Gerald Williams, nai'r bardd Hedd Wyn, wedi marw yn 92 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Gerald Williams MBE, nai'r bardd Hedd Wyn, wedi marw yn 92 oed.
Roedd wedi gweithio'n ddiflino i gadw'r cof am ei ewythr yn fyw ac yn 2018 derbyniodd Wobr Arbennig y prif weinidog am ei waith gwirfoddol.
Bu farw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1917, lle dyfarnwyd y Gadair Ddu iddo am ei gerdd Yr Arwr.
Mae'r gadair honno yn cael ei chadw yn ffermdy'r teulu, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd sydd wedi'i chadw gan deulu'r bardd.
Gerald Williams oedd ceidwad Yr Ysgwrn, gan groesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a brynodd y fferm, "na fydd ymweliad â'r Ysgwrn yr un fath eto".
Cafodd fferm Yr Ysgwrn ei phrynu a'i diogelu i'r genedl yn 2012 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd ei hailagor fel canolfan dreftadaeth yn 2017 wedi gwaith adnewyddu sylweddol.
Dan ofal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r Ysgwrn bellach yn gofeb i'w mab enwog ac i'r genhedlaeth gyfan a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae stori Hedd Wyn bellach yn cynrychioli holl fechgyn Cymru gafodd eu lladd, meddai Gerald Williams wrth Cymru Fyw yn 2017.
'Hoffus, croesawgar, craff ac unigryw'
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Gyda thristwch mawr y derbyniom y newyddion am farwolaeth Gerald Williams, Yr Ysgwrn.
"Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, estynnaf ein cydymdeimlad dwys gyda'i wraig Elsa, ei chwaer Malo a'r teulu cyfan yn eu profedigaeth.
"Roedd Gerald yn gymeriad hoffus, croesawgar, craff ac unigryw, a gyffyrddodd galonnau llawer, ac a ddaeth fel teulu estynedig i sawl aelod o staff. Ni fydd ymweliad â'r Ysgwrn yr un fath eto, a bydd y golled i'w theimlo yn fawr.
"Roedd yn anrhydedd bod Gerald wedi ymddiried ynom fel Awdurdod trwy drosglwyddo'r Ysgwrn i'n gofal er mwyn sicrhau bod yr addewid a wnaeth i'w nain i 'gadw'r drws yn agored' yn parhau i gael ei anrhydeddu, a bod Yr Ysgwrn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012