Y dyn o Abertawe sy'n rhoi llwyfan i artist dadleuol o Rwsia

  • Cyhoeddwyd
rwsia

Yng Nghymru mae gan artistiaid yr hawl, ar y cyfan, i ymdrin ag unrhyw themâu a thestunau wrth greu celf. Ond dydi hynny ddim yn wir i artistiaid ym mhob gwlad.

Fe wnaeth hanes un artist yn Rwsia, Victoria Lomasko, ddal sylw cyfarwyddwr ffilm o Gymru, Geraint Rhys. Fe benderfynodd Geraint deithio i Rwsia a dechrau prosiect i ffilmio sut oedd yr awdurdodau yn y wlad yn trin Lomasko.

Gohebydd arbennig BBC Radio Cymru, Garry Owen, fu'n dilyn y stori.

Doedd creu ffilm am yr artist Rwsiaidd dadleuol Victoria Lomasko ddim yn broses hawdd i'r cyfarwyddwr ffilm a cherddor o Abertawe, Geraint Rhys. Roedd e'n gweithio ar ei liwt ei hun, heb unrhyw gyllideb.

Fe wnaeth gwrdd â hi mewn arddangosfa ym Manceinion a darllen ei llyfr mwya' adnabyddus, Other Russians. Fe gafodd ei gwaith gymaint o ddylanwad arno nes iddo gysylltu â hi'n uniongyrchol a gofyn os oedd hi awydd gweithio gydag e ar brosiect yn ymwneud â cherddoriaeth.

Ymhen blwyddyn fe wnaeth awgrymu y bydde fe'n hoffi mynd mas i gwrdd â hi yn Rwsia i wneud ffilm am ei bywyd, ac fe wnaeth hi gytuno.

Ffynhonnell y llun, Geraint rhys
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Rhys, cyfarwyddwr ffilm a cherddor

Teithiodd yno yn 2019, a dechrau ar y gwaith o greu y ffilm.

"Nes i ddim dweud wrth unrhyw un bo' fi'n gweithio yno achos pan es i Rwsia yn haf 2019 roedd llawer o brotestio'n digwydd ar y strydoedd yn erbyn llywodraeth leol ym Moscow, ac hefyd Putin," meddai.

"Es i ddim yno'n swyddogol i weithio ar raglen ddogfen. Es i yno i weld ffrindie. Nes i gysgu ar soffa ffrind am bythefnos a ffilmio'r ffilm yn y dirgel. Os bydden i 'di mynd yno a dweud bo' fi ishe gwneud dogfen am Victoria bydden i ddim wedi cael caniatâd mae'n debyg."

Dywedodd iddo fod mewn un brotest oedd "yn eitha' brawychus oherwydd y trais nes i weld. Felly roedd rhaid i mi fod yn ofalus sut o'n i'n ffilmio a phryd i ffilmio a phryd i beidio ffilmio."

Ffynhonnell y llun, Tanya Armina
Disgrifiad o’r llun,

Victoria Lomasko, yr artist sydd yn destun ffilm Geraint Rhys

Mae Geraint yn esbonio bod gwaith Lomasko "ddim i'w weld yn ei gwlad ei hun am fod y themâu yn rhy wleidyddol. Ond, y gwir yw eu bod nhw jyst yn edrych ar fywyd bob dydd yn Rwsia."

Er bod ei gwaith hi'n cael ei ddangos dros y byd mewn orielau yn Efrog Newydd, Llundain a Basle yn y Swistir, a'i phoblogrwydd fel artist yn cynyddu, dyw orielau yn Rwsia ddim yn barod i ddangos ei lluniau.

Mae Lomasko yn cael ei disgrifio fel un o artistiaid mwya' cyffrous a dadleuol Rwsia. Yn 2017 fe gafodd hi gydnabyddiaeth rhyngwladol am ei llyfr Other Russians a oedd yn darlunio bywydau pobl gyffredin yn ystod cyfnod Putin.

Ffynhonnell y llun, Victoria Lomasko
Disgrifiad o’r llun,

Other Russians, llyfr ddaeth â Victoria Lomasko i enwogrwydd

Mae'r llyfr wedi ei gyfieithu i chwech o ieithoedd gwahanol, ond "dyw e ddim wedi ei argraffu yn Rwsia, oherwydd y themâu".

Fe fydd hi'n gweithio mewn dull graffeg a murluniau ac mae ei lluniau yn delio a themâu cymhleth: "Mae hi'n darlunio gweithwyr rhyw, neu bobl sy'n protestio am gwell amodau gweithio" meddai Geraint Rhys.

"Pethe ry'n ni'n cymryd yn ganiataol i'w trafod yn ein gwlad ni, ond yn Rwsia maen nhw'n cael eu gweld fel themâu gwleidyddol."

Ffynhonnell y llun, Victoria Lomasko
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o waith Victoria Lomasko

Dyw Ms Lomasko ddim yn disgrifio ei hun fel artist gwleidyddol yn ôl Geraint; "mae'r themâu a'r pynciau ma' hi'n edrych arno'n adlewyrchu bywyd bob dydd yn Rwsia heddi', ac yn dangos pethe dyw'r Gorllewin ddim yn gweld fel arfer."

Roedd hi'n un o groniclwyr cynnar datblygiad y band pync ffeministaidd Pussy Riot ac fe fuodd hi'n dilyn yr achos llys yn 2012 ar ôl i'r band gael eu harestio a'u carcharu am brotestio yn erbyn Vladimir Putin. Bu Lomasko yn dangos delweddau o'r hyn oedd yn digwydd yn y gwrandawiad.

Ffynhonnell y llun, Geraint rhys

Fe gafodd yr achos sylw byd eang.

"Pan wnaeth y band wedyn fynd ar daith ym Mhrydain ac America," meddai Mr Rhys, "wnaethon nhw ddefnyddio ei lluniau a'i delweddau hi yn y gigiau a pherfformiadau."

Gobaith y cyfarwyddwr o Abertawe yw y bydd ei ffilm, The Last Soviet Artist, yn sicrhau ymateb a bydd "pobl yn deall stori Victoria a sut mae artistiaid dan amodau fel sy' yn Rwsia yn gallu cyfathrebu â'r byd drwy gelf."

Hefyd o ddiddordeb: