Cofio Gerald Williams, nai Hedd Wyn a cheidwad Yr Ysgwrn
- Cyhoeddwyd
Ers i'r newyddion am farwolaeth Gerald Williams, nai Hedd Wyn, ddwyn sylw'r genedl Ddydd Gwener 11 Mehefin, Cymru Fyw sydd wedi bod yn casglu atgofion ohono a thyrchu'r archif am hanes gŵr a roddodd ei oes i ddweud stori ei deulu, a darn pwysig o hanes Cymru.
Gerald
Ganwyd Gerald yn ffermdy'r Ysgwrn, Trawsfynydd a bu'n byw yno am flwyddyn cyn symud gyda'i rieni i dŷ i lawr y rhiw o'r Ysgwrn. Yn dilyn marwolaeth ei fam pan oedd yn dair blwydd oed anfonwyd Gerald a'i frawd, Ellis, yn ôl i'r Ysgwrn. Yno y cawsant eu magu gan eu nain, Mary Evans, sef mam Hedd Wyn.
'Cadw'r drws yn 'gorad - mi wna i hynny tra bydda i yn byw yndê.'
Roedd cadw drws Yr Ysgwrn yn agored i ymwelwyr weld Y Gadair Ddu yn ddymuniad i nain Gerald fyth ers marwolaeth ei mab ar faes y gad ym Mrwydr Passchendaele yn 1917. Meddai Gerald am ddymuniad ei nain: "Roedd Nain bob amser yn dweud doeddan ni ddim i gloi drws rhag ofn i'r hogia ddod adra. Ro'n i wedi'n magu yn sŵn y petha 'ma.
"Dymuniad yr hen wraig oedd i gadw'r drws yn 'gorad a mi wna i hynny tra bydda i yn byw yndê," meddai Gerald yn y ddogfen radio Straeon Bob Lliw: Yr Ysgwrn a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn 2011.
Croesawu ymwelwyr i'r Ysgwrn
Pedair ar ddeg oedd Gerald pan adawodd yr ysgol i amaethu tiroedd Yr Ysgwrn gyda brodyr Hedd Wyn sef Ifan a Bob. Ond nid dyna oedd yr unig waith, roedd rhaid i bawb o'r teulu wneud eu rhan yn cyfarch yr ymwelwyr hefyd.
Meddai Gerald: "Dyna dwi'n ei gofio erioed, pobl ddiarth yn dod yma. Mi roedd yn dibynnu yn union pwy oedd ar gael i gyfarch. Fi a Ifan oedd yn gwneud y rhan fwya' tra roedd Bob ac Ellis allan yn gweithio.
"Dwi wedi trio cadw'r hen dŷ yn union fath'ag oedd o. Dewch a rhywun i'r tŷ 'ma a mae o fel sgubor, rhowch chi dân yma a mae o'n dweud croeso. Mae o'n newid y tŷ altogether," dywedodd nôl yn 2011, cyn prynwyd yr Ysgwrn a'i diogelu i'r genedl yn 2012 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Atgofion o Gerald
"Mae colli Gerald, un o gymeriadau a thrysorau'r ardal yn golled enfawr i fro Trawsfynydd," yn ól yr hanesydd lleol Keith O'Brien, un oedd yn adnabod Gerald ers blynyddoedd lawer.
"Mae'n anodd cofio amser pan nad oedd Gerald o gwmpas a dweud y gwir. Y cof plentyn cyntaf sydd gennyf ohono yw ei ymweliadau i siop fy nain ym mhentref Trawsfynydd, dod i nôl manion fel bara, menyn, jam ac ati - o hyd efo gwên ar ei wyneb, yn barod ei sgwrs a phersonoliaeth hawddgar amlwg ganddo.
"Fel aeth y blynyddoedd heibio bu i mi ddod i'w adnabod yn well. Bu'n gymorth mawr i'r Cyngor Cymuned wrth ddatblygu Llys Ednowain, Canolfan Treftadaeth y pentref ac roeddwn yn hynod o falch pan bu iddo dderbyn y gwahoddiad gennyf, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Is-bwyllgor gwelliannau y Cyngor, i agor yr adeilad yn swyddogol yn Ebrill 2004.
"Bu i mi gael fy nghyffwrdd yn arw gan ei eiriau ar ryfel a cholli bywyd. Geiriau syml, 'pam ac i be'?' ond yn dweud llawer mewn ychydig eiriau.
"Bu i eraill ofyn wrtho os oedd o wedi bod yn gweld bedd Hedd Wyn. A'i ateb oedd, 'naddo', a'r rheswm ydoedd bod ganddo bictiwr yn ei feddwl o'r bedd ac nad oedd isio chwalu'r ddelwedd honno."
Un arall sy'n cofio amdano yw Lieven Dehandschutter sy'n byw yn Fflandrys, Gwlad Belg. Ar faes y gad yn Fflandrys y lladdwyd Hedd Wyn a'i gladdu yno ym mynwent Artillery Wood.
Meddai Lieven, maer dinas Sint-Niklaas yn Fflandrys a threfnydd seremonïau coffa i Hedd Wyn ar ôl ymddiddori yn yr hanes: "Mi wnes i gyfarfod dau nai Hedd Wyn sef Gerald ac Ellis, a hefyd Enid sef chwaer fach Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn yn 1990. Wnes i gyfarfod Gerald droeon ar ôl hynny.
"Roedd yn gwybod popeth am hanes Yr Ysgwrn a Hedd Wyn, ac yn siarad yn ddiddiwedd am y stori. Roedd yn gymeriad lliwgar ac unigryw iawn.
"Pan es i i'r Ysgwrn am y tro cyntaf, pobl o Wynedd a Chymry Cymraeg oedd yn mynd yno gan amlaf. Gofynnais i Gerald a oedd llyfr ymwelwyr i mi arwyddo ac ateb Gerald oedd 'nag oes'. Fe wnes i brynu llyfr ymwelwyr i Gerald ac Ellis a mae dal yno dwi'n credu.
"Roedd yn syndod i mi ei weld ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019 gyda'i wraig Elsa gan fod Gerald yn sticio at aros gartref yn Traws ac ar y fferm. Dyna oedd eu cartref. Bydd dyfodol Yr Ysgwrn yn wag heb Gerald yn anffodus."
'Mi oedd gwerthu'r Ysgwrn yn weithred ddoeth iawn ar ei ran a thrwy wneud hynny mae'r lle wedi'i ddiogelu.'
Nôl yn 2010, â'r Ysgwrn yn parhau dan ofal Gerald, codwyd cwestiynau am ddyfodol y ffermdy, cwestiwn a oedd yn benbleth iddo. Meddai: "Dyna ydi 'mhroblem i - be' dwi am neud efo'r hen le 'ma ar fy ôl i."
Aeth Alun Ffred Jones oedd yn Weinidog Treftadaeth ar y pryd i weld Gerald yn answyddogol yn 2010 ar ôl clywed ei bryderon am ddyfodol a chyflwr Yr Ysgwrn.
"Y ffaith amdani oedd, roedd achub yr Ysgwrn yn nwylo Gerald, felly es i i'w weld o yn Yr Ysgwrn a chael sgwrs reit faith efo fo o flaen y tân i weld be' oedd o isio ei 'neud. Roedd yn amlwg i mi fod ganddo feddwl uchel o'r Parc Cenedlaethol am roi cymorth iddo i ledu'r lôn i'r ffermdy, ond fel llawer o ffermwyr doedd o ddim am ddweud llawer wrth neb am be' oedd o isio.
"Roedd o angen abwyd i werthu'r fferm, a'r abwyd oedd ei berthynas efo Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Roedd yna arian loteri i gofio'r Rhyfel Mawr ar gael felly rhoddodd ddwy o'r gwasanaeth sifil sef Marlyn Lewis o Cadw a Linda Tomos o Cynnal gynllun at ei gilydd. Mabwysiadwyd y cynllun hwnnw gan y Parc Cenedlaethol i brynu a diogelu'r Ysgwrn.
"Mi roedd Gerald yn ddyn diddorol iawn ond yn ddyn penderfynol iawn neu fasa ddim wedi cadw'r drws ar agor yn ddi-dâl am yr holl flynyddoedd. Mae o'n ddipyn o arwr am wneud hynny. Mi roedd gwerthu'r Ysgwrn yn weithred ddoeth iawn ar ei ran, a thrwy wneud hynny mae'r lle wedi'i ddiogelu."
'Ein gwaith ni rŵan fydd cadw'r ysbryd i fynd'
Ail agorwyd Yr Ysgwrn fel canolfan dreftadaeth yn 2017 wedi gwaith adnewyddu sylweddol "ond doedd Gerald fyth yn bell o'r un penderfyniad, a pharhaodd yn ran allweddol o'r Ysgwrn ers ei werthu i Awdurdod Parc Cernedlaethol Eryri hyd at ei ddiwrnod olaf," meddai Naomi Jones, sy'n Bennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol gyda'r parc.
Roedd Naomi yn hen gyfarwydd â gweld Gerald yn tywys ymwelwyr o amgylch parlwr yr Ysgwrn lle safai cadeiriau eisteddfodol Hedd Wyn, a chadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 neu 'y Gadair Ddu' - y gadair na chafodd Hedd Wyn ei gweld.
Meddai Naomi amdano: "Roedd gan Gerald allu rhyfeddol i gyfathrebu efo pobl o bob oed ac o bob cefndir. Ro'n i wastad yn rhyfeddu at y ffordd arbennig oedd ganddo efo pobl ifanc, a'r ffordd roedd o'n cyfleu hanes bywyd Hedd Wyn iddyn nhw. Ond roedd pobl yn ymateb i Gerald ei hun fel personoliaeth yn ddiffael hefyd, nid jest i stori Hedd Wyn.
"Os oedd pobl ifanc yn cyrraedd Yr Ysgwrn yn meddwl eu bod nhw am gael diwrnod diflas, mi roedden nhw'n gadael yn meddwl 'waw' - mae'r lle yma mor bwysig i'w stori a'u diwylliant nhw oherwydd y ffordd roedd Gerald wedi cyflwyno'r hanes.
"Ein gwaith ni rŵan fydd cadw'r ysbryd i fynd fel roedd Gerald a'i deulu yn ei 'neud a chadw'r drws yn agored."
Cyflwyno un o straeon mawr Cymru i genedlaethau o blant a phobl ifanc
Mae Helen Greenwood, fu'n swyddog datblygu'r Urdd yn rhanbarth Gwent, hefyd yn dyst i ddylanwad Gerald ar bobl ifanc.
Meddai Helen: "Fel swyddog datblygu'r Urdd yn rhanbarth Gwent bues i'n mynd â chriwiau o ddisgyblion ysgolion chweched dosbarth oedd yn astudio'r Gymraeg fel Lefel A ail iaith i ogledd Cymru am bedwar diwrnod yn flynyddol am dros 20 mlynedd. Un o uchafbwyntiau'r daith oedd ymweld â'r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Roedd y disgyblion wastad yn dweud cymaint o argraff roedd hanes Hedd Wyn a'r Gadair Ddu yn cael arnynt.
"Roedd Gerald yno'n flynyddol i'n croesawu i'w gartref, i ddangos holl gadeiriau eisteddfodol Hedd Wyn i ni, yn enwedig y Gadair Ddu, gan sôn am fywyd ar fferm fynyddig hefyd. Roedd Gerald yn gymeriad hoffus, yn angerddol am bopeth yn ymwneud â'r Ysgwrn a Thrawsfynydd ac roedd yn fraint cael dod i'w adnabod dros y blynyddoedd."
Y llynedd ysgrifennodd Cynwal ap Myrddin, myfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ddarn am ei atgofion yn ymweld â'r Ysgwrn pan oedd ym mlwyddyn chwech Ysgol Gynradd Pentreuchaf i nodi'r diwrnod Plant Mewn Amgueddfa. Mae Cynwal yn crynhoi'r argraff gafodd Gerald a'r trip i'r Ysgwrn arno yntau fel plentyn:
"Rhywbeth oedd Gerald yn ei bwysleisio i ni oedd mai nid Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, yn unig oeddem yn ei gofio wrth ymweld â'r Ysgwrn ond pob unigolyn a fu farw yn y rhyfel, y deg ar hugain o fechgyn Trawsfynydd a fu farw, hen farddoniaeth Gymraeg, hen ffordd o ffermio a holl aelodau o deulu'r Evans.
"Ar ddiwedd y p'nawn, fe ffarweliodd Gerald â ni yn yr un modd a croesawodd ni, gyda gwên fawr ar ei wyneb a'i ffon uwch ei ben. Wrth ail fyw'r profiad gwyddwn pa mor falch oedd Gerald o gael trosglwyddo hanes ei deulu i'r genhedlaeth nesaf, a diolch iddo am wneud hynny gan mai o'r diwrnod hwnnw ymlaen y dechreuodd fy niddordeb i yn hanes Yr Ysgwrn."