gymru".
"Dwi wedi cael cynnig swyddi ond ddim wedi gwneud penderfyniad eto," meddai.
Bydd y cyfweliad Bethan Rhys Roberts â Suzy Davies a Heledd Fychan i'w glywed yn llawn fore Sul rhwng 08:00 a 10:00 ar BBC Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Awst 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021