Cynlluniau i ailagor Theatr Ardudwy ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd
Theatr Ardudwy
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r theatr gau ei drysau yn 2016 yn sgil pryderon am ddiogelwch strwythurol yr adeiladau

Bron i hanner canrif ers iddi gael ei hadeiladu, mae 'na gynlluniau i ailagor Theatr Ardudwy yn Harlech yn ddiweddarach eleni.

Bu'n rhaid i'r theatr, yn ogystal â Choleg Harlech, gau eu drysau yn 2016 yn sgil pryderon am ddiogelwch strwythurol yr adeiladau.

Wedi hynny fe wnaeth y safle ailagor am gyfnod cyn cau unwaith eto.

Ond bellach mae perchennog newydd ar yr adeilad ac fe fydd cwmni cynhyrchu newydd yn gyfrifol am redeg y theatr.

Yn ei anterth roedd llu o gynyrchiadau yn cael eu llwyfannu yno, a'r gobaith ydy mai dyna fydd yr achos eto yn y dyfodol agos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni cynhyrchu KMD Productions ltd yn rhagweld y bydd yn cymryd £500,000 i adnewyddu'r adeilad

Yn ôl Kallum O'Sullivan o gwmni cynhyrchu KMD Productions Ltd maen nhw, yn ogystal â'u chwaer gwmni Ignite Live UK, yn gobeithio y bydd y gwaith atgyweirio yn dechrau ar 20 Mehefin.

"Mi fydd yn costio £500,000 er mwyn cwblhau'r gwaith," meddai.

Gobaith Mr O'Sullivan ydy gallu ariannu hynny rhwng ei gwmni a chronfeydd amrywiol.

'Theatr broffesiynol'

Mae Mr O'Sullivan yn pwysleisio y bydd y theatr yn cynnig gwledd i gynulleidfaoedd unwaith yn rhagor o fis Awst ymlaen.

"Mi fyddwn yn llwyfannu sioeau cerdd a dramâu o safon broffesiynol. Nid theatr gymunedol fydd Theatr Ardudwy bellach, ond theatr broffesiynol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Coleg Harlech ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau ac fel swyddfeydd yn yr hydref

Ychwanegodd na fydd Coleg Harlech, sydd hefyd dan berchnogaeth y cwmni, yn dychwelyd fel sefydliad addysgol llawn amser, ond fe fydd yr adeilad yn barod i'w ddefnyddio erbyn mis Hydref.

"Mi fydd wedi ei seilio ar y celfyddydau perfformio a'r celfyddydau yn gyffredinol," meddai Mr O'Sullivan.

"Mi fydd yn cynnig gofod swyddfa i fusnesau lleol, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu lleol.

"Mae 'na ddwy ddarlithfa enfawr fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer pob math o ddigwyddiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas ei bod yn "bwysig bod y prosiect yma'n llwyddo y tro hyn"

Yn ôl deilydd portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Thomas, bydd yr adeiladau yn ganolfannau pwysig i'r gymuned.

"Ar hyn o bryd mae pobl yr ardal yn gorfod teithio ymhell i gael mwynhau adnodd fel hyn," meddai.

"Ond mae'n bwysig bod y prosiect yma'n llwyddo y tro hyn.

"Mae cael canolfan gelfyddydol yn yr ardal yn bwysig a dwi'n mawr obeithio y bydd yn llwyddo'n ariannol.

"Rydyn ni'n cefnogi'r cwmni yn eu menter newydd ac rydym fel cyngor yn barod i'w cefnogi nhw."

Pynciau cysylltiedig