Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth creu fideo i gyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod TFfynhonnell y llun, Urdd

Fel rhan o ddigwyddiadau Eisteddfod T eleni cafodd plant a phobl ifanc Cymru'r cyfle i arddangos eu gallu golygu, gyda chystadleuaeth arbennig 'Creu fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol o dan 25 oed'

Aled Llŷr Griffiths oedd beirniad y gystadleuaeth, ac roedd o'n hapus iawn gyda safon y gwaith.

"Roedd hi'n bleser enfawr cael blas ar waith y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau o Gymru," meddai Aled. "Roedd hi'n dasg anhygoel o anodd gorfod beirniadu'r ffilmiau oedd yn cael eu harddangos yn Eisteddfod T eleni - roedd y safon yn anhygoel o greadigol, arloesol ac wrth gwrs yn uchel iawn."

1af - Emily Hornby, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Disgrifiad,

Fideo Emily Hornby sy'n trafod hawliau merched

"Yn gyntaf, cefais fy syfrdanu gan yr aeddfedrwydd a ddangoswyd, yn enwedig o ran sut roedd Emily Hornby yn adrodd y stori a sut roedd hi'n arddangos hynny'n dechnegol. Roedd y stori yn hynod gyfredol ac yn berthnasol i'r byd rydyn ni'n byw ynddo.

"Mae'n rhywbeth rydw i'n disgwyl ei weld mewn dosbarth gradd ffilm yn y drydedd flwyddyn. Bravo! Da iawn ti!"

2ail - Ethni Glwys Davies, Ysgol Gynradd Pant Pastynog

Disgrifiad,

Fideo Ethni Glwys Davies o Ysgol Gynradd Pant Pastynog

"Yn yr ail safle, o bosib un o'r ffilmiau mwyaf wholesomea welais ers amser maith. Wrth ei wylio, roeddwn i'n teimlo fel rhan o'r teulu, fe wnes i wenu o'r eiliad gyntaf i'r olaf ac ar ôl blwyddyn reit hir ac anodd, roeddwn i'n teimlo mai hon oedd yr union fath o ffilm y mae angen i ni ei gweld.

"Diolch yn fawr Ethni Glwys Davies am arddangos dy deulu hyfryd a dalier ati gyda'r gwaith da. Cyflwynydd mawr nesaf Cymraeg? Rwy'n credu hynny!"

3ydd - Owen Weeks, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Disgrifiad,

Fideo Owen Weeks, sy'n trafod hawliau bobl ddu

Yn y trydydd safle oedd fideo Owen Weeks o Ysgol Bro Morgannwg. Fe wnaeth Owen gyfuno lluniau a fideos trawiadol o'r tensiynau hil yn yr Unol Daleithiau gyda cherddoriaeth a darn llais ganddo ef ei hun.

"Fel gwneuthurwr ffilmiau gweithredol fy hun, rwyf wrth fy modd yn gweld y gwahanol syniadau a safbwyntiau yn cael eu harddangos, rwyf am weld safbwynt y gwneuthurwyr ffilm ac nid oedd y gwaith a oedd yn cael ei arddangos yn siomi."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig