Cyn-gyfarwyddwr Castell Aberteifi yn osgoi cyfnod o garchar

  • Cyhoeddwyd
Gwrthododd Davies wneud sylw wrth iddo adael Llys y Goron Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Gwrthododd Jac Davies wneud sylw wrth iddo adael Llys y Goron Abertawe ddydd Iau

Mae cyn-gyfarwyddwr Castell Aberteifi wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau o dwyll a lladrad.

Cafodd Jac Davies, 34, ei ddedfrydu i 21 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, ar ôl i tua £43,000 fynd ar goll o goffrau'r elusen dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cafodd ei ddisgrifio gan y Barnwr Paul Thomas QC fel "dyn cwbl anonest" sydd â'i enw da "yn deilchion", ond roedd wedi dangos "edifeirwch".

Dywedodd y barnwr fod Davies wedi dweud "ar fywyd ei ferch" wrth yr heddlu nad oedd wedi cymryd yr arian dros gyfnod o ddwy flynedd, er bod ei ferch yn yr ysbyty ar y pryd, gweithred a ddisgrifiodd y barnwr fel un "dirmygus".

Roedd Davies eisoes wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o ddwyn a dau gyhuddiad o dwyll trwy gynrychiolaeth ffug.

£29,000 ar gerdyn credyd y castell

Roedd y drosedd gyntaf yn ymwneud â hawlio am gwrs lletygarwch ar-lein ym mis Rhagfyr 2017 - digwyddiad na fynychodd.

Defnyddiodd dderbynebau twyllodrus i ddangos ei fod wedi gwario dros £4,000 o'i arian ei hun i dalu am yr hyfforddiant.

Fe wnaeth Davies hefyd ddwyn dros £6,000 rhwng Hydref 2018 a Mai 2019, trwy gysylltu ei gyfrif PayPal ei hun â siop ar-lein y Castell.

Cafodd arian ei ddwyn hefyd a ddylai fod wedi cael ei fancio gan Jac Davies.

Ffynhonnell y llun, Castell Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jac Owen Davies ei benodi i'r swydd ym mis Medi 2017, ond fe adawodd ddwy flynedd wedyn

Defnyddiodd Davies gerdyn credyd y castell hefyd ar gyfer dibenion personol mewn llefydd fel Prime Video, Tesco, y Celtic Manor ac iTunes.

Wrth gael ei holi ynglŷn â hyn ym mis Rhagfyr 2019, dywedodd fod ei gerdyn credyd ei hun rywsut wedi uno â chyfrif busnes y castell.

Parhaodd i ddefnyddio'r cerdyn hefyd ar ôl dweud wrth yr ymddiriedolwyr ei fod wedi'i ddinistrio.

Casglwyd bron i £29,000 ar gerdyn credyd y castell trwy ei drafodion personol ei hun.

Rhybuddiodd Paul Thomas QC y byddai'n cael ei anfon i'r carchar pe bai'n cyflawni troseddau pellach.

Bydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal i benderfynu ar yr union swm y bydd disgwyl i Davies ei dalu'n ôl.

Clywodd y llys ei fod eisoes wedi talu £40,000 yn ôl i'w gyfreithwyr.

Gorchmynnwyd iddo hefyd gwblhau 200 awr o waith di-dâl gwirfoddol a 15 diwrnod o weithgaredd adsefydlu.