Cymru v Y Swistir: Pwy sydd yn XI y cefnogwyr?

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma fe ofynnodd Cymru Fyw i chi'r darllenwyr ddewis y XI delfrydol i gychwyn dros Gymru yn erbyn Y Swistir.

Diolch i'r cannoedd ohonoch chi wnaeth gymryd rhan.

Felly, dyma oedd eich dewisiadau...

Yn ôl yr ystadegau gafodd Cymru Fyw fe gafodd Gareth Bale ei ddewis ym MHOB TÎM oedd y cefnogwyr wedi ei ddewis.

Y ddau oedd yn gyfartal ail oedd Ben Davies ac Aaron Ramsey, a oedd ym mhob un o'r timau heblaw pump.

Dewis y cefnogwyr oedd chwarae gydag asgwrn cefn y tîm o Euro 2016; Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey a Gareth Bale. Ond gyda newid ar bob ben i'r cae - yn y gôl ac yn arwain yr ymosod.

Fe bleidleisiodd 60.73% o gefnogwyr dros gael Danny Ward yn gôl, dewisiodd 38.81% Wayne Hennessey, gyda 0.46% yn dewis Adam Davies. Yn wir, Wayne Hennessey oedd y 12fed chwaraewr mwyaf poblogaidd, ond Ward oedd yn ennill y bleidlais am y crys rhif 1.

Roedd 82.72% o gefnogwyr eisiau gweld Kieffer Moore yn dechrau yn y llinell flaen, gyda ond 5.98% yn pleidleisio dros Tyler Roberts.

Ben Cabango a Chris Mepham yw'r amddiffynwyr mwyaf poblogaidd sydd ddim yn y XI cychwynnol, ac mae'r cefnogwyr i'w weld digon hapus gyda David Brooks a Harry Wilson ar y fainc.

Disgrifiad,

11 Owain Fôn Williams yn erbyn Y Swistir

Dyma oedd dewisiadau'r cyn-chwaraewr pêl-droed a'r prif sgoriwr yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru, Marc 'jiws' Lloyd Williams:

Dyma pwy oedd gan y canwr a chylflwynydd y Wal Goch, Ywain Gwynedd, yn ei dîm:

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ywain Gwynedd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ywain Gwynedd

Hefyd o ddiddordeb: