Hwb ariannol sylweddol i adfer Tŵr Marcwis ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Yr olygfa o ben Tŵr MarcwisFfynhonnell y llun, Anglesey Column Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tŵr Marcwis wedi bod ar gau i ymwelwyr ers 2014 oherwydd rhesymau diogelwch

Mae cynlluniau uchelgeisiol i adfer Tŵr Marcwis a thrawsnewid y safle o'i gwmpas, wedi dod gam yn nes diolch i grant sylweddol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'r gofgolofn yn Llanfairpwllgwyngyll yn un o nodweddion amlycaf yr ardal, ac roedd yn atyniad ymwelwyr poblogaidd yn ei ddydd.

Ond ers 2014 mae'r tŵr wedi bod ar gau am resymau diogelwch.

Lansiwyd ymgyrch gan yr Anglesey Column Trust i godi £1.4m ar gyfer adnewyddu'r golofn a thrawsnewid y safle, ac mae'r grant o £872,800 o Gronfa'r Loteri yn gam mawr ymlaen.

Angen codi mwy o arian

Ond bydd angen codi tua £580,000 yn ychwanegol er mwyn cyrraedd y nod.

Mae'r grŵp wedi derbyn addewidion o tua £320,000 o'r ffigwr hwnnw, sy'n gadael dros £250,000 eto i'w gasglu.

Mae hen fwthyn gofalwr y tŵr yn rhan o'r safle, ac mae'r cynlluniau'n cynnwys troi'r adeilad hwnnw yn fan croeso, ynghyd â lle ar gyfer ymweliadau gan ysgolion, ac adnoddau dehongli yn adrodd hanes y Marcwis cyntaf, a'r gwaith o godi'r tŵr.

Ffynhonnell y llun, Anglesey Column Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae platfform gwylio newydd yn rhan o'r cynlluniau

Mae'n fwriad hefyd i godi platfform gwylio newydd a hwyluso mynediad i bobl anabl i'r safle.

Byddai chwe swydd newydd yn cael eu creu fel rhan o'r cynllun, a chyfleoedd i bobl wirfoddoli yno hefyd.

Mae'r tŵr a'r bwthyn wedi'u hamgylchynu gan bedair erw o goetir ac mae'r safle o bwysigrwydd daearegol ac archeolegol.

Codwyd y tŵr yn 1817 fel cofeb i Farcwis cyntaf Môn, Henry William Paget, a gollodd ei goes dde ym mrwydr Waterloo.

Ffeithiau Tŵr Marcwis

  • Mae'r golofn yn 29 metr o uchder

  • Mae'n sefyll ar ddarn o graig metamorffaidd brin - blueschist - sydd ymysg yr hynaf o'i fath yn y byd

  • Mae'n rhaid dringo 115 o risiau pren i gyrraedd y top

  • Cafodd y cerflun efydd ei osod ar ben y tŵr yn 1860 pan fu farw'r Marcwis cyntaf

Ffynhonnell y llun, Anglesey Column Trust
Disgrifiad o’r llun,

Hen fwthyn y gofalwr wrth droed y tŵr

Yn ôl y cynghorydd lleol, Alun Mummery mae pentref Llanfairpwll wedi gweld colli'r ymwelwyr oedd yn dod i weld yr atyniad.

"Roedd o'n un o'r atyniadau mwyaf oedd gennym ni yn y pentref ar wahân i'r stesion," meddai.

"Dan ni'n gefnogol iawn ac yn falch iawn o weld y planiau."

Ychwanegodd Dwynwen Williams o Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis: "Mae'r gefnogaeth a'r angerdd sydd gan bobl leol dros y prosiect yma wedi bod yn anhygoel."

Agor y flwyddyn nesaf

Wrth groesawu'r cyhoeddiad am y grant, dywedodd wythfed Marcwis Môn, Charles Paget, sydd hefyd yn gadeirydd yr Anglesey Column Trust: "Mae swm sylweddol o arian cyfatebol i'w godi o hyd i gyrraedd y targed llawn, ond mae newyddion heddiw'n gam mawr yn y cyfeiriad cywir ac mae'n wych gwybod ein bod nawr gam yn nes at ddiogelu'r safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Er mwyn sicrhau'r grant sylweddol hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac i dalu costau'r prosiect yn llawn, mae'n rhaid i ni godi'r £580,000 sy'n weddill o ffynonellau eraill."

Ychwanegodd: "Mae yna frys i'n hymdrechion i sicrhau'r arian ar gyfer y prosiect oherwydd, os ydym yn aflwyddiannus, mae'n annhebygol y bydd cyfle arall o'r fath i adfer ac ailddefnyddio'r safle yn llawn.

"Ein gobaith ar hyn o bryd yw gallu sicrhau'r holl gyllid a chefnogaeth angenrheidiol a dechrau gweithio ar y safle ym mis Medi 2021 gyda'r bwriad o agor ym mis Mehefin 2022."

Yn y cyfamser mae Cronfa'r Loteri Genedlaethol hefyd wedi rhoi grant o £645,200 i Gyngor Caerdydd ar gyfer adfer adeiladau a gwella cynefin gwylanod nythu a phlanhigion morwrol ar Ynys Echni - man mwyaf deheuol Cymru.

Pynciau cysylltiedig