Euro 2020: Cefnogi Cymru neu'r Swistir?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cymru neu'r Swistir? Dilema teulu Ruben o Gaernarfon!

Bydd Pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau'r penwythnos yma gyda Chymru'n wynebu'r Swistir yn Baku, ond mae un bachgen o Gymru yn wynebu penderfyniad anodd am ba dîm i'w gefnogi.

Mae gan Ruben Schlegel Evans, 12, o Gaernarfon fam o'r Swistir a thad o Gymru, ac mae'n aelod o Gymdeithas Cymru Swistir.

Fel arfer, byddai ei fam yn cefnogi'r Swistir a'i dad yn cefnogi Cymru. Ond yn groes i'r disgwyl, ni fydd rhieni Ruben yn cefnogi eu timau arferol y penwythnos hwn.

"Mae hi'n mynd i fod yn wahanol yn tŷ ni oherwydd mae Dad am fod yn cefnogi'r Swistir ac mae o'n dod o Gymru, ac mae Mam yn dod o'r Swistir ac am gefnogi Cymru," meddai.

Ond bydd Ruben yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru oherwydd bod gan y tîm "players gwell na'r Swistir".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruben yn tybio y bydd Cymru'n ennill 3-1 ddydd Sadwrn yn erbyn y Swistir

Mae Ruben felly yn gobeithio y bydd Cymru yn ennill ddydd Sadwrn, ond mae'n cydnabod bod gan dîm y Swistir chwaraewyr da hefyd.

"Players gora'r Swistir ydy Xherdan Shaqiri a Yann Sommer. Mae Shaqiri yn chwarae i Lerpwl ac mae Sommer yn chwarae i Mönchengladbach," meddai.

"Mi fydd Cymru yn chwarae gêm ymosodol oherwydd mae gan y Swistir defence decent.

"'Da ni angen tri o bwyntiau i fod o flaen Yr Eidal a dwi'n meddwl fydd hynna yn bwysig iddyn nhw guro'r Swistir."

Mae Cymru a'r Swistir wedi chwarae yn erbyn ei gilydd saith gwaith yn y gorffennol, gyda phum buddugoliaeth i'r Swistir a dwy i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ruben gyda'i fam Beatrice yn siarad Almaeneg yn eu gardd yng Nghaernarfon

Y tro diwethaf i Gymru wynebu'r Swistir oedd yn Hydref 2011 yn Abertawe. Cymru oedd yn fuddugol y diwrnod hwnnw o 2-0, gyda goliau i Gareth Bale ac Aaron Ramsey.

Ond yn ôl y bwcis, Y Swistir yw'r ffefrynnau i ennill y gêm yma. Ar hyn o bryd mae'r tîm yn y 13eg safle yn rhestr detholion y byd FIFA - pedwar safle'n uwch na Chymru.

Bydd Ruben yn gwisgo'i grys Cymru gyda balchder ddydd Sadwrn ac yn gwylio'r gêm gyda'i ffrind.

Mae'n tybio y bydd Cymru yn ennill o 3-1.