Condemnio ymddygiad hiliol 'ffiaidd' ar drên i Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Rosedona Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rosedona Williams bod grŵp o bobl wedi ei sarhau a'i phoenydio wrth iddi deithio ar drên

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi condemnio ymddygiad "ffiaidd" teithwyr ar drên yng Ngheredigion wedi i ddynes ddweud ei bod hi wedi cael ei sarhau yn hiliol.

Dywedodd Rosedona Williams ei bod hi'n teithio rhwng Borth ac Aberystwyth pan gafodd hi ei "sarhau a'i phoenydio" gan grŵp o ddynion a merched.

Fe ffilmiodd hi ychydig o'r digwyddiad a'i gyhoeddi ar Facebook, gan ddweud bod y grŵp wedi cyfeirio ati hi ac eraill o dras ethnig lleiafrifol fel "cŵn", a gwneud saliwtiau Natsïaidd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru nad ydyn nhw'n "goddef unrhyw fath o droseddau casineb ar ein gwasanaeth".

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain bellach yn ymchwilio.

'Creaduriaid ffiaidd'

Wrth ddisgrifio'r digwyddiad, dywedodd Ms Williams mai dyma oedd yr ail waith mewn chwe mlynedd o fyw yn Aberystwyth iddi gael ei sarhau yn hiliol.

"I ddechrau fe wnaeth un dyn gyfeirio ata i fel 'y ci mawr du yn fan'na' wrth ei ffrindiau, a phwyntio a chwerthin wrth iddo eistedd," meddai.

"Yna dechreuodd y sarhau hiliol, gan weiddi 'mae 'na gi ar y trên', gyda'i ffrindiau yn ymuno mewn."

Disgrifiad,

Yr ymgyrchydd Melanie Owen sy'n ymateb i fideo o ymosodiad hiliol honedig yn Ngheredigion.

Dywedodd bod y grŵp wedi parhau i weiddi am "gŵn ar y trên" gan gyfeirio ati hi, person du arall, a thri pherson o dras Asiaidd oedd hefyd yn y cerbyd.

Fe wnaethon nhw barhau i ddweud "pethau sarhaus eraill", meddai, yn ogystal â chodi saliwtiau Natsïaidd.

"Pwy yw'r creaduriaid ffiaidd yma? Dewch o hyd iddyn nhw a rhowch wybod amdanyn nhw," meddai.

"Allai ddim hyd yn oed ddychmygu pa mor aml maen nhw'n gwneud hyn. Dylen nhw gael eu gwahardd o drafnidiaeth gyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ffilmiwyd y digwyddiad ar drên oedd yn teithio rhwng Machynlleth ac Aberystwyth

Ymchwiliad heddlu

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'n annog unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu gyda'r heddlu, er mwyn atal troseddau o'r fath rhag digwydd eto.

"Rydym ni'n condemnio'r ymddygiad ffiaidd yma yn llwyr, ac yn trin yr adroddiad yma o ddifrif," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn falch o wasanaethau "amrywiaeth o gwsmeriaid" ac nad ydyn nhw'n "goddef unrhyw fath o droseddau casineb ar ein gwasanaeth".

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Rydym yn ymchwilio i adroddiad o ddigwyddiad hiliol ddydd Sul 30 Mai ar drên rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

"Mae ymholiadau'n parhau a dylai unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad gysylltu gyda ni wrth decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gyda'r cyfeirnod 629 o 30/05/21."